Symud i'r prif gynnwys

25.10.2023

Ar 28 Hydref bydd arddangosfa newydd yn agor yn Oriel Gregynog Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sy’n ddathliad o gelf gyfoes Gymreig. Bydd arddangosfa CYFOES: Celf Cymru Heddiw · Contemporary Welsh Art yn dwyn ynghyd detholiad o weithiau sy’n dyddio o 1945 hyd heddiw o’r Casgliad Celf Cenedlaethol.

Ymhlith uchafbwyntiau’r arddangosfa mae gwaith newydd sbon gan yr artist Dr Adéọlá Dewis, Y Fari Lwyd, sydd wedi’i gomisiynu’n arbennig fel rhan o waith y Llyfrgell i ddadgoloneiddio’r casgliadau celf; Cofeb Tryweryn gan John Meirion Morris; Greenham Peace Vigil gan Claudia Williams; a Ponterwyd / Gaia gan Mary Lloyd Jones.

Mae’r gweithiau yn yr arddangosfa – o weithiau olew, gludweithiau a ffotograffau i gerfluniau a gweithiau aml-gyfrwng - yn dangos ystod ac amrywiaeth casgliadau’r Llyfrgell. Maent yn adlewyrchiad o’r byd o’n cwmpas ac yn gofnod o’r byd trwy lygaid ein artistiaid mwyaf nodedig.

Gan edrych ar sut mae celf gyfoes yn adlewyrchu’r grymoedd a materion sy’n rhoi siap ar ein byd ni heddiw, bydd yr arddangosfa’n cyflwyno’r gweithiau ar draws nifer o themâu:

  • Iechyd a Lles
  • Cymru a Chymreictod
  • Pobl, Cymdeithas a Hunaniaeth
  • Y Corff
  • Gwleidyddiaeth, Protest ac Ymgyrchu
  • Natur a’r Amgylchfyd
  • Ein Byd, a
  • Chrefydd a Chredodau

Dywedodd Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Ymgysylltu a Phartneriaethau Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
"Mae’r Llyfrgell yn gartref i dros 60,000 o weithiau celf, ac mae’n hanfodol ein bod ni’n arddangos cymaint ohonyn nhw i’r cyhoedd â phosib. Mae’r gweithiau cyfoes yn yr arddangosfa hon yn gyfle i ni agor y drws i gynulleidfaoedd newydd ac i ddangos sut rydym yn parhau i gasglu er mwyn sicrhau bod y casgliad yn adlewyrchu Cymru heddiw. Ein gobaith pellach yw y bydd yr arddangosfa hon yn ffenest siop ar gyfer benthyciadau a chydweithio gydag orielau ledled Cymru yn y dyfodol."

Meddai Mari Elin Jones, Swyddog Dehongli, Adran Arddangosfeydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
"Rydyn ni’n falch iawn o’r cyfle hwn i rannu detholiad arbennig o weithiau celf gan rai o artistiaid cyfoes mwyaf blaenllaw Cymru. Nod yr arddangosfa yw dathlu cyfoeth, amrywiaeth ac ystod celf gyfoes yng Nghymru. Yn ogystal ag arddangos gweithiau adnabyddus mae’r arddangosfa hefyd yn adlewyrchu bywiogrwydd parhaus celf yng Nghymru heddiw wrth i ni gynnwys gweithiau newydd sbon.  Rydyn ni’n gobeithio’n fawr bydd ymwelwyr yn mwynhau’r cyfle hwn i weld y gorau o gelf gyfoes yng Nghymru, ac y bydd yr arddangosfa yn sbarduno deialog ac yn ysbrydoli creadigrwydd."

I gyd-fynd â’r arddangosfa bydd cyfres o ddigwyddiadau a bydd manylion y rhain yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Llyfrgell dros yr wythnosau nesaf.

Mae’r Llyfrgell yn cydweithio gyda’n partneriaid i ddatblygu Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru ac mae’r arddangosfa hon yn enghraifft o’r gweithiau sydd ar gael i’w benthyg i orielau ledled Cymru.

--DIWEDD--

** This press release is also available in English **

Am fwy o wybodaeth, ceisiadau cyfweliad neu gynigion cyfryngau cysylltwch â:
Rhodri ap Dyfrig, Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru  

rhodri.apdyfrig@llyfrgell.cymru / 07521 761762

NODIADAU I OLYGYDDION

Am Lyfrgell Genedlaethol Cymru:

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un o lyfrgelloedd mawr y byd. Wedi ei lleoli yn Aberystwyth, mae’n gartref i stori Cymru.

Wedi ei hagor yn 1907, mae’r Llyfrgell yn ganolbwynt ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a’r gwledydd Celtaidd.

Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth yn hygyrch i bawb allu dysgu, ymchwilio a mwynhau.

Rydym yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod gennym hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol:

  • 7,000,000 troedfedd o ffilm
  • 250,000 awr o fideo
  • 7,000,000 o lyfrau a phapurau newydd
  • 40,000 llawysgrif
  • 1,500,000 map
  • 150,000 awr o sain
  • 950,000 ffotograff
  • 60,000 gwaith celf
  • 1,900 metr ciwb o archifau

Gallwch chwilio'r casgliadau ar-lein a chewch wybodaeth bellach ynghyd â rhestr o adnoddau ar wefan y Llyfrgell.

Rhestr o artistiaid:

  • John Elwyn
  • Natalia Dias
  • Kyffin Williams
  • Ogwyn Davies
  • Adéolá Dewis
  • Roger Tiley
  • Glenn Dene
  • Caitlin Dolman
  • Gwenllian Beynon
  • Brenda Chamberlain
  • Mary Husted
  • Jon Pountney
  • Ken Elias
  • Nick Treharne
  • Morgan Dowdall
  • Pete Davies
  • Gwenno Llwyd Till
  • Anya Paintsil
  • Abbie Trayler-Smith
  • Pete Jones
  • Roger Cecil
  • Haydn Denman
  • Natalie Chapman
  • Claudia Williams
  • Clive Hicks-Jenkins
  • John Meirion Morris
  • Claudia Williams
  • Ivor Davies
  • Luned Rhys Parri
  • John Petts
  • Geoff Charles
  • Marian Delyth
  • Tim Pugh
  • Valerie Ganz
  • Ray Howard Jones
  • Tony Steele-Morgan
  • Lisa Eurgain Taylor
  • Alun Evans
  • Jeremy Moore
  • Bedwyr Williams
  • Manon Awst
  • Kim James-Williams
  • Alison Lochead
  • Philip Jones Griffiths
  • Charles & Patricia Aithe
  • Abbie Trayler-Smith
  • Humberto Gatica
  • Karel Lek
  • Nicholas Evans
  • Iwan Bala
  • Rhodri Jones
  • Mary Lloyd Jones
  • Ruth Koffer