Symud i'r prif gynnwys

Cyfeirnod: Brogyntyn MS I.2

Wmffre Dafis (bu farw 1635) a Theodore Price (1570?-1631)

Brodor o gyffiniau Harlech oedd Wmffre Dafis. Roedd yn fab i Dafydd ap Gruffudd, a dywedir ei fod yn disgyn o Bymtheg Llwyth Gwynedd. Bu'n ficer Darowen, sir Drefaldwyn, o 1577 hyd ei farwolaeth yn 1635. Copïodd nifer o lawysgrifau Cymraeg yn ystod ei oes, megis Bodewryd 1, Llawysgrif Ychwanegol y Llyfrgell Brydeinig 14933, Llanstephan 35 a 118, Llawysgrif LlGC 3056D (Mostyn 160) a Llyfrgell Prifysgol Bangor: Gwyneddon 1. Roedd yn ddyn tra dysgedig ac yn feistr ar nifer o ieithoedd, ond dywedir mai'r Gymraeg a'i llên oedd ei ddiddordeb pennaf, a chyfieithodd nifer o lyfrau i'r Gymraeg. Roedd gan feirdd y cyfnod gryn dipyn o barch tuag ato a chanwyd cywyddau iddo gan Rhisiart, Siôn a Gruffudd o deulu Phylipiaid Ardudwy, ac hefyd gan Ieuan Tew Brydydd o Arwystl, ac Evan Lloyd o Waun Einion.

Copïodd Wmffre Dafis y llawysgrif hon yn 1599 ar gyfer Dr. Theodore Price (1570?-1631), nai i'w wraig, sef Sioned ferch Edward Stanley. Ganwyd Price ym Mronyfoel, plwyf Llanenddwyn, sir Feirionnydd, a chafodd ei addysg yng Ngholeg yr Holl Eneidiau, Rhydychen. Yn y man daeth yn gymrawd yn Ngholeg yr Iesu ac yna'n brifathro ar Hart Hall, Rhydychen, o 1604 hyd 1614 pan gafodd ei ddoethuriaeth mewn Diwinyddiaeth yn y Coleg Newydd.

Pan anfonwyd y gyfrol hon o farddoniaeth ato yn 1599, roedd Theodore Price yn offeiriad yn Bletchingley, swydd Surrey ac yn ganon yn Eglwys Gadeiriol Caerwynt. Fel nifer o Gymry alltud ei genhedlaeth, gwerthfawrogai'r rhodd o farddoniaeth Gymraeg.

Bu Price farw yn Rhagfyr 1631 ond ni wyddom sut yr aeth ei gyfrol i Blas Brogyntyn, ger Croesoswallt. Yn 1934 cyflwynwyd y gyfrol ar adnau i Lyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC), Aberystwyth, gan 3ydd Arglwydd Harlech ynghyd â detholiad o lawysgrifau Cymraeg o'i lyfrgell ym Mrogyntyn. Ym mis Mawrth 1993 fe brynwyd y llawysgrif gan LlGC oddi wrth 6ed Arglwydd Harlech.

Darllen pellach