Hyfforddiant yn arlunydd
Dychwelodd Thomas Jones i Gymru gyda'i dad yn 1761 ac yno fe'i perswadiwyd gan hen gyfaill teuluol, Charles Powell, Castell Madog, i ymuno ag ysgol luniadu newydd, gyffrous wedi ei threfnu gan William Shipley. Erbyn Tachwedd 1761, yr oedd Thomas Jones wedi ei gofrestru'n fyfyriwr yn yr ysgol honno ac yn gwneud cynnydd buan.
Cafodd ei benodi'n brentis i'r Cymro Richard Wilson ym mis Mawrth 1763, a chyn bo hir ymunodd Joseph Faringdon ag ef. Cadwodd y ddau hyn ddyddiaduron yn ystod eu gyrfaoedd ac y mae'r llawysgrifau hynny, erbyn heddiw, ymhlith y papurau pwysicaf a gadwyd gan arlunwyr y ddeunawfed ganrif.
Yr oedd stiwdio Richard Wilson, ger Covent Garden, yn amgylchfyd ardderchog ar gyfer dysgu arferion gorau ei ddydd. Mynnodd Wilson fod Thomas Jones yn copïo'r lluniadau sialc a grëwyd ganddo yn yr Eidal rhwng 1750 a 1757. Yn ddiweddarach yn ei astudiaethau gyda Wilson, dysgodd Thomas Jones sut i gopïo gwaith ei feistr a dysgodd, yn bwysig ddigon, lawer o wybodaeth am dechneg y gŵr mawr hwnnw.