Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Cyfeirnod: NLW MS 11568B
Goronwy Owen (1723-1769) oedd un o feirdd amlycaf Cymru'r ddeunawfed ganrif a meistr ar y gynghanedd. Cynnwys llawysgrif NLW MS 11568B gopi drafft anghyflawn o'i gywydd 'Hiraeth' yn llaw un arall o wŷr amlwg y ganrif honno, Lewis Morris (1701-1765).
Ganed Goronwy Owen yn 1723 i deulu tlawd ym mhlwyf Llanfair Mathafarn Eithaf, Ynys Môn. Bu ei fam, Siân Parry, yn forwyn ym Mhentre-eiriannell, cartref Lewis Morris a oedd yn aelod o deulu enwog y Morysiaid. Yr oedd ei dad, Owen Gronw, yn grefftwr a gallai gynganeddu i ryw raddau. Mynychodd Ysgol Friars, Bangor lle dysgodd Ladin a Groeg i safon uchel. Cymerodd hefyd ddiddordeb arbennig mewn barddoniaeth ac erbyn iddo fod yn ddwy-ar-bymtheg mlwydd oed, yn ôl ei dystiolaeth ei hun, gallai gystadlu yn erbyn beirdd llawer hŷn. Anogwyd ei ddatblygiad fel bardd gan Lewis Morris.
Wedi cyfnod byr yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen bu'n athro cynorthwyol ym Mhwllheli a Dinbych, ac yna'n gurad yn Llanfair Mathafarn am flwyddyn, ond bu rhaid iddo ymadael. Symudodd oddi yno i Groesoswallt lle priododd am y tro cyntaf yn 1747. Dihangodd oddi yno i osgoi casglwyr dyledion ac aeth i Donnington ger yr Amwythig lle cynhyrchodd nifer o'i gerddi mwyaf adnabyddus. Oddi yno aeth i Walton a Northolt, Llundain ond erbyn hyn roedd yn byw'n gynyddol afrad a phoenai Lewis Morris ei fod am golli ei swydd fel curad. Yn 1757 derbyniodd swydd athro mewn ysgol ramadeg yn Williamsburgh, Virginia. Bu farw ei wraig a phlentyn iddo ar y fordaith. Ailbriododd yn America ond bu farw ei ail wraig o fewn ychydig fisoedd. Collodd ei swydd yn yr ysgol o ganlyniad i'w or-yfed a threuliodd ei flynyddoedd olaf fel person plwy St. Andrew's, Brunswick County lle bu iddo briodi am y trydydd tro.
Ceisiodd Owen adfer barddoniaeth Gymraeg o'i dirywiad yn dilyn ymseisnigo noddwyr traddodiadol y beirdd, sef y bonedd Cymreig. Credai y gellid ailddehongli'r mesurau caeth traddodiadol ar gyfer ei oes ei hun. Yn lle cywyddau yn moli perchentyaeth bonheddwyr, ceir cerddi yn delio â themâu megis hiraeth a myfyrdodau ar y bywyd Cristnogol. Ymhlith ei gerddi gorau y mae 'Cywydd yn ateb Huw'r Bardd Coch o Fôn' ac 'Awdl Gofuned'.
Fel arfer cyfeirir at y cywydd 'Hiraeth' a geir mewn fersiwn drafft anghyflawn yn y llawysgrif hon wrth deitl llawn y fersiwn gorffenedig sef 'Cywydd ateb i annerch Huw ap Huw'r bardd o Lwydiarth Esgob, ym Môn' neu weithiau wrth y teitl byrrach 'Cywydd molawd Môn'. Cyfansoddwyd y cywydd tua 1756 pan oedd Goronwy'n byw yn Northolt yn Llundain.
[Adwaenir y Cywydd hwn fel un o gynyrchion goreu y Bardd. Sicr fod ynddo frawddegau fyddant byw oesau lawer ; a chryfach efallai nag a geir yn yr un o'i gywyddau eraill.]
DARLLENAIS awdl dra llawn serch,
Wych enwog fardd o'ch annerch.
A didawl eich mawl im' oedd-
Didawl a gormod ydoedd.
Ond gnawd mawl bythawl lle bo,
Rhyddaf i'r gwr a'i haeddo ;
Odidog, mi nid ydwyf,
Rhyw sâl un, rhy isel wyf.
