Symud i'r prif gynnwys

Cyfeirnod: Peniarth MS 513D

Pwy oedd Merryell Williams?

Ganwyd Merryell Williams (1629-1703) yn 1629, yn ferch i Richard ac Elizabeth Powell o Worthen, Sir Amwythig. Roedd ei mam yn wyres i Syr Thomas Bromley, a fu'n Arglwydd Ganghellor o 1579 tan 1587. Priododd Merryell â John Williams (1627-1685), un o feibion teulu cyfoethog Ystâd Ystumcolwyn a oedd yn dal tiroedd mewn sawl plwyf megis Meifod a'r Trallwng. Am weddill ei hoes bu Merryell yn feistres ar yr ystâd eang hon. Bu farw ym mis Ionawr 1703.

Fel gwraig i uchelwr, byddai Merryell yn gyfarwydd â dyletswyddau'r ferch yn y cartref, er enghraifft coginio, trefnu gwleddoedd, gwneud a chadw gwahanol winoedd, trafod gwlân a chyflawni holl waith llaethdy. Er na fyddai'n gyfrifol am gyflawni'r holl waith hyn ei hun, byddai'n rhaid iddi wybod digon i fedru hyfforddi eraill, megis cogyddion a morynion, ar beth oedd angen ei wneud. Yn y cyfnod hwn, byddai gwragedd a fedrai ysgrifennu yn casglu a chofnodi ryseitiau ar gyfer defnydd personol ac er mwyn rhannu cyfrinachau'r gegin gyda'i gilydd. Dros 300 mlynedd ers i Merryell Williams gychwyn cofnodi eu ryseitiau, mae ei chyfrol unigryw ar gael ar-lein ar gyfer cenhedlaeth newydd o gogyddion.

Cynnwys y llyfr ryseitiau

Ryseitiau coginio ar gyfer tai uchelwyr yw cynnwys y llawysgrif, a cheir mynegai llawn iddynt ar ddechrau'r gyfrol. Rhennir y ryseitiau i'w hadrannau priodol. Ceir cyfarwyddid ar sut i gadw a storio cig anifeiliaid, adar a physgod yn ogystal â'r wybodaeth angenrheidiol ar gyfer eu coginio, er enghraifft sut mae paratoi pen mochyn a sut i stiwio adar y to. Rhoddir canllawiau ar sut i gadw llysiau a ffrwythau a gwneud jam a cheir ryseitiau ar gyfer pobi bwydydd megis bara Ffrengig a bisgedi. Mae yna ganllawiau ar gyfer creu gwinoedd a diodydd gan gynnwys gwin briallu a brandi ceirios du, a ryseitiau ar gyfer gwahanol feddyginiaethau megis moddion ar gyfer atal chwydu ac at bigyn clust.

Cyfieithwyd llawer o ryseitiau'r gyfrol hon i'r Gymraeg gan y Dr Enid Pierce Roberts yn ei llyfr Gwraig orau o'r Gwragedd (Gwasg Pantycelyn, 2003). Wrth gyfieithu o'r gyfrol, dylanwadwyd ar Dr Pierce Roberts gan draddodiad llafar ei nain, a oedd yn hanu o Sir Drefaldwyn, ynghyd â'i gwybodaeth am yr hen ddulliau o goginio. O ganlyniad, mae'r eirfa Gymraeg a ddefnyddir yn agos iawn i'r hyn a fyddai'n cael ei defnyddio yng nghyfnod Merryell Williams.


Darllen ymhellach

  • Dr Enid Pierce Roberts, Gwraig orau o'r Gwragedd (Gwasg Pantycelyn, 2003)
  • Bobby Freeman, First catch your peacock : her classic guide to Welsh food (Y Lolfa, 2006)