Symud i'r prif gynnwys

24.03.2023

Heddiw, 24 Mawrth 2023, cafodd disgyblion Ysgol Gynradd Llanbedr, Gwynedd cyfle i weld y paentiad enwog Salem gan Sydney Curnow Vosper yn y fro oedd yn ysbrydoliaeth i’r llun.

Fel rhan o ddigwyddiad Campweithiau Mewn Ysgolion - un o brosiectau estyn allan Llyfrgell Genedlaethol Cymru – roedd y paentiad yn cael ei arddangos yn Ysgol Gynradd Llanbedr, yr ysgol sydd agosaf at safle’r capel sy’n ymddangos yn y darlun.

Yn ogystal â dadorchuddio’r paentiad yng ngwasanaeth bore’r ysgol fel bod holl blant yr ysgol yn cael cyfle i’w weld, cafodd disgyblion blynyddoedd 5 a 6 cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai.

Mewn gweithdy paentio dyfrlliw yn seiliedig ar y campwaith, edrychodd y plant yn fanwl ar y dulliau a ddefnyddiwyd i greu’r darlun. Mewn ail weithdy bu iddynt fwrw golwg ar y wisg Gymreig a chanolbwyntio ar batrwm persli siôl Siân Owen.

Meddai Tesni Edwards, athrawes Blwyddyn 5&6 Ysgol Llanbedr:

“Mae costau trafnidiaeth wedi cynyddu’n eithriadol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac felly mae’n her ariannol i ysgolion fedru cludo disgyblion i orielau, amgueddfeydd a llyfrgelloedd ledled Cymru. Rydym yn hynod ddiolchgar i dderbyn y cyfle hwn a fydd yn galluogi disgyblion Ysgol Llanbedr i gydweithio gydag un o ddarluniau mwyaf eiconig Cymru, a dysgu mwy am gasgliadau un o’n sefydliadau cenedlaethol pwysicaf.”

Meddai Rhodri Morgan, Rheolwr Gwasanaeth Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Mae’n fraint medru defnyddio casgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol er mwyn cynnig profiadau cyffrous i ddisgyblion Cymru. Bydd cyflwyno gweithdy ar baentiad gwreiddiol Sydney Curnow Vosper i blant Ysgol Llanbedr, dafliad carreg o’r capel a fynychodd Siân Owen dros ganrif yn ôl, yn cyfoethogi eu dealltwriaeth o’u cynefin, wrth iddynt barhau i ddathlu hanes eu milltir sgwâr.”

Yn hwyrach yn y flwyddyn bydd y Llyfrgell yn gwahodd holl ddisgyblion Ysgol Llanbedr i Aberystwyth er mwyn iddynt weld ble mae’r darlun yn cael ei gadw’n ddiogel, ac i ddysgu mwy am gasgliadau eraill Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Mae’r prosiect Campweithiau Mewn Ysgolion yn rhan o strategaeth y Llyfrgell i estyn allan i gymunedau ar draws Cymru a chefnogi cyfranogiad mewn gweithgareddau diwylliannol, addysgol a chelfyddydol ar gyfer plant a phobl ifanc. 

Bydd y sesiynau yma’n hwyluso’r ysgol i alinio gyda chanllawiau'r Cwricwlwm i Gymru, trwy gefnogi Meysydd Dysgu a Phrofiad Y Dyniaethau, a’r Celfyddydau Mynegiannol, yn ogystal â chyflwyno deunydd sy’n berthnasol i gynefin y disgyblion.

** This press release is also available in English**

--DIWEDD--
Gwybodaeth Bellach
Rhodri ap Dyfrig
rhodri.apdyfrig@llyfrgell.cymru neu 01970 632 844 / 07855 362206

Nodiadau i Olygyddion

Am Wasanaeth Addysg LlGC

Sefydlwyd Gwasanaeth Addysg LLGC yn 2002. Ei brif waith yw:

