Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn dathlu Mis Hanes Pobl Ddu eleni gyda chyfres o weithgareddau i ddathlu amrywiaeth yng Nghymru.
Yn ystod y mis bydd calendar ddigidol - Calendar Cymru a'r Byd - yn cael ei lansio sydd yn amlygu digwyddiadau diwylliannol, crefyddol, ymwybyddiaeth ac amrywiaeth byd-eang, sy’n berthnasol i Gymru ac eitemau yng nghasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol.
Yn rhan o ymateb y Llyfrgell i Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru, bydd y calendar yn adnodd cyfeiriol i ddefnyddwyr o fewn y Llyfrgell a’r cyhoedd. Mae’r digwyddiadau sydd wedi eu dethol i gael eu cynrychioli yn y calendar wedi eu dewis gyda gofal a gwrthrychedd, gan ddefnyddio casgliadau’r Llyfrgell fel canllaw i sicrhau cydbwysedd, tegwch ac amrywiaeth.
Mae’r prosiect yn amlygu’r hyn sydd wedi bod ar gael ond heb eu harchwilio o fewn casgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol a bydd digwyddiadau yn cael eu dangos ochr yn ochr ag eitemau perthnasol o’r casgliadau.
Dywedodd Dr Owain Rhys Roberts, Cyfarwyddwr Casgliadau a Gwasanaethau Digidol:
“Mae’r amcan o greu Cymru sydd yn fwy cyfartal a chynhwysol yn un hollbwysig ac yn llywio ein cynlluniau hirdymor fel sefydliad. Mae ein gweithgareddau yn ystod mis Hanes Pobl Ddu yn enghreifftiau o’r gwaith sydd yn digwydd trwy gydol y flwyddyn yn y Llyfrgell er mwyn gwireddu’r amcan pwysig hwn.”
Dywedodd Miidong P. Daloeng, Swyddog Prosiect Dad-goloneiddio Archifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
"Mae cymdeithas sy'n cofleidio ei hamrywiaeth yn sicr o ffynnu ym mhob maes. Mae Cynllun Gweithredu Wrth-hiliol Cymru, sydd wedi’i roi ar waith gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru drwy ei phrosiectau amrywiol yn rhagorol ac yn un dylid ei efelychu, ac sy'n dangos bod modd cyrraedd cymdeithas sy’n rhydd o hiliaeth ac arwahanu."
Bydd y Llyfrgell hefyd yn dathlu Hanes Du yng Nghymru gydag arddangosfa o eitemau o’r casgliadau yn ardal arddangos Peniarth.
Wedi’i guradu gan Miidong P. Daloeng, mae’r arddangosfa Myfyrdod yn anelu at feithrin gwell dealltwriaeth o Hanes Du trwy archwilio’r themâu cerddoriaeth, celfyddydau, addysg, ymerodraeth ac ymgyrchoedd, gan fyfyrio ar a dathlu cyfraniadau Du i gymdeithas Cymru, a’r Byd yn gyffredinol.
Yn ystod y mis, bydd y Llyfrgell yn cynnal dau ddigwyddiad yn ymwneud a’i gwaith i ddadgoloneiddio’r casgliadau ac mae manylion rhain ar gael ar wefan y Llyfrgell a gwefan Oriel Glan-yr-afon, Hwlffordd.
--DIWEDD--
** This press release is also available in English **
Am fwy o wybodaeth, ceisiadau cyfweliad neu gynigion cyfryngau cysylltwch â:
Rhodri ap Dyfrig, Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
rhodri.apdyfrig@llyfrgell.cymru / 07521 761762
NODIADAU I OLYGYDDION
Am Lyfrgell Genedlaethol Cymru:
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un o lyfrgelloedd mawr y byd. Wedi ei lleoli yn Aberystwyth, mae’n gartref i stori Cymru.
Wedi ei hagor yn 1907, mae’r Llyfrgell yn ganolbwynt ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a’r gwledydd Celtaidd.
Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth yn hygyrch i bawb allu dysgu, ymchwilio a mwynhau.
Rydym yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod gennym hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol:
Gallwch chwilio'r casgliadau ar-lein a chewch wybodaeth bellach ynghyd â rhestr o adnoddau ar wefan y Llyfrgell.