Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae'n bosib na fyddwn ni'n gallu cyrchu ein holl ddeunydd archifol rhwng 26 - 29 Mawrth 2025. Os fyddwch chi'n ymweld yn ystod y cyfnod hwn, gofynwn i chi archebu unrhyw ddeunydd archifol cyn 26 Mawrth os gwelwch yn dda. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Mae cannoedd o filoedd o raglenni radio a theledu o archifau BBC Cymru Wales, S4C ac ITV Cymru nawr ar gael i bobl Caerfyrddin a’r cyffiniau diolch i Gornel Clip newydd sydd bellach ar agor yn Llyfrgell Caerfyrddin. Mae gan y Gornel Clip newydd 4 terfynell gyfrifiadurol mewn ardal gyfforddus a gall unrhyw un ddod i wylio a gwrando ar y cyfoeth o raglenni sydd ar gael.
Fel rhan o’r prosiect hwn, bydd casgliad amrywiol o 1,500 o glipiau o’r archif yn cael eu casglu ac ar gael i unrhyw un eu gweld gartref ar-lein. Bydd gweddill y casgliad ar gael trwy gyfres o Gorneli Clip a fydd yn cael eu sefydlu ledled Cymru. Bydd ffurfio’r Corneli Clipiau hyn yn sicrhau y bydd cymunedau y tu hwnt i Aberystwyth yn gallu gweld yr archif yn eu hardal leol, ac mae gwaith ymgysylltu lleol eisoes ar waith gyda grwpiau fel Menter Dinefwr.
Archif Ddarlledu Cymru yw’r gyntaf o’i fath yn y DU gan roi mynediad i bron i ganrif o ddarlledu. Mae’n dwyn ynghyd deunydd o gasgliadau BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales, S4C a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Trwy gadw, catalogio a digideiddio’r deunydd hwn a’u cyflwyno ar wefan y gellir ei chwilio’n llawn, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi ymrwymo i wneud y casgliad hynod hwn yn hygyrch i bawb.
Gwnaed prosiect Archif Ddarlledu Cymru yn bosibl trwy gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol (£4.7M), Llywodraeth Cymru (£1M) a chronfeydd preifat Llyfrgell Genedlaethol Cymru (£1M).
Dywedodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Mae’n bleser gweld y Gornel Clip hon yn agor – y gyntaf o sawl un ledled Cymru fydd yn dod â’r archif cenedlaethol arloesol hwn yn agosach at y cyhoedd. Mae’r Llyfrgell yn diolch i Gyngor Sir Gâr ar eu cydweithrediad parod wrth hwyluso creu’r gofod yma fydd yn gam mawr i ni wrth roi mynediad at ein casgliadau, hybu ymgysylltu a grymuso ymchwil."
Dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny, Aelod Cabinet ar gyfer Adnoddau, Cyngor Sir Gâr:
“Rydym yn falch iawn bod y Corneli Clip cyntaf yn agor yma yn Llyfrgell Caerfyrddin. Yn dilyn gwaith adnewyddu helaeth ar y llyfrgell a’r estyniad gwerth £2.4m i archifdy Sir Gaerfyrddin i’r adeilad, mae’r cyfleuster cyffrous hwn i’w groesawu’n fawr gan ei fod yn caniatáu i drigolion ac ymwelwyr archwilio archifau gweledol ar-lein y BBC, S4C ac ITV sy’n cwmpasu 100 mlynedd o hanes Cymru. Bydd hefyd yn cynyddu nifer yr ymwelwyr i ben dwyreiniol Heol y Brenin wrth iddi ddatblygu ymhellach yn ardal ddiwylliannol yn nhref Caerfyrddin.”
Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru:
“Mae darlledu wedi chwarae rhan sylweddol mewn dogfennu hanes modern Cymru – o adroddiadau newyddion torcalonnus o drychineb Aberfan; i ddarlithoedd wnaeth ysbrydoli cenhedlaeth fel ‘Tynged yr Iaith’ Saunders Lewis, darllediad cyntaf S4C ym 1982 ac uchelfannau tîm pêl droed Cymru yn yr Euros yn 2016 a Chwpan y Byd yn 2022.
“Mae hefyd wedi caniatáu i ni daro llygad dros ein gorffennol gan ddysgu am ein treftadaeth trwy raglenni fel ‘The Dragon Has Two Tongues: A History of the Welsh’ ym 1985 ac wedi rhoi Cymru ar y map gyda rhaglenni poblogaidd fel ‘Doctor Who’, ‘Un Bore Mercher’ ac ‘Y Gwyll’.
“Ein braint yw cefnogi prosiect mor bwysig ac mor arloesol, fydd yn gwarchod a rhannu treftadaeth ddarlledu Cymru fel bod cenedlaethau heddiw a’r dyfodol yn gallu gwerthfawrogi, mwynhau a dysgu ohono am flynyddoedd i ddod.”
--DIWEDD--
** This press release is also available in English **
Cyswllt Cyfryngau Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Rhodri ap Dyfrig, Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd
rhodri.apdyfrig@llyfrgell.cymru / 07855 362206
NODIADAU AR GYFER GOLYGYDDION
Am Archif Ddarlledu Cymru
Am ragor o wybodaeth ewch i'r wefan
Am Lyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Llyfrgell i Gymru a’r byd. Wedi ei lleoli yn Aberystwyth, mae’n gartref i stori Cymru.
Wedi ei hagor yn 1907, mae’r Llyfrgell yn ganolbwynt ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a’r gwledydd Celtaidd.
Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth yn hygyrch i bawb allu dysgu, ymchwilio a mwynhau.
Rydym yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod gennym hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol
Gallwch chwilio'r casgliadau ar-lein. Cewch wybodaeth bellach ynghyd â rhestr o adnoddau ar ein gwefan
Am Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru