Symud i'r prif gynnwys

Cyfeirnod: NLW MS 23849D

Ni wyddom ddim oll am ei hanes. Dyma ychwanegiad pwysig i lenyddiaeth Gernyweg Canol, sydd hefyd yn cyfoethogi'n sylweddol ein gwybodaeth am yr iaith ei hun, gan fod y testun yn cynnwys llawer o eiriau na chadwyd mohonynt mewn unrhyw ffynhonnell arall. Gan nad oes teitl ar y llawysgrif ei hun, dewiswyd y teitl modern gan y Llyfrgell Genedlaethol ar ôl ymgynghori ag arbenigwyr ar y Gernyweg.

Cynnwys Beunans Ke

Seiliwyd y ddrama ar Fuchedd Ke neu Kea, sant a gysylltir yn arbennig â Chernyw, ond â Llydaw, Cymru a Dyfnaint yn ogystal. Yn ôl crynodeb Ffrangeg o destun Lladin coll, galwyd ar Sant Ke i ddod o Lydaw i geisio cymodi rhwng y brenin Arthur a'i nai Modred pan gododd cynnen rhyngddynt. Mae'n amlwg fod y rhan hon o'r stori yn ddyledus i Historia Regum Britanniae (Hanes Brenhinoedd Prydain) Sieffre o Fynwy, sydd fwy na thebyg yn esbonio pam fod un rhan o'r ddrama hon yn ymwneud yn bennaf â'r brenin Arthur.


Y llawysgrif

Collodd y llawysgrif nifer o'i dail dros y blynyddoedd, fel y dengys y daleniad gwreiddiol, ond noda'r sawl a'i copïodd hi yn ail hanner yr unfed ganrif ar bymtheg fod y gyfrol hŷn a oedd o'i flaen hefyd yn wallus (ff. 2r, 20r). Tua 1500, o bosibl, y copïwyd y llawysgrif honno. Mae testun y ddrama mewn mydr ac odl ac wedi ei rannu'n benillion, gyda'r cyfarwyddiadau llwyfan yn Lladin. Fel yn achos Beunans Meriasek (llsgr. Peniarth 105B, dyddiedig 1504), sef yr unig ddrama arall am sant mewn Cernyweg Canol sydd ar glawr, mae'n debyg mai yng nghlas-eglwys Glasney, Penryn, y gwnaed y copi ysgrifenedig cyntaf o Beunans Ke, a gellid dyfalu bod y ddwy lawysgrif o bosibl wedi dod i Gymru gyda'i gilydd.