Symud i'r prif gynnwys

Cyfeirnod: NLW MS 5276D a 3054D



Pwy oedd Elis Gruffudd?

Ganwyd Elis Gruffudd (‘Y milwr o Galais’) tua 1490 yng Ngronant Uchaf ym mhlwyf Llanasa, sir y Fflint. Tua 1510 ymunodd â byddin Lloegr a bu’n ymladd yn yr Iseldiroedd a Sbaen. Erbyn 1518 roedd yn gweithio i Syr Robert Wingfield, bonheddwr o Suffolk, gan symud i Calais yn 1520 lle'r oedd Wingfield yn llysgennad. Rhwng 1524 a 1529, bu’n geidwad ar blasty Syr Robert yn Llundain, cyn dychwelyd i Galais lle'r arhosodd am weddill ei oes. Ni wyddom pa bryd y bu farw.

Llawysgrif NLW 5276D

Mae’r llawysgrif hon yn cynnwys rhan gyntaf cronicl Elis Gruffudd, sydd yn cynnwys dros 500 o ddalennau. Yn y llawysgrif mae’n ceisio disgrifio hanes y byd mewn chwe oes, o’i gread i’r Oes Gristnogol. Roedd y patrwm hwn o esbonio hanes y byd mewn chwe oes yn boblogaidd iawn yn yr Oesoedd Canol. Roedd yn fodd Cristnogol o gyfnodoli hanes a gafodd ei amlinellu gan yr athronydd a’r diwinydd Awstin Sant tua’r flwyddyn 400 OC.

Yn y cronicl mae Elis Gruffudd yn cyfyngu ei ddisgrifiad o bum oes gyntaf hanes y byd i hanner cyntaf y llawysgrif, ac felly i chwarter yr holl gronicl. Mae’n rhoi mwy o sylw i’r chweched oes, sef yr Oes Gristnogol, yn arbennig hanes Prydain a Ffrainc sydd yn parhau yn ail ran y cronicl, sef Llawysgrif 3054D.  Mae’n gorffen y llawysgrif hon gyda hanes y Goncwest Normanaidd yn Lloegr.


Llawysgrif NLW 3054D

Mae Llawysgrif NLW 3054D yn cynnwys ail ran cronicl Elis Gruffudd, sef y rhan sy’n trafod hanes Lloegr a Chymru o gyfnod Gwilym Orchfygwr, hyd at 1552. Ceir 688 dalen ynddi ac fe’i rhwymwyd mewn byrddau derw wedi eu gorchuddio â lledr. Mae’r ddalen gyntaf wreiddiol ar goll.

Mae’r llawysgrif hon yn taflu goleuni ar fywyd Gruffudd ei hun, a hefyd ar fywydau’r Cymry eraill a ymfudodd i Lundain a Chalais. Yn ogystal, gwelwn agwedd y Cymry tuag at y ddau frenin Tuduraidd cyntaf, Harri VII ac VIII, ac mae’n trafod hanesion Cymreig mewn cyd-destun Seisnig.


Darllen pellach

  • J. Hunter, Soffestri'r Saeson (Caerdydd, 2000)
  • T. Jones, ‘A Welsh chronicler in Tudor England’, Cylchgrawn Hanes Cymru, 1 (1960–63), 1–17
  • C. Lloyd-Morgan, ‘Elis Gruffydd a thraddodiad Cymraeg Calais a Chlwyd’, Cof Cenedl, 11 (1996), 31–58
  • P. Morgan, ‘Elis Gruffudd yng Nghalais’, Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 21 (1964–6), 214–18
  • Report on manuscripts in the Welsh language, Historical Manuscripts Commission, Cyfrol 1, (1898–1910), (tud. 214–21)
  • Brynley F. Roberts, ‘Gruffudd, Elis (b. c.1490, d. in or after 1556)’, Oxford Dictionary of National Biography, (Rhydychen, 2004)