Adam Pinkhurst a Chaucer Hengwrt
Yn 2004, llwyddodd yr Athro Linne Mooney i adnabod y scrifydd a luniodd lawysgrif Chaucer Hengwrt, sef Adam Pinkhurst. Pinkhurst oedd hefyd yn gyfrifol am lunio llawysgrifau eraill o weithiau Chaucer, gan gynnwys Chaucer Ellesmere (The Ellesmere Chaucer, Llyfrgell Huntington, San Marino, Llsgr. EL 26 C9), a’r Boece (Llsgr. Peniarth 393D) yma yn y Llyfrgell Genedlaethol. Credir hefyd mai ef yw gwrthrych y gerdd ‘Chaucer words unto Adam his scrivener’, lle mae’r bardd yn dwrdio Adam, ei scrifydd, am ei fynych gamgymeriadau wrth gopïo testunau llawysgrif. Mae’r cyswllt hwn rhwng awdur a’i scrifydd, ynghyd ag ystyriaethau palaeograffyddol, yn ei gwneud yn bosibl i Chaucer Hengwrt gael ei ysgrifennu cyn marw Chaucer yn 1400, neu’n fuan wedyn.
Llawysgrifau Chaucer a Chymru
Mae cysylltiadau Cymreig y llawysgrif gynnar a phwysig hon o Chwedlau Caergaint yn adlewyrchu patrwm cyffredin iawn yn hanes diwylliannol Cymru. O'r Oesoedd Canol diweddar ymlaen, cafodd llawysgrifau Saesneg eu darllen, eu casglu, eu copïo a'u trysori yng Nghymru, ac erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg ceir tystiolaeth yn aml fod llawysgrifau Saesneg ym meddiant Cymry. Ymysg llawysgrifau eraill o weithiau Chaucer yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru mae:
- copi o'r bedwaredd ganrif ar ddeg o’r Boece, cyfieithiad Chaucer i’r Saesneg o De Consolatione Philosophiae Boethius (Llsgr. Peniarth 393D)
- tair dalen, yn dyddio o ran gynta’r bymthegfed ganrif, a elwir 'Dernyn Merthyr', ac sy'n cynnwys rhan o'r Nun's Priest's Tale (llawysgrif LlGC 21972D)
- tri chopi o'r Tretyse on the Astrolabe, ac iddynt gysylltiadau cynnar Cymreig (Llsgrau. Peniarth 359, LlGC 3049D a LlGC 3567B).