Y llawysgrif
Canolbwyntia rhan gyntaf y gyfrol ar achau disgynyddion Pymtheg Llwyth Gwynedd, y mwyafrif yn deuluoedd o Fôn (tt. 1-91; rhestrir y teuluoedd ar tt. xxvii-xxix). Ychwanegwyd arfbais liwiedig teulu Llwydiarth Esgob i gyd-fynd ag ach Hugh Hughes ei hunan ar t. 40.
Cynhwysa’r gyfrol hefyd nodiadau hynafiaethol, trioedd a chynghorion ynghyd â nifer helaeth o gerddi Cymraeg, rhai wedi eu copïo o ‘Delyn Ledr’ William Morris (1705-1763), Caergybi, ac eraill o gyfrol Evan Evans, Some specimens of the poetry of the antient Welsh bards (Llundain, 1764).
Ymysg cerddi cyfoes y llawysgrif, ceir rhai gan David Ellis (1736-1795), Evan Evans (‘Ieuan Brydydd Hir’, 1731-1788), Hugh Hughes, Robert Hughes (‘Robin Ddu yr Ail o Fôn’, 1744-1785), a Goronwy Owen (1723-1769). Diweddarwyd rhai o nodiadau hynafiaethol y gyfrol gan law arall yn ddiweddarach, hyd oddeutu 1858.
Trwsiwyd ac ail-rwymwyd y llawysgrif yn y Llyfrgell Genedlaethol. Cedwir y cloriau lledr gwreiddiol yn ddiogel gyda’r gyfrol, ynghyd â chopi o ewyllys Hugh Hughes, dyddiedig 27 Chwefror 1776, a dau ddernyn o lythyrau o’r 19eg ganrif.