Dylanwad taith William Gilpin drwy Ddyffryn Gwy
Un ardal a oedd yn arbennig o boblogaidd gyda thwristiaid cynnar oedd Dyffryn Gwy. Disgrifir a darlunnir yr ardal hon gan Thomas Martyn yn ei 'A tour to south Wales' (LlGC llsgr 1340C). Fel llawer o deithwyr eraill o'r cyfnod dilynodd Thomas Martyn ôl troed William Gilpin (1724-1804). Yr oedd llyfr Gilpin Observations on the River Wye, and several parts of south Wales, etc. relative chiefly to picturesque beauty, a gyhoeddwyd yn 1782, yn seiliedig ar daith a wnaed yn 1770. Er bod pobl wedi bod yn ysgrifennu llyfrau taith am rai blynyddoedd, hwn oedd y cyntaf i gydio yn y dychymyg poblogaidd. Yn draddodiadol, credir mai'r gyfrol hon oedd yn gyfrifol am ddechrau'r ffasiwn am 'dwristiaeth ddarluniadol'. Canolbwyntiodd twristiaeth ddarluniadol ar werthfawrogiad o olygfeydd yn hytrach na hanes neu bensaernïaeth a gellir ei gysylltu â thwf y mudiad Rhamantaidd.