Symud i'r prif gynnwys

Cyfeirnod: NLW MS 5390D

Disgrifiad o'r llawysgrif

Mae’r llawysgrif yn dyddio o hanner cyntaf yr 17eg ganrif ac mae’n cynnwys dramâu, cerddi, marwnadau a nodiadau amrywiol eraill yn y Gymraeg, y Saesneg a’r Lladin.  Ceir ynddi 271 dalen a nodir rhif tudalennau 409 – 542 wyneb i waered, o’r cefn. Mae cloriau lledr gwreiddiol i’r llawysgrif a gwelir gweddillion bwcl pres ar un ochr.

Teulu Salusbury, Lleweni

Un o deuluoedd enwocaf gogledd Cymru yn yr 16eg ganrif a’r 17eg ganrif oedd teulu Salusbury o Leweni. Er bod eu tarddiad yn anelwig, credir mai o swydd Henffordd y deuai’r teulu yn wreiddiol ac iddynt ymgartrefu yn Lleweni tua 1334. Parhaodd y stad yn nwylo’r teulu hyd nes i John Salusbury (m. 1684), y 4ydd Barwn a’r olaf, farw heb etifedd gwrywaidd. Pasiodd y stad i’w chwaer, Hester Salusbury, a briododd Syr Robert Cotton.


John Salusbury

Mab i’r enwog Catrin o Ferain oedd y bardd Saesneg John Salusbury. Etifeddodd Salusbury y stad yn 1586 pan oedd ond ugain oed. Yn yr un flwyddyn priododd Ursula, merch Henry Stanley, 4ydd Iarll Derby. Daeth yn sgweier o gorfflu y Frenhines Elizabeth I yn 1595 a chafodd ei urddo’n farchog ganddi ym Mehefin 1601, fel cydnabyddiaeth o’i ymdrechion i atal Robert Devereux yng ngwrthryfel Essex.

Yn 1601, cyhoeddwyd cyfrol Robert Chester, Love’s Martyr. Cyfrol o gerddi ydyw, wedi’i chyflwyno i Syr John Salusbury, ac sy’n cynnwys gweithiau gan Ben Jonson, George Chapman a John Marston, yn ogystal â’r gerdd ‘The Phoenix and the Turtle’ gan William Shakespeare. Dywedir mai Syr John a’i wraig Ursula yw cymeriadau canolog y gyfrol, ac yn arbennig yn nhelyneg Shakespeare ble darlunir John fel turtur ffyddlon a’i wraig fel ffenics lliwgar.

Roedd John Salusbury, fel ei ragflaenwyr, yn gefnogwr brwd o’r traddodiad barddol Cymraeg. Er mai cerddi Saesneg a gyfansoddodd Syr John (gwelir rhai ohonynt yn y llawysgrif hon (tt. 13-30, 149, 151), lluniwyd nifer o gerddi Cymraeg i’w gyfarch gan feirdd a fu’n westeion yn Lleweni. Gwelir y mwyafrif o’r rhain yn Llawysgrifau Christ Church 183 a 184 yn Rhydychen. Credir i Shakespeare ei hun aros yn Lleweni adeg Nadolig 1593 /1594, a chyfansoddi cerdd i Syr John yn diolch am y lletygarwch.


Henry Salusbury

Ar ôl marwolaeth Syr John yn 1612, etifeddwyd Lleweni gan ei fab, Henry (1589–1632), a ddaeth yn Farwn 1af yn 1619. Gwelir nifer o’r cerddi a’r beddargraffiadau Saesneg a Chymraeg a gyfansoddodd yn y llawysgrif– y mwyaf adnabyddus yw ei gerdd 8 llinell sy’n canmol golygyddion argraffiad Folio Cyntaf gweithiau cyflawn Shakespeare yn 1623. Ceir y cyflwyniad canlynol ar flaen y gerdd, ‘To my good freandes mr John Hemings & Henry Condall’ (t. 141). Dau actor oedd Hemings a Condall, ac enwir y ddau ohonynt yn ewyllys Shakespeare.


Thomas Salusbury

Thomas Salusbury, mab Henry, oedd 2il Farwn Lleweni (1612-1643).  Roedd yn fardd a dramodydd Saesneg ac yn wleidydd. Ef yw awdur cyfran fwyaf y gweithiau yn y llawysgrif. Dywed Thomas Pennant, yn ei gyfrol Tours in Wales (gol. 1883, Cyf. ii, t.141), ei fod yn “loyalist ... as much distinguished by his pen as his sword.” Er hynny, ei gerdd The History of Joseph oedd yr unig waith o’i eiddo a gyhoeddwyd yn ystod ei fywyd. Cyflwynodd y gyfrol brin hon i’r Fonesig Middleton, gweddw ei daid, yn deyrnged iddi am ei gofal amdano.

Ceir nifer o gerddi, cyfrifon, dramâu a masciau o law Thomas Salusbury yn y llawysgrif gan gynnwys tair drama ddarllen, drama bum act gyflawn Love and Money (tt. 69-109), a dwy ddrama anghyflawn (tt. 50-55 a tt. 337-378). Cafwyd perfformiadau anffurfiol o’r masciau yn lleol:

'A Show or Antimasque of Gipseys as it was Invented, written, & prsented in the space of 6 howres at Chirk Castle aforesaid the day after the wedding being the 30th of Decembr. 1641;'

'A Masque as it was prsented at ye right Honble ye Lord Strange his house at Knowsley on Twelfth night 1640 Christmas day yt year lighting on friday. Designed & written in six howres space by Sr Th: Salusbury.'

NLW MS 5390D yw un o’r llawysgrifau mwyaf adnabyddus o gofnodion teulu Salusbury ynghŷd â Llawysgrifau Christ Church 183 a 184. Trwy weithiau nifer o enwogion dawnus, rhydd i ni gipolwg ar weithgareddau cerddorol a llenyddol yn Lleweni – un o ystadau mwyaf gogledd Cymru ar ddiwedd yr 16eg ganrif. Denodd yr amgylchedd diwylliannol hwn rai o ffigyrau nodedig llenyddiaeth Saesneg gan gynnwys yr amlycaf oll, William Shakespeare.


Darllen pellach

  • M. B. Bland, ‘“As far from all revolt”: Sir John Salusbury, Christ Church MS. 184 and Jonson’s First Ode’, English Manuscript Studies 8 (2000)
  • Carleton Brown, Poems by Sir John Salusbury and Robert Chester (London: Early English Text Society, gan K. Paul, Trench, Trübner & Co., 1914)
  • John Idris Jones. ‘William Shakespeare and John Salusbury: what was their relationship?’ Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Ddinbych 59 (2011), 56-96
  • David N. Klausner, ‘Family Entertainments among the Salusburys of Lleweni and their circle, 1595-1641’, Hanes Cerddodiaeth Cymru 6 (2004), 129-42.
  • David N. Klausner, Wales: Records of Early Drama (Toronto: University of Toronto Press, 2005)
  • E. Roberts, ‘Siôn Salsbri, Lleweni’, Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Ddinbych 19 (1970), 66–102. [In Welsh]
  • W. J. Smith, ed., Calendar of Salusbury Correspondence, 1553–c.1700 (Cardiff: University of Wales Press, 1954)
  • Teulu Salusbury yn Y Bywgraffiadur Arlein
  • Salusbury [Salesbury] family (per. c.1454–c.1684) yn Oxford Dictionary of National Biography