Llyfr Du Caerfyrddin

Cyfeirnod: Peniarth MS 1

Credir bellach gan ysgolheigion cyfoes fod Llyfr Du Caerfyrddin, a enwyd oherwydd lliw ei rwymiad a'i gysylltiad tybiedig â Phriordy Ieuan Efengylwr a Theulyddog, Caerfyrddin, yn waith un copïydd a luniodd y gyfrol ar wahanol gyfnodau yn ei fywyd, cyn ac o gwmpas y flwyddyn 1250. Mae hyn yn golygu ei bod yn un o'r llawysgrifau Cymraeg cynharaf i oroesi. Enwyd y gyfrol yn un o'r 'Four Ancient Books of Wales' gan William Forbes Skene (1809-92), er y credai ef iddi gael ei llunio'n dipyn cynharach yn y ddeuddegfed ganrif.

 

Daeth y llawysgrif i feddiant Syr John Price, Aberhonddu (1502?-1555), gŵr gyda diddordebau llenyddol a hynafiaethol. Fe'i hapwyntiwyd ef yn brif gofrestrydd y goron mewn materion eglwysig, ac yn rhinwedd y swydd honno fe aeth ati i archwilio'r mynachlogydd a ddiddymwyd gan Harri'r VIII. Daeth o hyd i'r Llyfr Du, yn ôl yr hanes, ym meddiant trysorydd Eglwys Gadeiriol Tyddewi, a dywedid ar y pryd fod y llawysgrif wedi dod o Briordy Caerfyrddin.

Ychydig a wyddys am hanes y gyfrol ar ôl iddi gael ei hachub gan Syr John hyd yr ail ganrif ar bymtheg pan ddaeth i feddiant yr hynafiaethydd Robert Vaughan (1592?-1666), gŵr a fu'n gyfrifol am gasglu llyfrgell helaeth ynghyd o lyfrau a llawysgrifau o'r pwysigrwydd mwyaf yn Gymraeg ac ieithoedd eraill, yn ei gartref, Hengwrt, ger Dolgellau, Meirionnydd. Fodd bynnag, ar gyfnod cynharach, ymddengys i'r llawysgrif fod ym meddiant ysgolhaig a chasglwr llyfrau arall, sef Jasper Gryffyth (bu farw 1614), warden Ysbyty Rhuthun, a ysgrifennodd ei enw mewn llythrennau Hebraeg yn y Llyfr Du yn ogystal â llunio nodyn ar y cynnwys. Ysgrifennodd William Salesbury (c. 1520-1584?), cyfieithydd y Testament Newydd i'r Gymraeg, nodyn ar waelod un o'r tudalennau hefyd. Dywed Robert Vaughan ei hunan mewn llawysgrif arall (LlGC 5262, t. 167) fod y bardd Siôn Tudur (bu farw 1602) o Wigfair, Llanelwy, yn berchen ar y llawysgrif ar un adeg yn ogystal.

Pan fu farw gor-gor-gor-gor-ŵyr Robert Vaughan, Syr Robert Williames Vaughan, 3ydd barwnig, yn 1859, pasiodd llyfrau a llawysgrifau Hengwrt trwy gymynrodd i'w gyfaill William Watkin Edward Wynne (1801-80) o Beniarth ger Tywyn, Meirionnydd. Tra yr oeddent ym Mheniarth, fe gatalogwyd y llawysgrifau Cymraeg gan J. Gwenogvryn Evans ar gyfer ei Report on Manuscripts in the Welsh Language, gwaith a gyhoeddwyd gan yr Historical Manuscripts Commission yn 1899. Oddi ar hynny fe adwaenir y casgliad fel Llawysgrifau Peniarth. Rhoddodd Gwenogvryn Evans amlygrwydd i'r Llyfr Du drwy ei glustnodi yn llawysgrif Peniarth 1. Mae Llyfr Du Caerfyrddin ynghyd â gweddill casgliad llawysgrifau Peniarth bellach wedi cael cartref ymhlith Casgliadau Arbennig Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn Aberystwyth, gan fod y casgliad wedi cael ei brynu yn 1904 ar gyfer y Llyfrgell Genedlaethol arfaethedig gan y prif sylfaenydd a'r cymwynaswr blaenaf, Syr John Williams, barwnig (1840-1926), meddyg i Dduges Caerefrog. Talodd ef £5,500 am y casgliad, gyda Llyfr Du Caerfyrddin wedi ei brisio am £400.

Lluniwyd y llawysgrif o wyth cydiad o femrwn cryf wedi eu gwnïo ynghyd i ffurfio cyfrol o 54 ffolio (108 tudalen). Nid yw'r gyfrol yn gyfan gan fod nifer o'r ffolio ar goll. Yr hyn sy'n taro llygad darllennydd fwyaf yw diffyg cysondeb y llaw a'i hysgrifennodd, yn y ffordd y tynnwyd y llinellau ar bob tudalen cyn ysgrifennu ac yn y llawysgrifen ei hunan lle ceir anghysondebau na cheir fel arfer mewn llawysgrifau a luniwyd gan gopïwyr proffesiynol o'r cyfnod hwn. Defnyddir llythrennau mawr wrth lunio'r ugain ffolio gyntaf, ond o ffolio 21 ymlaen mae'r llythrennau yn llawer llai o faint. Golyga'r gwahaniaeth maint hwn fod nifer y llythrennau i'r tudalen yn amrywio hefyd. Mae hyn i gyd yn ategu'r farn fod y copïydd yn gweithio ar wahanol gyfnodau yn ei fywyd. Hwyrach y bwriadai lunio mwy nag un gyfrol, ond yn lle hynny daethpwyd â'r cydiadau memrwn gwahanol at ei gilydd ar ryw adeg a'u rhwymo ynghyd ar ffurf y gyfrol a adwaenwn ni yn Llyfr Du Caerfyrddin.

