Symud i'r prif gynnwys

Newid cyfansoddiadol yn hanfodol i greu llwybr i Gymru well – Yr Athro Laura McAllister

Dyma oedd un o’r negeseuon canolog wrth i’r Athro Laura McAllister draddodi darlith flynyddol yr Archif Wleidyddol Gymreig ar Nos Fercher yr 22ain o Dachwedd.

Roedd dros 150 yn gwrando ar ddarlith flynyddol nodedig yr Archif Wleidyddol Gymreig a ddechreuwyd yn 1987, a chafodd ei chynnal eleni yn Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau a Diwylliant, Prifysgol Caerdydd.

Yn ei darlith, sy’n dwyn y teitl Synnwyr nid swnian: ffordd ymlaen i Gymru well, cynigiodd McAllister ddadansoddiad o’r Gymru gyfoes, yr angen brys am newid adeiladol, a chynnig syniadau ar greu cytundeb newydd rhwng y bobl a’r wladwriaeth.

Dywedodd Laura McAllister, Athro Polisi Cyhoeddus a Llywodraethu Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd a chyd-gadeirydd ar y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru:

“Heno, rydw i wedi cynnig fy nadansoddiad o arweinyddiaeth yn y ffordd ehangaf posib; dadlau dros ymagwedd hyderus wrth i ni geisio mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu Cymru. Dw i wedi galw am ddim llai nag ailddyfeisio Cymru ar sail y gred y dylem ni newid ein meddylfryd.”

“Yn wylaidd hoffwn gynnig adroddiad ein Comisiwn Annibynnol, sydd ar fin cael ei gyhoeddi, fel glasbrint i helpu i fframio’r newid gwleidyddol a chyfansoddiadol sy’n angenrheidiol ar gyfer y gwelliannau eraill sydd eu hangen arnom. Oherwydd mae newid cyfansoddiadol yn rhan o'r bocs tŵls ar gyfer creu Cymru well, nid yn brosiect hunanfaldodus. Mae yna lwybr i greu dinasyddiaeth wleidyddol llythrennog o fewn y system wleidyddol Gymreig newydd, addas i’wp phwrpas, sy’n rhoi i bobl yr ymreolaeth y maen nhw’n ei haeddu.”

“Ynddi, mae gan bobl lawer mwy o lais ac effaith ar y system ac maen nhw’n cymryd rhan, nid yn unig mewn etholiadau ond mewn bywyd dinesig yn fwy cyffredinol ac mae cymryd rolau cyhoeddus a chymunedol – beth bynnag ydyn nhw – wedi’i normaleiddio a’n ddisgwyliedig. Byddai hyn oll yn cael ei wreiddio mewn diwylliant agored o graffu ac atebolrwydd lle nad oes unrhyw ffefrynnau, dim monolithau gwleidyddol, diwylliannol nac economaidd, un lle mae plwraliaeth ac amrywiaeth ym mhob ystyr gan gynnwys gwybyddol yn cael eu dathlu, a lle mae trosiant iach a gwirfoddol o arweinwyr a chynrychiolwyr.”

“A dwi’n gobeithio bod y ddarlith heno wedi crynhoi’r cyfeiriad sydd angen i ni deithio tuag ato, i’r cam nesaf lle rydw i eisiau i ni fod fel cenedl…a dyna Gymru sydd yn y brif ffrwd byd-eang, wedi’i rhyddhau o’i hofn a’i swildod, yn Gymru hyderus, gyfartal a llewyrchus.”

Mae ymchwil McAllister yn canolbwyntio ar wleidyddiaeth ac etholiadau Cymru, datganoli, diwygio etholiadol, a rhywedd mewn gwleidyddiaeth. Etholwyd hi’n ddiweddar yn Ddirprwy Lywydd UEFA ac yn aelod o’r Pwyllgor Gweithredol.

Meddai Rob Phillips, Archif Wleidyddol Gymreig:

“Rydym yn falch iawn o allu croesawu’r Athro Laura McAllister i draddodi’r ddarlith eleni ar adeg mor ddiddorol yng ngwleidyddiaeth Cymru. Mae’r ddarlith yn binacl calendr yr Archif Wleidyddol ac yn arbennig eleni fel rhan o ddathliadau’r Archif yn 40. Bydd y ddarlith yn gyfle i edrych ymlaen at ddatblygiadau'r dyfodol tra ein bod yn dathlu’r casgliadau gwleidyddol gwych yn y Llyfrgell sy’n cadw hanes gwleidyddiaeth Cymru er budd y bobl.”

Sefydlwyd yr Archif Wleidyddol Gymreig ym 1983 i gydlynu’r gwaith o gasglu tystiolaeth ddogfennol o bob math am wleidyddiaeth yng Nghymru. Mae’n casglu cofnodion a phapurau pleidiau gwleidyddol, gwleidyddion, sefydliadau lled-wleidyddol, ymgyrchoedd a grwpiau pwyso; taflenni, pamffledi ac effemera printiedig eraill; posteri a ffotograffau; gwefannau a thapiau o raglenni radio a theledu.

Mae darlithwyr blaenorol yn cynnwys yr Arglwydd Cledwyn o Benrhos, Arglwydd Roberts o Gonwy, John Davies, Yr Arglwydd Bourne, Jeremy Bowen a’r Athro Angela John.

Yn dilyn y digwyddiad bydd testun y ddarlith ar gael ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ynghyd â darlithoedd eraill o’r gorffennol.

Diwedd

** This press release is also available in English **

 

Am fwy o wybodaeth, ceisiadau cyfweliad neu gynigion cyfryngau cysylltwch â:

Rhodri ap Dyfrig, Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru 

rhodri.apdyfrig@llyfrgell.cymru / 07521 761762

 

NODIADAU I OLYGYDDION

Am yr Archif Wleidyddol Gymreig:

Gwefan: https://www.llyfrgell.cymru/archifwleidyddolgymreig

Am Lyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Llyfrgell i Gymru a’r byd. Wedi ei lleoli yn Aberystwyth, mae’n gartref i stori Cymru.

Wedi ei hagor yn 1907, mae’r Llyfrgell yn ganolbwynt ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a’r gwledydd Celtaidd.

Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth yn hygyrch i bawb allu dysgu, ymchwilio a mwynhau.

Rydym yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod gennym hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol

  • 7,000,000 troedfedd o ffilm
  • 250,000 awr o fideo
  • 7,000,000 o lyfrau a phapurau newydd
  • 40,000 llawysgrif
  • 1,500,000 map
  • 150,000 awr o sain
  • 950,000 ffotograff
  • 60,000 gwaith celf
  • 1,900 metr ciwb o archifau

Gallwch chwilio'r casgliadau ar-lein.

Cewch wybodaeth bellach ynghyd â rhestr o adnoddau ar: https://www.llyfrgell.cymru/catalogau-chwilio/catalogau/catalogau-arbenigol