Cynnwys Ymddiddan rhwng henwr a phlentyn
Mae Llawysgrif NLW 11431B yn cynnwys tri thudalen o ddrafft anorffenedig yn llaw Morgan Llwyd o ddeialog rhwng hen ŵr a phlentyn ynghylch y Beibl. Mae'n debygol na orffennwyd y deialog, gan fod lle gwag ar ddechrau'r tudalen cyntaf. Nid yw'r llawysgrif wedi'i chyhoeddi ond gwelir arddull tebyg yn un arall o'i weithiau, sef Y Disgybl a'r athro.