Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Nid yw'r gwasanaeth Corneli Clip ar gael ar hyn o bryd oherwydd problemau technegol. Rydym yn gweithio i ddatrys y rhain mor fuan â phosib. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
21 Tachwedd 2023
Mae gan bobl leol, ymwelwyr a staff y llyfrgell yn Aberystwyth bellach fynediad i safle gwefru cerbydau trydan mwyaf Cymru diolch i hwb newydd gyda 40 o bwyntiau gwefru – gan gynnwys deg pwynt gwefru cyflym Tritium 75kW DC – ar dir Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Tra bo’ch car yn gwefru gallwch:
Bydd y ganolfan wefru o fudd i berchnogion cerbydau trydan lleol, gan gynnwys cwsmeriaid o drefi a phentrefi cyfagos, yn ogystal â denu twristiaid sydd naill ai’n ymweld ag Aberystwyth neu basio trwy’r dref. Bydd y datblygiad hwn yn galluogi gyrwyr cerbydau trydan i ymweld â’r siop a’r Llyfrgell wrth iddynt aros i’w cerbyd trydan gwblhau cylch gwefru, a fydd yn ei dro yn cynyddu ymwelwyr trwy ddrysau’r Llyfrgell i gefnogi’r sefydliad.
Dywedodd Pedr ap Llwyd, Llyfrgellydd a Phrif Weithredwr, Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Mae hwn yn gam mawr ymlaen yn ein harlwy i ymwelwyr ac wrth gyflawni ein nodau llesiant a nodir yn ein Cynllun Strategol sydd yn cydfynd â Deddf Llesiant Cenhedlaethau’r Dyfodol. Rydym yn falch o fod wedi gweithio gyda Tritium i sicrhau’r cyfleuster EV mwyaf yng Nghymru hyd yma a byddwn yn croesawu pawb sy’n dymuno defnyddio’r cyfleusterau gwefru yn ogystal â defnyddio’r amser hwnnw i ymweld â’n harddangosfeydd, caffi, a siop.”
Dywedodd Jane Hunter, Prif Swyddog Gweithredol, Tritium:
“Er bod Llywodraeth y DU bellach wedi cadarnhau cynlluniau i wahardd gwerthu cerbydau petrol a disel newydd erbyn 2035, rhaid i’r broses o gyflwyno seilwaith gwefru cerbydau trydan barhau i gyflymu er mwyn cyrraedd eu targed i osod 300,000 o orsafoedd gwefru cyhoeddus erbyn 2030. Mae gan Gymru ran fawr i’w chwarae yn y cyflymiad hwn fel bod holl rwydwaith trafnidiaeth y DU yn cael ei drydaneiddio, gan ganiatáu i yrwyr groesi’r wlad.”
“Mae ein gosodiad diweddaraf yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn dod â gwefrwyr cyflym y mae mawr eu hangen i Gymru, ac mae Tritium yn falch o fod yn rhan o ddatrysiad sy’n annog teithio cynaliadwy a chyfleoedd gwefru ar y tirnod cenedlaethol hwn yn Aberystwyth.”
Diwedd
** This press release is also available in English **
Cyswllt Cyfryngau Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Rhodri ap Dyfrig, Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd,
rhodri.apdyfrig@llyfrgell.cymru / 07521761762
Cyswllt Cyfryngau Tritium
Jack Ulrich
media@tritiumcharging.com
Cyswllt Buddsoddwyr Tritium
Cary Segall
ir@tritiumcharging.com
NODIADAU AR GYFER GOLYGYDDION
Am Tritium
Wedi'i sefydlu yn 2001, mae Tritium (DCFC) yn dylunio ac yn cynhyrchu caledwedd a meddalwedd perchnogol i greu gwefrwyr cyflym DC dibynadwy ar gyfer cerbydau trydan. Mae gwefrwyr a chadarn Tritium wedi'u cynllunio i edrych yn wych ar y stryd fawr a ffynnu mewn amodau garw. Cyflawnir hyn trwy dechnoleg sydd wedi'i pheiriannu i fod yn hawdd i'w gosod, eu perchnogi a'u defnyddio. Mae Tritium yn canolbwyntio ar arloesi parhaus i gefnogi ein cwsmeriaid ledled y byd.
Am ragor o wybodaeth, ewch i tritiumcharging.com
Am Lyfrgell Genedlaethol Cymru
Manylion llawn a ffioedd gwefru EV ar leoliad yLlyfrgell:
https://www.llyfrgell.cymru/ymweld/cyn-ymweld/sut-i-gyrraedd-llgc/peiriannau-gwefru-cerbydau-trydan
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Llyfrgell i Gymru a’r byd. Wedi ei lleoli yn Aberystwyth, mae’n gartref i stori Cymru.
Wedi ei hagor yn 1907, mae’r Llyfrgell yn ganolbwynt ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a’r gwledydd Celtaidd.
Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth yn hygyrch i bawb allu dysgu, ymchwilio a mwynhau.
Rydym yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod gennym hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol
Cewch wybodaeth bellach ynghyd â rhestr o adnoddau ar: https://www.llyfrgell.cymru/catalogau-chwilio/catalogau/catalogau-arbenigol