Ar wahân i grŵp bychan o drioedd sy'n cyfeirio at geffylau chwedlonol yr arwyr Cymreig, mae'r Llyfr Du yn llawysgrif farddoniaeth yn ei hanfod. Mae'r cerddi sydd wedi eu cynnwys yn disgyn i wahanol gategorïau. Ceir cerddi gyda phynciau crefyddol fel yr 'Ymddiddan rhwng y Corff a'r Enaid', ac awdlau moliant a marwnad fel 'Marwnad Madog ap Maredudd' (bu farw 1160), sy'n ddienw yn y Llyfr Du ond, yn ôl llawysgrif arall, a luniwyd gan y bardd llys, Cynddelw Brydydd Mawr (bl. 1155-1200). Ond hwyrach mai'r cerddi mwyaf trawiadol yw'r rheiny sy'n cynnwys storïau yn ymwneud o ran thema ag arwyr Prydain yn yr Oesoedd Tywyll, ac yn enwedig y rhai sy'n gysylltiedig â chwedl Myrddin.

Cynhwysir tair cerdd sy'n cyfeirio at y chwedl yn bendant, sef 'Yr Afallennau', 'Yr Oianau' ac 'Ymddiddan Myrddin a Thaliesin'; credir bod pedwaredd cerdd 'Y Bedwenni' hefyd yn gysylltiedig. Fodd bynnag, dim ond yn yr 'Ymddiddan' yr enwir Myrddin, er bod yr enw Caerfyrddin yn digwydd unwaith yn 'Yr Oianau'. Yn y ddwy gerdd gyntaf, gwelwn ddyn dienw sy'n byw ar ei ben ei hun yn y goedwig yn cyfarch coeden afalau yn y naill gerdd a mochyn yn y llall, ac yn proffwydo llwyddiant neu fethiant y Cymry yn y brwydrau sydd i ddod yn erbyn y Normaniaid yn Ne Cymru, proffwydoliaethau a gyflawnwyd yn ystod diwedd y ddeuddegfed ganrif a dechrau'r drydedd ganrif ar ddeg. Mae'n amlwg bod y llinellau sy'n cynnwys y proffwydoliaethau hyn wedi eu cyfansoddi ar ôl y digwyddiadau y maent yn honni eu rhagweld a rhaid eu hystyried yn ychwanegiadau i gnewyllyn o linellau a gyfansoddwyd lawer ynghynt, sef yn y nawfed neu'r ddegfed ganrif fwy na thebyg.  Mae'r cnewyllyn bach hwn yn cyfeirio at chwedl yn ymwneud ag ymladdwr sy'n mynd yn orffwyll yn ystod Brwydr Arfderydd a ymladdwyd tua 573 rhwng Rhydderch Hael a Gwenddolau, dau frenin gwrthwynebus o blith llwythau Prydeinig yr 'Hen Ogledd', ac y mae'r ymladdwr hwnnw, yn dilyn trechu ei feistr Gwenddolau, yn ffoi i Goed Celyddon lle y triga o hynny allan yn ddyn gwyllt sy'n dod yn hyfedr yng nghelfyddyd proffwydo. Yn ddiweddarach, ail-leolwyd y stori hon yng Nghymru. Sieffre o Fynwy, fodd bynnag, yn ei Historia Regum Britanniae (1136) oedd y cyntaf i roi'r enw Myrddin ar y proffwyd hwn a'i gysylltu â thref Caerfyrddin. Yn 'Ymddiddan Myrddin a Thaliesin', down o hyd i Fyrddin Sieffre yn siarad â'r bardd Taliesin, un arall y dywedid fod iddo ddoniau proffwydo.

Ymhlith cerddi chwedlonol eraill yn y Llyfr Du y mae'r gerdd sy'n dechrau 'Pa ŵr yw'r Porthor?' lle gwelir Glewlwyd Gafaelfawr, y porthor, yn gwrthwynebu'r Brenin Arthur a'i gydymaith Cai, a lle ceir Arthur wedi ei ddarlunio yn fwy o arwr chwedlonol nag o ymerawdwr brenhinol mawr yn null Sieffre o Fynwy; englynion i Geraint fab Erbin, a enillodd enwogrwydd yn un o farchogion Arthur; 'Englynion y Beddau', cyfres o benillion yn cofnodi beddau enwogion meirw y traddodiad Cymreig; a dialog rhwng Gwyddno Garanhir a Gwyn ap Nudd, brenin Annwfn; penillion yn ymwneud â Seithenyn a boddi Cantre'r Gwaelod; a cherdd sy'n ymwneud â stori Ysgolan a llosgi'r llyfrau.

Mynediad at ddelweddau digidol

Oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol, nid oes mynediad at ddelweddau digidol o'r Catalog na gwefannau'r Llyfrgell ar hyn o bryd.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.