Symud i'r prif gynnwys

Pecyn Gwaith i Athrawon

Cefndir

Yr Eisteddfod Genedlaethol yw’r ŵyl ddiwylliannol deithiol fwyaf yn Ewrop. Mae’n cael ei chynnal mewn rhan wahanol o Gymru bob blwyddyn yn ystod wythnos gyntaf mis Awst. Mae ganddi hanes hir, gan ddechrau yng Nghastell Aberteifi yn 1176. Ers hynny, mae’r Eisteddfod wedi tyfu i fod yn ddathliad mawr o ddiwylliant a’r Gymraeg. Mae rhywbeth i bawb yn yr Eisteddfod. Gallwch fwynhau cerddoriaeth, llenyddiaeth, celf, gwyddoniaeth, technoleg a llawer mwy. Cyn yr ŵyl, mae prosiectau cymunedol yn dod â phobl ynghyd i drefnu gweithgareddau a dathlu eu hardal. Gelwir yr effaith gadarnhaol hon yn waddol. 

Yn y pecyn hwn, byddwch yn dysgu am hanes yr Eisteddfod a sut mae wedi newid dros y blynyddoedd. Cewch gyfle i archwilio straeon diddorol o’r gorffennol, gan gynnwys digwyddiadau annisgwyl ac eiliadau pwysig yn hanes Cymru. Byddwch hefyd yn darganfod sut mae cae gwag yn cael ei drawsnewid yn Faes prysur sy’n croesawu miloedd o ymwelwyr ac yn cynnig cannoedd o weithgareddau. Trwy’r gweithgareddau a’r tasgau yn y pecyn, byddwch yn cysylltu â gwahanol feysydd o’r cwricwlwm ac yn dysgu am hanes cymdeithasol Cymru mewn ffordd hwyliog a diddorol. Dewch i ddarganfod hanes, diwylliant a straeon yr Eisteddfod Genedlaethol!  

 

Casgliad y Werin Cymru

Cwestiynau posib i'w trafod

  • Pam ydych chi’n meddwl i Arglwydd Rhys drefnu’r Eisteddfod gyntaf yn 1176? Beth allai fod wedi’i olygu i bobl ar y pryd?
  • Sut mae’r Eisteddfod wedi newid ers 1861? Beth mae’r newidiadau hyn yn ei ddweud wrthym am gymdeithas Cymru?
  • Beth all straeon fel pafiliwn 1861 yn cael ei chwythu i ffwrdd neu brotest y Swffragetiaid yn 1912 ein dysgu am hanes?
  • Pam mae’n bwysig cofio digwyddiadau a ddigwyddodd yn yr Eisteddfod yn y gorffennol?
  • Pam mae’r Eisteddfod yn bwysig i’r Gymraeg a diwylliant Cymru heddiw?
  • Sut mae’r Eisteddfod yn helpu pobl i deimlo’n gysylltiedig â Chymru a’i gilydd?
  • Pam mae’n bwysig bod pawb yn cael croeso i’r Eisteddfod, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n siarad Cymraeg?
  • Ym mha ffyrdd mae’r Eisteddfod wedi aros yr un peth dros 850 mlynedd? Ym mha ffyrdd mae hi wedi newid?
  • Sut gall cystadlaethau’r Eisteddfod adlewyrchu newidiadau mewn cymdeithas (er enghraifft ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf)?
  • Pa wahaniaethau allech chi eu gweld rhwng tref yng Nghymru yn y 1920au a heddiw? Sut gall yr Eisteddfod ein helpu i ddeall y newidiadau hyn?
  • Sut mae cynnal yr Eisteddfod yn effeithio ar gymuned leol?
  • Pa sgiliau sydd eu hangen ar bobl i drefnu digwyddiad fel yr Eisteddfod?
  • Beth, yn eich barn chi, yw ystyr “etifeddiaeth” yr Eisteddfod i ardal ar ôl iddi adael?
  • Pam ydych chi’n meddwl bod yr Eisteddfod yn cynnwys cymaint o wahanol feysydd (cerddoriaeth, celf, gwyddoniaeth, technoleg)?
  • Pe baech chi’n dylunio eich Eisteddfod eich hun, pa weithgareddau neu gystadlaethau fyddech chi’n eu cynnwys, a pham?

