Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae’n bleser gennym gyhoeddi heddiw bod Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn cael ei dderbyn yn aelod o Orsedd Cymru drwy anrhydedd yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023.
Bydd yn dod yn aelod o Urdd Derwydd y Wisg Las am ei wasanaeth i’r genedl. Rhoddir y wisg las i bobl sy’n amlwg ym myd y gyfraith, gwyddoniaeth, chwaraeon, newyddiaduriaeth, y cyfryngau, gweithgaredd bro neu genedl.
Mae’r anrhydeddau hyn, a gyflwynir yn flynyddol, yn gyfle i roi clod i unigolion o bob rhan o’r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, ein hiaith a’u cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru.
Yn wreiddiol o Benrhyndeudraeth, ond nawr wedi’i leoli yn Aberystwyth, Pedr ap Llwyd yw Llyfrgellydd Cenedlaethol Cymru ers 2018. Mae’n gymwynaswr adnabyddus, ac fel rhan o’i weledigaeth i hyrwyddo hygyrchedd, llwyddodd yn ystod y cyfnod clo i ysgogi gweithlu’r Llyfrgell i gyflymu prosesau trawsnewid digidol er mwyn sicrhau bod ein treftadaeth ddogfennol yn fwy hygyrch i bawb. Mae’n gwasanaethu ar nifer o fyrddau a phwyllgorau dylanwadol yng Nghymru, yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru ac aelod o bwyllgor Cymru Cronfa Treftadaeth y Loteri.
--Diwedd--
** This press release is also available in English **
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Rhodri ap Dyfrig, Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
rhodri.apdyfrig@llyfrgell.cymru / 07855 362206
NODIADAU I OLYGYDDION
Am Lyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Llyfrgell i Gymru a’r byd. Wedi ei lleoli yn Aberystwyth, mae’n gartref i stori Cymru.
Wedi ei hagor yn 1907, mae’r Llyfrgell yn ganolbwynt ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a’r gwledydd Celtaidd.
Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth yn hygyrch i bawb allu dysgu, ymchwilio a mwynhau.
Rydym yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod gennym hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol
Gallwch chwilio'r casgliadau ar-lein. Cewch wybodaeth bellach ynghyd â rhestr o adnoddau ar ein gwefan