Duw a'm gwnaeth, da im' y gwnel,
Glân Iesu, galon-isel,
Ac ufudd fron, dirion D
O farddwaith od wyf urddawl,
Poed i wau emynau mawl-
Emynau dâl am einioes,
Ac awen i'r Rhen a'i rhoes.
Gwae ddiles gywyddoliaeth,
Gwae fydd o'i awenydd waeth ;
Dég Ion, os gweinidog wyf,
Digwl y gweinidogwyf;
Os mawredd yw coledd cail,
Bagad gofalon bugail ;
Ateb a fydd rhywddydd rhaid
I'r Ion am lawer enaid.
I atebol nid diboen,
Od oes "Barch", dwys yw y boen;
Erglyw, a chymhorth, Arglwydd,
Fy mharchus arswydus swydd ;
Cofier, ar ol pob cyfarch,
Nad i ddyn y perthyn parch;
Nid yw neb ddim ond o nawdd
Y dinam Ion a'i doniawdd;
Tra 'n parcher trwy ein Perchen,
O cheir parch, diolch i'r Pen;
Ein Perchen iawn y parcher,
Pa glod sy'n ormod i Ner?
Parched pob byw ei orchwyl,
Heb gellwair â'i air a'i wyl,
A dynion ei dŷ annedd,
A'i allawr, Ior mawr a'i medd;
Dyna'r parch oll a archaf,
Duw Ion a'i gwyr, dyna gaf.
Deled i'm Ior barch dilyth,
Ond na boed i un dyn byth,
Nag eiddun mwy na goddef,
Tra pharcher ein Ner o nef ;
Gwae rodres gwyr rhy hydron,
Gwae leidr a eirch glod yr Ion ;
Gocheler, Ile clywer clod,
Llaw'n taro lleu-haint Herod.
Ond am Fon hardd, dirion, deg,
Gain dudwedd, fam Gwyndodeg,
Achos nid oes i ochi,
Wlad hael o 'madael â mi;
Cerais fy ngwlad, geinwlad gu-
Cerais, ond ofer caru !
Dilys, Duw yw'n didolydd:
Mawl iddo, a fynno fydd.
Dyweded Ef na'm didol,
Gair o'i nef am gyr yn ol ;
Disgwyl, a da y'm dysger,
Yn araf a wnaf, fy Ner.
Da ddyfydd Duw i ddofion,
Disgwylied, na 'moded Mon ;
Ac odid na cheiff gwedi,
Gan Ion, Lewis Mon a mi:
Neu ddeuwr awen ddiell,
I ganu gwawd ugain gwell.
Lewis Mon a Goronwy,
Ni bu waeth gynt hebddynt hwy;
A dilys na raid alaeth
I Fon am ei meibion maeth ;
Nac achos poen, nac ochi,
Na chŵyn, tra, parhaoch chwi.
Brodir gnawd ynddi brydydd ;
Heb ganu ni bu, ni bydd.
Syllwch feirdd o Gaswallon
Law-hir, hyd ym Meilir Mon
Mae Gwalchmaib erfai eurfawr ?
P'le mae Einion o Fon fawr?
Mae Hywel ap Gwyddeles-
Pen prydydd, lluydd a lles ;
Pen milwr, pwy un moliant ?
Enwog ŵr, ac un o gant,
lawn genaw Owen Gwynedd ,
Gwae'n gwlad a fu gweinio'i gledd.
Bwy unfraint â'r hen Benfras?
Gwae fe fyw, ei lyw a las.
Mae'r Mab Cryg oedd fyg pan fu
Ab Gwilym yn bygylu?
Dau gydgwys, gymhwys gymhar,
Un wedd ag ychen yn àr.
Cafed ym Mon dduon ddau,
Un Robin edlin odlau,
A Gronwy gerddgar union,
Brydydd o Benmynydd Mon.
Mae Alaw? Mae Caw? Mae cant?
Mae miloedd mwy eu moliant ?
Pwy a rif dywod Llifon?
Pwy rydd i lawr wŷr mawr Mon?
Awenyddol iawn oeddynt,
Yn gynar, wedd Ceisar, gynt .
Adroddwch, mae'r Derwyddon,
Urdd mawr, a fu'n harddu Mon ?
