Hanes y Llawysgrif
Mae'n hysbys fod y llawysgrif yn Abaty Awstin Sant, Caergaint erbyn dechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg. Daw'r dystiolaeth ynglŷn â hyn o un o ddwy lud-ddalen a ddiogelwyd ar ddiwedd y gyfrol. Dyma'r oll sy'n weddill o'r rhwymiad gwreiddiol gyda'r hen gloriau derw a welwyd gan J. Gwenogvryn Evans ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan oedd y llawysgrif yn dal ym Mheniarth, Meirionnydd. Y mae un o'r rhain yn dwyn nod llyfrgell Abaty Awstin Sant, Caergaint, ac enw'r rhoddwr, sydd bellach yn rhannol annarllenadwy ond y gellir ei ddehongli fel enw William Byholte (bl. 1292-1318), prior yr abaty. Credir hefyd mai Peniarth 28 oedd y copi o'r cyfreithiau Cymreig yr ymgynghorwyd ag ef gan John Peckham, archesgob Caergaint, 1279-94, pan anfonodd ei lythyr at y tywysog Llywelyn ap Gruffudd yn 1282, yn beirniadu moesau'r tywysog a'r Cymry drwyddi draw, a cheir ganddo ddau gyfeiriad at Gyfreithiau Hywel Dda yng nghorff y llythyr.
Yr oedd y llawysgrif yn dal yng Nghaergaint ar ddiwedd y 15fed ganrif yn ôl catalog o lyfrgell yr abaty a luniwyd tua 1491-7 (Dulyn, llawysgrif Llyfrgell Coleg y Drindod 360), gan fod 'Leges Howelda Wallici' yn digwydd yno. Ni wyddys dim o hanes diweddarach y llawysgrif, fodd bynnag, hyd nes i'r gyfrol ddod i feddiant Robert Vaughan, Hengwrt. Bu'r catalog llyfrau yn eiddo i Dr John Dee (1527-1608), yr astrolegydd, ac wrth ochr y cofnod uchod fe ysgrifennodd 'Leges Howelis Da'. Mae'n hysbys bod Dee wedi cael gafael ar nifer o lawysgrifau o Abaty Awstin Sant, Caergaint, ond nid oes tystiolaeth eglur fod Peniarth 28 yn un ohonynt.