Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Cyfeirnod: Brogyntyn MS ii.1
Mae'r gyfrol hon (Porkington 10 gynt) yn un o'r llawysgrifau Saesneg Canol pwysicaf yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Cyfrol o ganol y bymthegfed ganrif yw hi, wedi ei hysgrifennu ar bapur ac ar femrwn, ac yn cynnwys casgliad o destunau amryw iawn, yn Saesneg yn bennaf, ynghyd ag ychydig yn Lladin. Mae'r rhain yn ymwneud â phob math o bynciau, o ddaroganau i gyfarwyddiadau ar gyfer amcangyfrif safle'r lleuad, o arwyddion y tywydd i feddyginiaeth, o gerdd Arthuraidd am hanes y marchog Gwalchmai i fucheddau saint, o ganu serch a chaneuon yfed i garolau. Mewn un man amlinellir nodweddion ceffyl da, mewn man arall rhestrir termau yn ymwneud â hela ac â cherfio'r helgig pan ddaw o'r gegin i'r bwrdd. Ceir yma draethawd ar blannu ac impio coed, yn ogystal â chyfarwyddiadau ar gyfer cynhyrchu, dewis a defnyddio lliwiau wrth addurno llawysgrifau. Trwy'r testunau hyn cawn gip ar fwrlwm bywyd yn yr Oesoedd Canol.
Mae rhai testunau, gan gynnwys ambell un o'r cerddi, yn gopïau unigryw, tra bod eraill, megis yr enwog Boar's Head Carol, ar gael mewn nifer o lawysgrifau eraill. Gwelir yma ddwylo un ar bymtheg o gopïwyr. Mae'n bosibl mai un ohonynt, ynteu perchennog cyntaf y llawysgrif, oedd 'H. Hattun' a enwir ar f. 52v. Dengys tystiolaeth fewnol mai yn fuan ar ôl 1463 y cwblhawyd y rhan gyntaf, a'r gweddill rywdro ar ôl 1453; teg fyddai cynnig dyddiad tua 1470 i'r gyfrol gyfan.
Ni wyddom i sicrwydd ymhle y'i copïwyd, ond byddai Swydd Gaer neu Swydd Amwythig yn cydfynd â thafodiaith y gweithiau Saesneg Canol, sydd yn perthyn i orllewin Canolbarth Lloegr. Ond gwyddom fod y llawysgrif ym meddiant Cymro yn gynnar yn yr unfed ganrif ar bymtheg, gan fod John ap Dafydd ap Gruffydd ap Howell, sydd fel arall yn anhysbys, wedi torri ei enw ar f. 26r. Erbyn yr ail ganrif ar bymtheg fe ddaeth y gyfrol fwy na thebyg i ddwylo teulu Owen o Glenennau, Sir Gaernarfon, ac oddi yno i blasty Brogyntyn yn Swydd Amwythig pan unwyd y ddwy ystad. Ailrwymwyd y llawysgrif yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Fe'i cyflwynwyd i'r Llyfrgell Genedlaethol ar adnau ym 1938 ac ym 1993 fe'i prynwyd ar gyfer y casgliad cenedlaethol ynghyd â hanner cant a phedair o lawysgrifau eraill o lyfrgell Brogyntyn.