I'r bedd yr aethant o'r byd,
O'ch alar, heb ddychwelyd.
Hapus yw Mon o'u hepil,
Ag o'r iawn had, gywrain hil.
Clywaf ariâl i'm calon
A'm gwyth , grym yni Mon ;
Craffrym, fel cefnllif cref-ffrwd
Uwch eigion, a'r fron yn frwd.
Gorthaw dón, dig 'wrthyd wyf,
Llifiaint, distewch tra llefwyf:
Clyw, Fon, na bo goelion gau,
Nag anwir, fyth o'm genau ;
Gwiried Ion a egorwyf,
Dan Ner, canys Dewin wyf :
" Henffych well, Fon, dirion dir,
Hyfrydwch pob rhyw frodir:
Goludog, ac ail Eden,
Dy sut , neu Baradwys hen :
Gwiwddestl y'th gynysgaeddwyd,
Hoffder Duw Ner, a dyn wyd ;
Mirain wyt ym mysg moroedd,
A'r dw'r yn gan' tŵr it' oedd.
Eistedd ar orsedd eursail
Yr wyd, ac ni welir ail ;
Ac eurahd wyt bob goror,
Arglwyddes a meistres môr.
Gwyrth y rhot trwod y traidd,
Ynysig unbenesaidd.
Nid oes hefyd, byd al barn,
Gydwedd yt', ynys gadarn,
Am wychder, llawnder, a lles,
Mwnai 'mhob cwr o'th mynwes,
Dyffrynoedd, glynoedd, glanau,
Pob peth yn y toreth tau ;
Bara a chaws, bir a chig,
Pysg, adar, pob pasgedig:
Dy feichiog ddeiliog ddolydd
Ffrwythlon, megis Saron, sydd ;
A phrenau dy ddyffrynoedd,
Crwm lwyth, megis Camel oedd.
" O ! mor dirion, y Fon fau,
Dillad dy ddiadellau !
Cneifion dy ddâ gwynion gant,
Llydain, a'th hardd ddilladant.
Dawnus wyt, then ei sail,
Prydferth heb neb ryw adfail ;
A thudwedd bendith ydwyt,
Mawl dy Ner, aml ei dawn wyt.
Os ti a fawl nefawl Ner,
Dilys y'th felys foler
Dawnol fydd pawb o'th dynion,
A gwynfyd 'y myd ym Mon !
Dy eglwyswyr, deg loywsaint,
A'th leygion yn sywion saint,
Cryfion yn ffrwythau crefydd
Fyddant, a diffuant ffydd.
Yn lle malais, trais, traha,
Byddi'n llawn o bob dawn da,
Purffydd, a chariad perffaith;
Ffydd, yn lle cant mallchwant maith;
Yn lle aflwydd, tramgwydd trwch,
Digon o bob rhyw degwch;
Undeb, a phob rhyw iawnder,
Caru, gogoneddu Ner;
Dy enw a fydd, da iawn fod,
Nef fechan y Naf uchod ;
Rhifir di'n glodfawr hefyd
Ar gyhoedd, gan bobloedd byd ;
Ac o ran maint, braint, a bri,
Rhyfeddod hir a fyddi.
" Bellach f'ysbryd a ballawdd,
Mi'th archaf i Naf a'i nawdd.
Gwilia rhag ofergoelion,
Rhagrith, er fy mendith, Mon.
Poed yt' hedd pan orweddwyf
Ym mron llawr estron lle'r wyf.
Gwae fi na chawn enwi nôd,
Ardd wen i orwedd ynod
Pan ganer trwmp Ion gwiwnef,
Pan gasgler holl nifer nef,
Pan fo Mon a'i thirionwch
O wres fflam yn eirias fflwch,
A'i thórog wythi arian,
A'i phlwm a'i dur yn fflam dân!
Pa les cael lloches o'r llaid ?
Duw rano dŷ i'r enaid?
Gwiw ganaid dŷ gogoniant,
Yn nghaer y ser, yn nghôr Sant:
Ac yno'n llafar ganu,
Eirian eu cerdd i'r Ion cu,
Poed Gwyr Mon, a Goronwy,
Heb allael ymadael mwy:
Cyduned a llefed llu
Monwysion, "Amen, Iesu !"