Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn falch iawn o groesawu darnau o waith celf newydd, cyffrous i’r Casgliad Celf Cenedlaethol yn Aberystwyth.
Fel rhan o waith Prosiect Gwrth-Hiliaeth y Llyfrgell, mae pedwar artist, sef Joshua Donkor, Jasmine Violet, Mfikela Jean Samuel ac Dr Adéọlá Dewis, wedi derbyn comisiwn i greu gweithiau celf newydd sy’n ymateb i gasgliadau’r Llyfrgell, gan wynebu rhai agweddau o hanes sy’n anodd neu’n heriol.
Canlyniad hyn yw darnau o waith sy’n cyfrannu at waith y Llyfrgell i ddadgoloneiddio’r casgliadau ac at wella amrywiaeth o fewn i’r casgliad celf fel ei bod yn well adlewyrchiad o Gymru.
Portread o’r awdur Eric Ngalle Charles yw darlun yr artist Joshua Donkor fydd yn ychwanegiad gwerthfawr i’r 15,000 o eitemau yn archif portreadau’r Llyfrgell.
Mae Jasmine Violet wedi seilio’i gwaith ar lun a mapiau yng nghasgliadau’r Llyfrgell, sydd yn portreadu planhigfeydd siwgr yn Jamaica o’r 18fed ganrif oedd â chysylltiad Cymreig. Mae’n canolbwyntio ar hanes anodd a dadleuol caethwasiaeth a gwladychiaeth.
Mae’r gwaith newydd gan Mfikela Jean Samuel - sy’n ymateb i fap o eiddo trefedigaethol Prydeinig yng Ngorllewin Affrica yn yr 1940au hwyr, a ddosbarthwyd gan Swyddfa Gwybodaeth Ganolog y llywodraeth Brydeinig – yn tynnu sylw at yr hyn gafodd ei adael allan o’r map ac yn edrych ar sut mae mapiau’n dylanwadu ar ein golwg ar y byd.
Canolbwyntio ar y cysylltiadau rhwng y Fari Lwyd a gŵyl y Jonkonnu yn Jamaica mae Dr Adéọlá Dewis yn ei gwaith, gan ddefnyddio casgliadau graffeg y Llyfrgell sy’n portreadu’r Fari Lwyd fel man cychwyn.
Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Ymgysylltu a Phartneriaethau:
“Mae’r gwaith o sicrhau bod ein casgliadau’n cynrychioli hanes a phrofiadau amrywiol pobl Cymru yn ganolog i waith y Llyfrgell ac yn greiddiol i’n hamcanion strategol. Rydym yn hynod falch felly o groesawu'r gweithiau newydd hyn, a fydd yn gwella cynrychiolaeth o fewn y Casgliad Celf Cenedlaethol.”
Meddai Morfudd Bevan, Curadur Celf Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Mae wedi bod yn brofiad gwych cyd-weithio gyda'r pedwar artist hynod dalentog yma ar y prosiect pwysig iawn yma. Mae'n hanfodol ein bod yn cynnal sgyrsiau agored a gonest am ein casgliadau er mwyn creu gwelliannau ac er mwyn addysgu ein hun am hanes cuddiedig Cymru.”
Yn ystod Mis Hanes Pobl Ddu bydd y Llyfrgell yn dathlu derbyn y gweithiau hyn trwy eu harddangos a chynnal dau ddigwyddiad arbennig. Bydd portread Joshua Donkor i’w gweld yn yr arddangosfa Myfyrdod ar gyfer mis Hanes Pobl Ddu yn y Llyfrgell; tra bydd darluniau Jasmine Violet a Mfikela Jean Samuel i’w gweld yn arddangosfa Cymru i’r Byd yn Oriel Glan-yr-afon, Hwlffordd, sydd ar agor tan 24 Chwefror 2024. Bydd darlun Dr Adéọlá Dewis ar ddangos yn y Llyfrgell yn fuan.
Ar 17 Hydref am 5pm yn y Llyfrgell, bydd yr artist Joshua Donkor a’r awdur Eric Ngalle Charles yn trafod y portread, eu gyrfaoedd a chysylltiadau Cymru a Chamerŵn gyda’r bardd Ifor ap Glyn. Am fanylion llawn ac i archebu tocyn ewch i wefan y Llyfrgell.
Yna, ar 19 Hydref am 5pm yn Oriel Glan-yr-afon, Hwlffordd, bydd Jasmine Violet a Mfikela Jean Samuel yn trafod eu gwaith mewn sgwrs gyda Churadur Cynorthwyol Mapiau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ellie King, gan edrych ar heriau a phwysigrwydd dadgoloneiddio trwy brism mapiau a chelf. Darllenwch fwy ac archebwch docyn ar wefan Glan-yr-afon.
--DIWEDD--
** This press release is also available in English **
Am fwy o wybodaeth, ceisiadau cyfweliad neu gynigion cyfryngau cysylltwch â:
Rhodri ap Dyfrig, Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
rhodri.apdyfrig@llyfrgell.cymru / 07521 761762
NODIADAU I OLYGYDDION
Am Lyfrgell Genedlaethol Cymru:
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un o lyfrgelloedd mawr y byd. Wedi ei lleoli yn Aberystwyth, mae’n gartref i stori Cymru.
Wedi ei hagor yn 1907, mae’r Llyfrgell yn ganolbwynt ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a’r gwledydd Celtaidd.
Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth yn hygyrch i bawb allu dysgu, ymchwilio a mwynhau.
Rydym yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod gennym hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol:
Gallwch chwilio'r casgliadau ar-lein a chewch wybodaeth bellach ynghyd â rhestr o adnoddau ar wefan y Llyfrgell.
Am Oriel Glan-yr-afon, Hwlffordd
Mae Glan-yr-afon yn ganolfan ddiwylliannol flaenllaw yng nghalon Hwlffordd, sir Benfro. Fe’i hagorwyd ym mis Rhagfyr 2018, ac mae’n cynnwys llyfrgell fodern, canolfan i ymwelwyr, siop goffi a gofod ar gyfer oriel sy’n arddangos casgliadau o Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r cyfleuster gwych hwn yn anarferol ac yn arloesol, ac eisoes wedi bod yn rhan allweddol o’r gwaith o adfywio’r dref a’r ardal ehangach yn sir Benfro.
Am fwy o wybodaeth, ewch i: