Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd Oriel Hengwrt, sy'n dal arddangosfa Trysorau, ar gau ar Ddydd Llun 9 Medi. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Cyfeirnod: NLW MS 12450E
Ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael ynglŷn â gwisg merched o haenau is cymdeithas yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg. Mae'r llawysgrif hon yn bwrw rhywfaint o oleuni ar y pwnc.
Rhestr yw Llawysgrif NLW 12450E o daliadau gan Ieuan ap Rees ap David o Wicwer, Sir Ddinbych, i'w forwyn 'Ellin vawr'. Gwnaed llawer o'r taliadau iddi nid mewn arian ond mewn rhoddion o ddillad neu frethyn i wneud dillad. Cofnodir y prisiau a dalwyd gan Ieuan am y dillad a'r brethyn yn y rhestr. Mae'r rhestr fwyaf gynhwysfawr yn Gymraeg, ond rhestrir rhai o'r eitemau sydd ar y rhestr hon hefyd mewn rhestr fyrrach Saesneg.
Yn ôl nodyn ar ddechrau'r rhestr mae'n gopi o'r rhestr wreiddiol a wnaed oherwydd achos llys lle roedd Ieuan ap Rees ap David yn ddiffynnydd ac Elin a George Gruff[ydd] ap D[avid] ap M[ered]edd yn achwynwyr. Ymddengys felly i'r rhestrau gael eu copïo wedi i Elin ymadael â'i swydd a phriodi.
Yr oedd Ieuan ap Rees ap David yn aelod o deulu bonheddig y Lloydiaid a bu ei fab, John Lloyd, yn gofiadur Dinbych. Bu farw Ieuan rywbryd tua 1600-1610.
Oherwydd nifer yr eitemau o ddillad ar y rhestr mae'n debyg iddi gael ei llunio dros nifer o flynyddoedd. Ymddengys fod Ieuan yn gyflogwr eithaf hael - gwnaed rhai eitemau o'i frethyn ei hun ac ni chodwyd tâl am y rhain. Mae'n ddiddorol nodi prisiau gwahanol eitemau, fel 3 ceiniog am bâr o fenig ac 8 swllt am het ffelt o Gaer. Gwnaed ffedogau a smociau o liain fel arfer ond jercinnau a pheisiau o frethyn neu wlanen. Yn ogystal â'r eitemau iwtilitaraidd fel peisiau a smociau, cyflenwyd Elin ag eitemau mwy addurniadol fel coleri a rhuban i ddal ei gwallt.