Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Cyfeirnod: Peniarth MS 540B
Mae’r llawysgrif Ladin hon yn enghraifft brin o lawysgrif o’r 12fed ganrif y credir iddi darddu o Gymru. Mae’n cynnwys rhan o draethawd gwyddonol Beda, De natura rerum.
Diwinydd, athronydd a hanesydd o Northumbria oedd Beda (673-735). Treuliodd y rhan fwyaf o’i fywyd ym mynachlogydd Wearmouth a Jarrow lle cafodd ei ddylanwadu gan y diwylliant Cristnogol newydd a grymus yn Lloegr. Ordeiniwyd Beda yn ddiacon yn 692 ac yn offeiriad yn 703.
Ysgrifennodd lawer o destunau diwinyddol, hanesyddol a gwyddonol gan gynnwys yr Historia ecclesiastica gentis Anglorum (‘Hanes Eglwysig y Saeson’) sy’n cyflwyno hanes Lloegr o amser Iŵl Cesar hyd at 731, ac a enillodd iddo’r teitl ‘tad hanes Lloegr’. Yn fuan ar ôl ei farwolaeth daeth yn adnabyddus fel Beda Ddoeth a gellir dod o hyd i’w feddrod yng Nghadeirlan Durham.
Oherwydd ei gredoau crefyddol, roedd gan Beda ddiddordeb mawr yn y byd naturiol fel creadigaeth Duw, ac mae ei draethawd gwyddonol ffurfiol ar ffenomenau naturiol, y De natura rerum, yn wyddoniadur o’r gwyddorau fel y’u dehonglwyd yr adeg hynny. Mae’r testun yn tynnu ar waith Pliniws, Sant Isidore o Seville ac eraill i roi esboniad o theori wyddonol gyfoes ym meysydd cosmoleg, amser a rhifyddeg ymhlith pethau eraill. Mae’r gwaith cyflawn yn cynnwys 51 o benodau ac mae’r testun cyflawn wedi’i gopïo i nifer o lawysgrifau a leolir mewn archifdai ledled y byd.
Llawysgrif rhwymiad lledr yw hon yn cynnwys dau ddarn dwyddalennog o bedair dalen ganol cwîr. Mae’r memrwn afreolaidd ei siâp yn galed gyda llawer o dyllau ynddo. Addurnwyd y testun â llythrennau cyntaf addurnol ac mae gan 3 o’r rhain (‘F’, ‘N’ a ‘M’) ffurfiau a phennau anifeilaidd rhubanog, tebyg i’r rheiny a welir mewn llawysgrifau Gwyddelig y cyfnod.
Mae hanes cynnar y llawysgrif yn anhysbys, er ei bod hi'n debygol iddi darddu o Lanbadarn Fawr yn ystod hanner cyntaf y 12fed ganrif. Ar waelod ffolio 4v. o’r llawysgrif mae’r gair ‘phia’, a chredir ei fod yn llawysgrifen yr hynafiaethydd Robert Vaughan o Hengwrt (c.1592–1667). Credir felly bod y llawysgrif wedi bod yn rhan o gasgliad Hengwrt hyd 1859 pryd y daeth, trwy gymynrodd, i feddiant W W E Wynne o Beniarth, a werthodd y llawysgrifau i Syr John Williams ym 1904.
Ceir nodyn arall, dyddiedig 1931, y tro hwn fe dybir yn llawysgrifen yr athro Lladin Edward Bensly, sy'n awgrymu fod y darn wedi dod yn rhydd o lawysgrif arall, o bosibl Peniarth MS 326.