Gweithgareddau a phrofiadau

  • Creu llinell amser yr Eisteddfod
  • Dylunio poster ar gyfer eich Eisteddfod eich hun
  • Chwarae rôl: eiliadau hanesyddol
  • Adeiladu model o’r Maes
  • Cymharu’r gorffennol a heddiw
  • Creu Eisteddfod fach yn y dosbarth
  • Dadlau: pam mae’r Eisteddfod yn bwysig?
  • Archwilio hunaniaeth Gymreig
  • Her STEM: cynllunio safle digwyddiad
  • Ysgrifennu creadigol: diwrnod yn yr Eisteddfod
  • Creu a dylunio rhaglen ar gyfer eich Eisteddfod
  • Ysgrifennu a chyflwyno brîff cystadleuaeth

Cysyniadau allweddol

(sy'n deillio o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig)

Y Dyniaethau
  • Ymchwilio
  • Dehongli
  • Newid a pharhad
  • Lleoedd
  • Effaith Dynol ar y Byd
  • Hunaniaeth ac Amrywiaeth
  • Achos ac Effaith
  • Cyfiawnder, anghydraddoldeb a hawliau
  • Gweithredu Cymdeithasol
  • Cwestiynau moesegol a moesol
Y Celfyddydau Mynegiannol
  • Deall cyd-destun mewn gweithiau creadigol
  • Cyfleu syniadau
  • Archwilio pwrpas ac ystyr
  • Datblygu a mireinio dyluniadau
Iechyd a Llesiant
  • Cyfathrebu, Ceisio Cymorth ac Empathi
  • Dewisiadau Gwybodus
  • Dylanwadau a Normau Cymdeithasol
  • Hunaniaeth a Gwerthoedd
  • Hawliau a Pharch
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
  • Strategaethau Darllen
  • Dod i gasgliad
  • Ymateb i destunau
  • Sut mae Gramadeg yn Effeithio ar Ystyr
  • Datblygu Geirfa
  • Cyfathrebu'n effeithiol a chyfleu syniadau a barn (Ar Lafar)
  • Cydweithredu a thrafod
  • Ysgrifennu at wahanol ddibenion a chynulleidfaoedd

Eisteddfod Y Garreg Las (2026)

 

Mae Eisteddfod y Garreg Las yn dod i Lantwd, Sir Benfro, rhwng 1 a 8 Awst 2026. Bydd pobl o bob rhan o Gymru a gwledydd eraill yn ymweld, gyda dros 175,000 o ymwelwyr yn ystod yr wythnos. Mae pobl leol a gwirfoddolwyr wedi gweithio’n galed i baratoi’r ŵyl. Mae croeso i bawb: does dim rhaid siarad Cymraeg, ond mae’n gyfle da i glywed a mwynhau’r iaith. Bydd y Maes fel pentref mawr, gyda phebyll a stondinau lliwgar. 

Bydd dros 1,000 o ddigwyddiadau a hyd at 250 o stondinau. Mae cystadlu’n rhan bwysig o’r Eisteddfod, gan gynnwys canu, dawnsio a pherfformiadau gan tua 70 o gorau. Bydd hefyd seremonïau arbennig yr Orsedd. Yn ogystal, bydd cerddoriaeth fyw, y Lle Celf, Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg, gemau, dawns, theatr stryd a gweithgareddau hwyliog i blant a theuluoedd.

Dathliadau'r 850

 

Yn 2026, mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn dathlu 850 mlynedd ers yr Eisteddfod gyntaf. I nodi’r achlysur, teithiodd pyped enfawr o’r Arglwydd Rhys a’i gi, Teifi, drwy rannau o orllewin Cymru cyn gorffen yng Nghastell Aberteifi. 