  • Cyflwyno rhaglen o weithgareddau addysgol o safon uchel sy’n hyrwyddo Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r casgliad cenedlaethol drwy’r cwricwlwm ysgol.
  • Cynyddu ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc o hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru.
  • Hwyluso mynediad at wybodaeth i’r rhai mewn addysg ac addysgwyr, a’u cynorthwyo i gael y gorau o’n casgliadau drwy ddehongli gwybodaeth sydd yn y casgliad cenedlaethol.
  • Cynyddu presenoldeb y Llyfrgell, ac ymwybyddiaeth o’r sefydliad a’r gwaith mae’n gwneud, ar draws Cymru.
  • Cynorthwyo Llyfrgell Genedlaethol Cymru i gyflawni blaenoriaethau strategol Llyfrgell i Gymru a'r Byd cynllun strategol Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 2021 - 2026.
  • Cynhyrchu adnoddau dysgu digidol o safon uchel sy’n cynorthwyo athrawon i gyflwyno’r cwricwlwm yng Nghymru, a chyhoeddi’r rhain ar Hwb.
  • Rheoli prosiectau amrywiol sy’n cynnig mynediad at y casgliadau i blant, pobl ifanc ac oedolion.
  • Cyfrannu at gefnogi agenda cynhwysiad cymdeithasol a lleihau anghydraddoldeb Llywodraeth Cymru drwy weithio mewn ardaloedd difreintiedig.

Ers 2007 mae gwasanaeth Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi bod yn cyflwyno casgliadau’r Llyfrgell mewn ardaloedd ar draws Cymru fel rhan o’i rhaglen estyn allan. Caiff y prosiectau hyn eu cynllunio a’u cyflwyno mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, ysgolion a sefydliadau eraill, a’u teilwra i ateb anghenion y defnyddwyr, yn ogystal ag ateb gofynion y cwricwlwm o ran cynnwys a sgiliau.

Am Gampweithiau Mewn Ysgolion

Yn 2013 lansiodd Art UK prosiect Campweithiau mewn Ysgolion gyda'r nod o ddod â phlant wyneb yn wyneb â gweithiau celf hynod ac eiconig y tu mewn i'w hystafell ddosbarth, gan chwalu rhai rhwystrau traddodiadol sy’n codi wrth ddod i gysylltiad â chelf. O ganlyniad, benthycwyd ystod o gampweithiau i ysgolion gan artistiaid enwog, er enghraifft L. S. Lowry, Monet a Turner.

Yn dilyn llwyddiant y cynllun, cyhoeddodd Art UK y byddai Campweithiau mewn Ysgolion yn dychwelyd yn 2018, fel rhan o'r prosiect cerfluniau - y prosiect dogfenni cerfluniau mwyaf erioed a gynhaliwyd yn y DU hyd yma. Unwaith eto, bydd gweithiau celf yn teithio allan o stiwdios artistiaid, amgueddfeydd ac orielau’r genedl, ac i mewn i ysgolion. Mae'r fenter hefyd yn hwyluso’r broses o adeiladu perthynas rhwng ysgolion a chasgliadau sy’n arwyddocaol i’w hardal.

Gwneir rhaglen Campweithiau mewn Ysgolion yn bosibl diolch i grantiau hael gan Sefydliad Stavros Niarchos a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Am Salem gan Sydney Curnow Vosper

Mae’r gwaith mewn dyfrlliw yn darlunio’r olygfa o oedfa yng Nghapel Salem, Cefncymerau, Llanbedr ger Harlech, gyda’r cymeriad Siân Owen yn ei gwisg draddodiadol Gymreig yn dal llyfr emynau yn ganolog i’r llun. Ysbrydolwyd yr artist dyfrlliw Sydney Curnow Vosper ((1866-1942) i greu gweithiau wedi eu selio ar ddiwylliant Llydaweg a Chymreig yn ystod ei oes, ond heb os Salem yw ei waith mwyaf adnabyddus heddiw. 

Creodd Vosper ddau fersiwn o Salem yn ystod ei oes; prynwyd y fersiwn gyntaf, a baentiwyd yn 1908, gan William Hesketh Lever, ac fe’i defnyddiodd er mwyn hyrwyddo gwerthiant ei gynnyrch ‘Sunlight Soap’. Yn sgil hyn daeth y ddelwedd yn un eiconig ar draws Prydain. Ond daeth Salem yn symbol o’r bywyd Cymreig a’r traddodiad anghydffurfiol yng Nghymru a magodd enwogrwydd cynyddol yn sgil y ffaith bod rhai yn gweld delwedd o’r diafol ym mhlyg siôl cymeriad canolog y llun. Crëwyd yr ail fersiwn, sydd ond ychydig yn wahanol i’r gwreiddiol, ar gyfer Frank Treharne James, cyfreithiwr o Ferthyr, a brawd-yng-nghyfraith yr artist, yn 1909. Fe’i prynwyd gan y Llyfrgell Genedlaethol yn 2021.