Hanes y Llawysgrif
Mae'r gwyliau a enwir yn y Calendr, ynghyd â phresenoldeb y mân-ddarlun o Thomas Sant o Gaergaint (f. 28v), yn dangos yn eglur i'r gwneuthurwr deilwra'r gyfrol ar gyfer prynwr o Loegr. Mae arysgrif o ddechrau'r unfed ganrif ar bymtheg yn y Calendr ar gyfer mis Mawrth (f. 3v) yn cyfeirio at farwolaeth Elizabeth Grey, gwraig Syr John Grey o Blisworth, Swydd Northampton, ac mae'r arfbeisiau a ychwanegwyd ar ymylon y dalennau mewn mannau eraill yn y gyfrol yn gysylltiedig â'r un teulu. Roedd Syr John Grey yn or-ŵyr i Reginald, y trydydd Barwn de Grey o Ruthun, y gŵr y bu i'w elyniaeth ag Owain Glyn Dŵr arwain at wrthryfel. Ni wyddom beth oedd hanes y llawysgrif rhwng dechrau'r unfed ganrif ar bymtheg a diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Ym 1895, prynwyd y gyfrol gan Henry Yates Thompson, casglwr llawysgrifau mwyaf ei genhedlaeth o bosibl, a bu'n rhan o'i gasgliad ef (fel MS 27) hyd nes ei werthu gan Sotheby's ar 23 Mawrth 1920, rhif lot 42, a'i brynu gan Miss Gwendoline E. Davies, Gregynog, Powys. Cyflwynodd Miss Margaret S. Davies, Gregynog y gyfrol, ynghyd â 'Llyfr Offeren Sherbrooke' (NLW MS 15536E), i Lyfrgell Genedlaethol Cymru ym 1951.