Roedd yr Arglwydd Rhys yn dywysog pwysig yn ne Cymru yn y 12fed ganrif. Roedd yn gefnogwr mawr i ddiwylliant Cymreig, barddoniaeth a cherddoriaeth. Yn 1176, cynhaliodd ŵyl arbennig yng Nghastell Aberteifi. Daeth beirdd a cherddorion at ei gilydd i gystadlu, ac mae llawer o bobl yn gweld y digwyddiad hwn fel dechrau traddodiad yr Eisteddfod. 

Heddiw, mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn dal i ddathlu’r Gymraeg, y celfyddydau a diwylliant Cymru. Bob blwyddyn, mae’n dod â phobl ynghyd i gystadlu, perfformio a mwynhau gweithgareddau Cymraeg. Mae ei hanes yn mynd yn ôl 850 mlynedd i gyfnod yr Arglwydd Rhys.

Diwylliant ac Iaith

Mae’r diwylliant yn rhan ganolog o’r Eisteddfod. Mae cystadlaethau a pherfformiadau canu, cerddoriaeth, barddoniaeth, llefaru, dawns a drama. Mae’r rhain yn rhoi cyfle i bobl ddangos eu doniau, magu hyder a defnyddio’r Gymraeg mewn ffordd greadigol.  

Mae cyfle i'r ardal sy'n cynnal yr Eisteddfod arddangos ei chymeriad a'i thraddodiadau yn ystod yr ŵyl. I rai pobl, dyma’r tro cyntaf iddynt fynd i ddigwyddiad Cymraeg neu ddwyieithog. Mae hyn yn gallu gwneud y Gymraeg yn fwy cyfarwydd a chroesawgar. Ar ôl yr Eisteddfod, mae rhai pobl yn dechrau dysgu Cymraeg, ac mae llawer o weithgareddau’n parhau. Dyna sy’n gwneud yr Eisteddfod yn arbennig.

Cymuned

 

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn brosiect cymunedol mawr sy'n dechrau tua dwy flynedd cyn yr ŵyl gyda chyfarfod cyhoeddus i annog pobl leol i gymryd rhan. Mae'r gymuned yn helpu i lunio'r rhaglen, trefnu cystadlaethau, a chefnogi gweithgareddau codi arian a hyrwyddo. Trwy eu syniadau, eu creadigrwydd a'u hymrwymiad, mae pob Eisteddfod yn datblygu ei chymeriad unigryw ei hun.

 

Tu ôl i'r Llenni

 

Mae creu’r Eisteddfod Genedlaethol yn dechrau bron yn syth ar ôl i’r ŵyl flaenorol orffen. Mae angen dod o hyd i safle addas gyda lle ar gyfer y Maes, gwersylla, carafanau, parcio a Maes B. Mae’r cynllun yn cael ei newid sawl gwaith cyn penderfynu ar y fersiwn derfynol. 

Mae gwaith ar y safle yn dechrau ym mis Mehefin. Yn gyntaf, caiff ffyrdd dros dro, trydan a dŵr eu gosod. Yna, mae’r pafiliynau, llwyfannau a stondinau yn cael eu hadeiladu. Mae’n bwysig sicrhau bod y safle yn addas ac yn hawdd i bobl ei ddefnyddio. Mae llawer o waith hefyd yn digwydd cyn yr ŵyl. Mae setiau ac addurniadau yn cael eu gwneud ymlaen llaw a’u cludo i’r Maes. 

Adnoddau cysylltiedig

Gorsedd y Beirdd

Gorsedd y Beirdd

Mae’r Orsedd, a sefydlwyd yn 1792 gan Iolo Morgannwg, yn rhan annatod o Ŵyl yr Eisteddfod.

Cystadleuthau

Cystadleuthau

Mae’r pafiliwn yn chwarae rhan ganolog yn yr Eisteddfod Genedlaethol fel y prif fan cystadlu.

Hanes yr Eisteddfod Genedlaethol

Hanes yr Eisteddfod Genedlaethol

Yn 1176 cynhaliodd yr Arglwydd Rhys yr ‘eisteddfod’ gyntaf y gwyddwn amdani.

 

Cyfranwyr: Casgliad y Werin; Eisteddfod Genedlaethol Cymru; Gwenllian Carr