Symud i'r prif gynnwys

Cyfeirnod: NLW MS 24068F

Henry de Gower (1277/9-1347)

Roedd Henry de Gower (1277/9-1347), brodor o Benrhyn Gŵyr, yn ysgolhaig eithriadol a wasanaethodd fel Canghellor Prifysgol Rhydychen o 1322-5, ac fel Archddiacon Tyddewi o tua 1323. Ar ôl marwolaeth yr Esgob David Martin ym mis Mawrth 1328, roedd ethol Gower, gŵr 50 mlwydd oed, gan Gabidwl y Gadeirlan ar yr 21ain o Ebrill yn enghraifft anghyffredin o Gymro’n cael ei ddyrchafu i esgobaeth yn y cyfnod canoloesol diweddar, gan i ddylanwad brenhinol a phabaidd fel arfer arwain at benodi ymgeiswyr o’r tu allan, gwŷr nad oeddynt yn Gymry.

Sefydlodd Gower Ysbyty Dewi Fendigaid yn Abertawe yn 1332, ailadeiladodd sawl rhan o’r Eglwys Gadeiriol yn Nhyddewi, ac adeiladodd y palas esgobol godidog y gellir ei weld yn Nhyddewi heddiw.


Confirmatio of Henry de Gower

Yn unol â phroses sefydledig y cyfnod, roedd angen i etholiad Gower gan Gabidwl Tyddewi gael ei gadarnhau gan Archesgob Caergaint. Roedd y cadarnhad ffurfiol hwn yn hanfodol cyn y câi’r esgob newydd ei gysegru yng Nghaergaint a’i orseddu yn ei gadeirlan ei hun.

Gan fod yr archesgob blaenorol wedi marw, nid oedd yna archesgob yng Nghaergaint yng ngwanwyn 1328. Serch hynny, aeth Gower (fel darpar esgob) ynghyd â chynrychiolydd swyddogol (proctor) y Cabidwl yn Nhyddewi ati’n gyflym ar y daith faith i Gaergaint lle, fis yn ddiweddarach, cawsant eu derbyn yn ffurfiol gan Brior Cabidwl y Gadeirlan fynachaidd, Henry o Eastry, a allai, drwy drefniant sefydledig, weithredu ‘awdurdod metropolitan’ pan oedd swydd yr archesgob yn wag.

Dywedodd y Dr Davies: “Mae’r ddogfen gadarnhau hon yn cofnodi bod y Prior yn fodlon â’r hyn a ddywedwyd wrtho, sef bod y darpar esgob yn llwyr deilwng, bod y broses o ethol wedi’i chynnal yn gywir ac yn briodol, ac na fynegwyd unrhyw farn i’r gwrthwyneb. Ar ôl holi rhagor ar y darpar esgob yn bersonol, cadarnhaodd y Prior yr etholiad yn ffurfiol ‘yn ein henw ac yn enw ein Cabidwl gan awdurdod metrowleidyddol ein Heglwys’, ac felly ni adawyd unrhyw amheuaeth ynghylch dilysrwydd ei rôl a’i awdurdod ei hun pan oedd y swydd yn wag.

“Mae ffynonellau eraill yn datgelu bod Gower wedi’i gysegru yng Nghaergaint ar y 12fed o Fehefin gan Stephen Gravesend, Esgob Llundain, a bod yr etholiad wedi’i gadarnhau’n ddiweddarach gan y Pab Ioan XXII ym mis Rhagfyr 1328, ond mae amseriad ei orseddu yn Nhyddewi yn aneglur.”

Cred y Dr Davies fod y ddogfen hon fwy na thebyg wedi’i chadw gan Briordy Cadeirlan y Drindod Sanctaidd neu Eglwys Crist, Caergaint, ac efallai’i bod wedi’i cholli ar ôl cynnwrf diddymu’r tŷ Benedictaidd hwnnw yn 1540. Ni wyddys dim am ei hynt rhwng hynny a’r 21ain ganrif: efallai’i bod wedi’i chadw gan hynafiaethwyr lleol yng Nghaint. Prynwyd y ddogfen gan y Llyfrgell yn arwerthiant Bonhams yn Llundain ym mis Mawrth 2015.


Llyfryddiaeth

  • 'Henry de Gower: bishop and builder', yn Glanmor Williams, The Welsh and their Religion. Historical essays (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1991), tt. 93-116