Symud i'r prif gynnwys

10.08.2023

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cytuno i sefydlu  Cynghrair Strategol newydd rhyngddynt er mwyn gwella cyfleoedd cydweithio a chynyddu traweffaith  gadarnhaol dros sawl maes gweithgaredd er budd i Gymru.

Cyhoeddir sefydlu’r Gynghrair Strategol mewn digwyddiad arbennig ar stondin Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, ddydd Iau 10fed Awst am 1.30pm.

Mae'r rhaglen waith yn canolbwyntio ar bedwar prif faes:

  • Datblygu a Rhannu sgiliau'r Gweithlu;
  • Arloesedd Digidol a Seilwaith Digidol;
  • Cwricwlwm ac Adnoddau Addysgol;
  • Datblygu Ymchwil a'r Casgliadau.

Mae’r partneriaid eisoes yn cydweithio ar gyfres o brosiectau ymchwil, addysg ac ymgysylltu drwy’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, gan gynnwys prosiectau hir dymor fel   Y Bywgraffiadur Cymreig a’r cynllun arloesol i gyd-gyhoeddi A Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes c.800-c.1800  a lansiwyd  yn 2022 gan Brif Weinidog Cymru Mark Drakeford mewn cynhadledd arbennig.

Llofnododd Prif Weithredwr a Llyfrgellydd  Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yr Athro Pedr ap Llwyd FLSW, ac Is-Ganghellor y Prifysgolion, yr Athro Medwin Hughes, CBE, DL, y Memorandwm Cytundeb rhwng y sefydliadau ar gampws Llambed, Prifysgol Cymru Y  Drindod Dewi Sant Llambed mewn cyfarfod arbennig ym mis Gorffennaf.

Dywedodd Ashok Ahir, Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

"Er bod hanes hir o'r sefydliadau'n cydweithio, yn enwedig ym maes ymchwil, bydd y Gynghrair Strategol newydd hon yn sicrhau mwy o aliniad o arbenigedd, profiadau ac adnoddau fel y gall ein sefydliadau cenedlaethol fynd i'r afael â materion economaidd, ymchwil, addysgol, dinesig a chymdeithasol ehangach."

Dywedodd yr Hybarch Randolph Thomas, Cadeirydd y Prifysgolion:

"Datblygwyd y Gynghrair Strategol o fewn fframwaith y Siartrau Brenhinol a strwythurau llywodraethant y sefydliadau. Fel sefydliadau cenedlaethol, rydym yn benderfynol o sicrhau bod ein gwerthoedd craidd wrth wraidd ein cynllunio a'n darpariaeth strategol."

Dywedodd yr Athro Pedr ap Llwyd:

"Dyma sefydlu perthynas glos, hynod bwysig rhwng dau o brif  sefydliadau Cymru sy’n  rhannu gwerthoedd sylfaenol ac yn gosod cydraddoldeb, tegwch, amrywedd  a chynwysoldeb mynediad a chyfle wrth wraidd eu gweledigaeth, cenhadaeth a strategaethau, gan flaenoriaethu cefnogaeth i bobl o bob cefndir, profiad ac amgylchiadau a chael gwared ar rwystrau i gyfranogiad. Edrychwn ymlaen at weithio'n agos gyda chydweithwyr yn y Brifysgol  ac i'n cydweithrediad fynd o nerth i nerth. Gyda’n gilydd mi fedrwn ni wasanaethu pobl Cymru yn well."

Dywedodd yr Athro Medwin Hughes:

"Mae yna aliniad strategol clir rhwng gwerthoedd craidd y sefydliadau sy'n cynnig cyfle sylweddol i adeiladu partneriaeth gynaliadwy newydd a chyffrous, wrth i’r  Llyfrgell Genedlaethol Cymru ddod yn bartner strategol o fewn  strwythur conffederal Prifysgol Cymru."

Dywedodd yr Athro Elwen Evans, CyB, Darpar Is-Ganghellor:

"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda chydweithwyr ar draws y sefydliadau i ddatblygu ymhellach ein cydweithrediad agos. Bydd y Gynghrair Strategol hon yn caniatáu i’n sefydliadau wireddu ein hamcanion strategol yn fwy effeithiol, trwy weithio ar fodel arloesol ar gyfer cydweithredu sydd hefyd yn ychwanegu gwerth mewn cyfnod economaidd heriol."

--DIWEDD--

** This press release is also available in English **

The National Library of Wales Media Contact:
Rhodri ap Dyfrig, Head of Marketing and Audiences
rhodri.apdyfrig@llyfrgell.cymru / 07855362206

Nodiadau i’r golygydd

  1. Datblygwyd y Gynghrair Strategol o fewn fframwaith y Siarteri Brenhinol a strwythurau llywodraethiant y sefydliadau er mwyn eu cynorthwyo i wireddu eu nodau strategol trwy raglen waith benodol. Caiff y gynghrair strategol ei oruchwylio gan y Bwrdd Partneriaeth Conffederal sy'n cynnwys aelodau o Gynghorau y Prifysgolion a Bwrdd Ymddiriedolwyr y Llyfrgell Genedlaethol yn ogystal â swyddogion gweithredol y sefydliadau.
  2. Mae’r Llyfrgell yn awyddus i ddatblygu ei pherthnasau gyda sefydliadau Addysg uwch Cymru.
  3. Mae’r bartneriaeth hon yn adeiladu ar y berthynas ragorol sy’n bodoli rhwng y Llyfrgell a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru.
  4. Caiff y Gynghrair Strategol rhwng PC/PCYDDS a LLGC ei goruchwylio gan y Bwrdd Partneriaeth Conffederal (gyda’r Gadeiryddiaeth am yn ail rhwng y sefydliadau, Cadeirydd Cyngor y Brifysgol a Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol). Mae’r Bwrdd hwn yn adrodd i Gynghorau’r sefydliadau.
  5. Mae’r rhaglen waith yn cael ei datblygu a’i rhoi ar waith gan y Pwyllgor Strategaeth sy’n cynnwys uwch swyddogion gweithredol y sefydliadau. Mae’r rhaglen waith yn cynnwys mentrau strategol yn y meysydd canlynol: datblygu a rhannu sgiliau’r gweithlu, is-adeiledd ac arloesedd ddigidol, datblygu ymchwil a’r casgliadau, cwricwlwm ac adnoddau addysg.
  6. Mae LLGC a PC/PCYDDS eisoes yn cydweithio ar gyfres o brosiectau drwy Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru ee. Y Bywgraffiadur Cymreig a’r cynllun hirdymor i gyd-gyhoeddi A Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes c.800-c.1800 gwaith arloesol Dr Daniel Huws, a lansiwyd yn 2022 gan brif Weinidog Cymru Mark Drakeford.