Pecyn Gwaith i Athrawon
Cefndir
Mae’r pafiliwn yn chwarae rhan ganolog yn yr Eisteddfod Genedlaethol fel y prif fan cystadlu ac mae wedi bod yn ganolbwynt y Maes am dros 150 o flynyddoedd. Ar hyd y blynyddoedd cafwyd pafiliynau o bob math – pebyll, adeiladu pren a’r pafiliwn pinc eiconig.
Yn ogystal â’r cystadleuthau canu, adrodd, offerynnau, dawnsio ac actio, mae’r pafiliwn yn gartref i oedfaon, cyngherddau a seremoniau hefyd. Yn y gorffennol, roedd Saesneg yn rhan o’r gweithgareddau, a chlywid hi ar lwyfan yr Eisteddfod, ond yn dilyn cyfansoddiad newydd 1952 iaith swyddogol yr Eisteddfod oedd y Gymraeg yn unig.
Rhai o brif wobrau’r Eisteddfod, lle ceir seremoni’r Orsedd, yw’r Coroni, y Fedal Ryddiaith a’r Gadair. Dyfernir y Goron am bryddest neu ddilyniant o gerddi yn y mesurau rhydd: y Fedal Rhyddiaith am gyfrol o ryddiaith; a’r Gadair am yr awdl orau yn y mesur caeth.
Postiwyd: 02-11-2022
Cwestiynau posib i'w trafod
- Pa fath o gystadlaethau sydd yn yr Eisteddfod?
- Pam rhoi cadair fel gwobr?
- Oes symbolau ar y cadeiriau?
- Oes ystyr tu ôl i’r dyluniad?
- Pam y mae Cadair Eisteddfod 1917 yn cael ei galw yn y Gadair Ddu?
Syniadau am weithgareddau
- Creu cynllun ar gyfer Cadair yr Eisteddfod eleni.
- Dylunio Cadair fel teyrnged i Hedd Wyn.
- Cynnal cystadleuaeth barddoniaeth.
- Ail-greu'r seremoni Cadeirio.
Profiadau dysgu
(sydd yn deillio o’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig)
Dyniaethau
- Deall y gorffennol
- Dehongli ffynonellau a gwybodaeth
- Newidadau dros amser
- Tebygrwydd a gwahaniaethau cymdeithasol
- Hunaniaeth
- Pwysigrwydd cymdeithasol a diwylliannol.
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
- Iaith a pherthyn
- Gwrando a deall
- Darllen geiriau a thestun
- Defnyddio dychymyg