Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd hyd yn oed mwy o hanes darlledu Cymru yn hygyrch i bawb, diolch i gyllid ychwanegol o bron i £250,000 gan Gronfa Treftadaeth Loteri Cymru tuag at wella Archif Ddarlledu Cymru.
O wneud addasiadau i’r prosiect, bydd llawer gwell mynediad at y cynnwys gan bobl ag anableddau, yn arbennig pobl Fyddar, pobl â nam ar eu clyw, pobl ddall a phobl â nam ar eu golwg.
Cafodd ei gyhoeddi neithiwr, yn noson lansio lewyrchus Canolfan Archif Ddarlledu Cymru - y gyntaf o’i math yn y DU - lle daeth sêr radio a theledu i weld drostynt eu hunain sut mae eu gwaith wedi cael ei gadw ar gyfer defnydd cenedlaethau i ddod.
Bydd llawer o’r arian yn cael ei ddefnyddio er mwyn gwella hygyrchedd y canolfannau gwylio, gwella mynediad at y wefan ac archif ar-lein, a darparu rhaglen isdeitlo ar gyfer prosiectau mynediad.
Dywedodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Mae ein diolch yn enfawr i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol am y chwarter miliwn o bunnoedd ychwanegol hwn. Bydd yr archif hon sydd o arwyddocâd cenedlaethol nawr hyd yn oed yn fwy hygyrch i bawb. Trwy hyn, gall roi cyfle o ragor o bobl ddeall hanes a diwylliant Cymru a’i phobl, trwy’r cannoedd o filoedd o oriau o radio a theledu a gedwir yma.”
Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru:
“Mae darlledu wedi chwarae rhan sylweddol mewn dogfennu hanes modern Cymru – o adroddiadau newyddion torcalonnus o drychineb Aberfan; i ddarlithoedd wnaeth ysbrydoli cenhedlaeth fel ‘Tynged yr Iaith’ Saunders Lewis, darllediad cyntaf S4C ym 1982 ac uchelfannau tîm pêl droed Cymru yn yr Euros yn 2016 a Chwpan y Byd yn 2022.
“Mae hefyd wedi caniatáu i ni daro llygad dros ein gorffennol gan ddysgu am ein treftadaeth trwy raglenni fel ‘The Dragon Has Two Tongues: A History of the Welsh’ ym 1985 , ‘The Story of Wales’ yn 2012, ac wedi rhoi Cymru ar y map gyda rhaglenni poblogaidd fel ‘Doctor Who’, ‘Un Bore Mercher’ ac ‘Y Gwyll’.
“Ein braint yw cefnogi prosiect mor bwysig ac mor arloesol, fydd yn gwarchod a rhannu treftadaeth ddarlledu Cymru fel bod cenedlaethau heddiw a’r dyfodol yn gallu gwerthfawrogi, mwynhau a dysgu ohono am flynyddoedd i ddod.”
** This press release is also available in English**
--DIWEDD--
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Nia Dafydd: post@llyfrgell.cymru
Prosiect arloesol a gefnogir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru yw Canolfan Archif Ddarlledu Cymru, i ddod â chasgliad enfawr o ddeunydd darlledu wedi’i ddigido i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, ac i’w wneud yn hygyrch i bawb yng Nghymru.
Mae’r deunydd yn cael ei gasglu yn y Llyfrgell Genedlaethol oherwydd cytundebau gyda darlledwyr BBC Cymru, ITV Cymru ac S4C. Yn ogystal â derbyn corff mawr o ddeunydd digidol, bydd y Llyfrgell yn parhau i ddarganfod a digido mwy o ddeunydd darlledu
Mae Canolfan Archif Ddarlledu Cymru y Llyfrgell Genedlaethol yn arddangosfa barhaol am ddim, a bydd ar agor i’r cyhoedd o 27 Mawrth 2023 ymlaen.
Am Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru