Symud i'r prif gynnwys

Pecyn Gwaith i Athrawon

Cefndir

Mae Gorsedd y Beirdd yn cynnwys beirdd, llenorion, cerddorion, artistiaid ac unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad i Gymru, yr iaith, neu ei diwylliant.

Mae’r Orsedd, a sefydlwyd yn 1792 gan Iolo Morgannwg, yn rhan annatod o Ŵyl yr Eisteddfod. Dyfeisiodd Iolo ddefodau’r Orsedd yn seiliedig ar y Derwyddon, ond â dylanwad Cristnogol cryf, er mwyn pwysleisio’r ffaith bod diwylliant a threftadaeth y Celtiaid yn perthyn i’r Cymry. Cynhaliwyd yr Orsedd gyntaf ar Fryn Briallu yn Llundain yn ystod Alban Hefin 1792, a chafwyd y cysylltiad cyntaf rhwng yr Eisteddfod a’r Orsedd yn Eisteddfod Caerfyrddin 1819.

Yn ystod yr 1930au addaswyd defodau a seremonïau’r Orsedd er mwyn eu gwneud yn fwy perthnasol a deniadol i gynulleidfa fodern. Yn 2019 cyhoeddwyd y byddai Gorsedd Beirdd Ynys Prydain yn newid ei henw i Gorsedd Cymru, ac erbyn heddiw mae’r Orsedd yn bodoli fel cynghrair o feirdd, awduron, cerddorion, artisiaid ac unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad arwyddocaol i iaith, llenyddiaeth a diwylliant Cymru.

Pwy yw pwy yn yr Orsedd?

Yr Archdderwydd: Pennaeth yr Orsedd ac yn gyfrifol am arwain seremonïau’r Orsedd yn ystod yr wythnos.

Gwisg Wen: Enillwyr prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol.

Gwisg Las: Unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad i'w cymuned neu genedl.

Gwisg Werdd: Graddedigion y Celfyddydau neu wedi llwyddo mewn 2 arholiad Gorsedd.

Cwestiynau posib i'w trafod

  • Pwy oedd Iolo Morganwg?
  • Sut ddechreuodd traddodiad yr Orsedd?
  • Beth yn eich barn chi yw pwrpas yr eitemau a thraddodiadau yn y seremoni?
  • Pa gampweithiau neu lwyddiannau ddylai gael eu dathlu yn yr Orsedd yn eich barn chi?

Syniadau am weithgareddau

  • Ymchwilio hanes ac arferion seremoni’r Orsedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
  • Dyfeisio gwisg newydd ar gyfer yr Orsedd

Profiadau dysgu

(sydd yn deillio o’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig)

Dyniaethau
  • Deall y gorffennol
  • Dehongli ffynonellau a gwybodaeth
  • Newidadau dros amser
  • Tebygrwydd a gwahaniaethau cymdeithasol
  • Hunaniaeth
  • Pwysigrwydd cymdeithasol a diwylliannol.
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
  • Iaith a pherthyn
  • Gwrando a deall
  • Darllen geiriau a thestun
  • Defnyddio dychymyg


Edward Williams  (Iolo Morganwg)

Erthygl Bywgraffiadur: Iolo Morganwg