Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Cyfeirnod: Cwrtmawr MS 114B
Daeth y llawysgrif hon i’r Llyfrgell Genedlaethol fel rhan o gasgliad J H Davies (1871-1926), Cwrtmawr, Llangeitho ar ei farwolaeth. Mae’n nodi iddo ei derbyn yn rhodd gan Edward Owen o Swyddfa'r India yn 1901. Yn ôl Daniel Huws mae'r rhan fwyaf o'r llawysgrif yn llaw John Hughes, offeiriad a fu’n gweinidogaethu naill ai yn Sir Gaernarfon neu yn Sir Fôn yn ystod yr 17eg ganrif.
Yn rhan gyntaf y llawysgrif, testunau crefyddol a geir yn bennaf: gweddïau, salmau a darnau eraill o’r Ysgrythur, ‘Ystori Peilat’ a ‘Buchedd Marged’. Yn yr ail ran ceir casgliad o ganu rhydd a chywyddau gan gynnwys gwaith gan Ddafydd ap Gwilym a Dafydd Ddu o Hiraddug.
Mae’r llawysgrif hefyd yn cynnwys copi o ‘Ymddiddan Tudur a Gronw’ gan y clerigwr Robert Holland (1556/7-1622). Ganwyd Holland yng Nghonwy ond treuliodd y rhan fwyaf o’i oes yn gweinidogaethu mewn plwyfi yn Sir Benfro. Mae ei draethawd yn ddadl yn erbyn consurwyr a dewiniaid a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1600 ac sydd yn adlewyrchu diddordeb yr oes mewn gwrachyddiaeth. Yn ogystal ceir rhestr o argoelion tywydd yn seiliedig ar symudiadau’r lleuad ac ofergoelion poblogaidd yn gysylltiedig â dydd Calan.