Cynnwys Hanes Teulu Gwedir
Ffrwyth ymchwil Syr John gan ddefnyddio cyfuniad o lyfrau hanes a ffynonellau swyddogol yw'r 'Hanes'. Yn ogystal, dibynnai ar ei gysylltiadau agos gyda beirdd, hynafieithwyr ac ysgolheigion. Dechreua Syr John drwy adrodd hanes ei hynafiaid o ganol y ddeuddegfed ganrif gan ddechrau gyda theulu Owain Gwynedd. Honnai i'w deulu ddisgyn o ail fab Owain, sef Rhodri. Prif thema'r 'Hanes' wedyn yw dilyn hynt a helynt teulu un o ddisgynyddion Rhodri, Hywel ap Dafydd, yn ystod blynyddoedd cythryblus yr oesoedd canol diweddar. Mae'n edrych ar sut y ffynnodd y teulu yn ystod y cyfnod hwn er gwaethaf anawsterau cymdeithasol ac economaidd gan fynd ymlaen i ymsefydlu yng Ngwedir.
Oherwydd prinder ffynonellau hanes Cymru o ddechrau'r cyfnod modern cynnar y mae'n ffynhonnell hynod o bwysig. Er hyn, nid yw'n gwbl ddibynadwy. Weithiau, pan oedd bwlch yn yr hanes, defnyddiodd Syr John ei ddychymyg i'w lenwi. Hefyd, ceir nifer o straeon a thraddodiadau ynddo lle nad oes sail hanesyddol o gwbl i'w cefnogi.