Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd hanner miliwn o glipiau fideo o hanes radio a theledu Cymru yn cael eu rhoi ar gael i’r cyhoedd, diolch i agoriad Canolfan Archif Ddarlledu Cymru am y tro cyntaf heddiw. (Dydd Iau 16 Mawrth).
Wedi’i leoli yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth – gyda 13 ‘Cornel Clip’ yn agor ledled Cymru dros y misoedd nesaf – dyma fydd yr archif ddarlledu genedlaethol gyntaf ym Mhrydain, ac un o’r archifau darlledu hawsaf i’w defnyddio yn Ewrop. Mi fydd yn trawsnewid mynediad cyhoeddus at ganrif o hanes darlledu Cymru gyda ffilm, fideo a sain Cymraeg a Saesneg wedi’u digido i’w darganfod.
Mae Canolfan Archif Ddarlledu Cymru yn cynnig mynediad digidol at ddeunydd sydd wedi’i gadw mewn sawl fformat dros y degawdau.
Gall ymwelwyr bori drwy recordiadau sain o radio’r BBC yng Nghymru o’r 1930au ymlaen, darllediadau teledu gan y BBC a darlledwyr masnachol yng Nghymru, gan gynnwys HTV Cymru ac ITV Cymru, o’r 1950au ymlaen, ac o 1982 ymlaen – holl raglenni S4C, y sianel deledu Gymraeg gyntaf.
Mae eiliadau nodedig yn hanes Cymru wedi’u cofnodi ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol drwy eitemau dogfen a newyddion cyffredinol, sy’n trafod digwyddiadau fel boddi Tryweryn, trychineb Aberfan, streiciau’r Glowyr a’r Senedd yn agor. Hefyd yn eu plith mae clipiau sy’n dangos pob agwedd ar fywyd yng Nghymru, o ddarllediadau helaeth o chwaraeon Cymru ers y 1940au, i adloniant a drama yn cynnwys opera sebon hynaf y BBC – Pobol y Cwm – a ddarlledwyd am y tro cyntaf ym 1974.
Mae’r arddangosfa barhaol yn defnyddio technoleg ryngweithiol o’r radd flaenaf i arddangos uchafbwyntiau’r archif, yn ogystal ag arddangosfa a fydd yn newid yn rheolaidd. Mae hyn yn cynnwys lolfa sain a fideo sy’n gweithredu fel silffoedd llyfrau clyweledol i’w pori’n hamddenol. Bydd y gwasanaeth allweddol yn cael ei ddarparu drwy derfynellau a fydd yn galluogi mynediad digynsail i’r cyhoedd ac academyddion allu ymchwilio i gasgliad helaeth o ddeunydd wedi’i ddigido o dreftadaeth glyweledol Cymru. Bydd gweithgareddau pwrpasol ar gyfer ysgolion a grwpiau ar gael yng Nghanolfan Archif Ddarlledu Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Meddai Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol, Ashok Ahir:
“Nid yn unig y mae Canolfan Archif Ddarlledu Cymru yn cynnwys canrif o hanes darlledu Cymru, ond canrif o hanes Cymru. Am y tro cyntaf yn y ganrif honno, mae ar gael i bobl Cymru ei fwynhau. Ar draws cannoedd ar filoedd o glipiau fideo a roddwyd gan BBC Cymru, ITV Cymru ac S4C, mae ganddon ni straeon o bob cornel a chymuned yng Nghymru. Mae rhai yn straeon fel yr adroddwyd nhw wrth Gymru, ac mae eraill yn straeon a adroddwyd gan Gymru. Bydd modd i bobl weld eu hunain yn y straeon maen nhw’n eu gweld a’u clywed. Rydyn ni eisiau i bobl ddod i ddysgu, i rannu ac i fwynhau hanes Cymru, nid yn unig yn Aberystwyth, ond ledled Cymru.”
Am y tro cyntaf i’r Llyfrgell Genedlaethol, bydd modd i’r cyhoedd gael mynediad at archif ddarlledu o’r tu allan i’w lleoliad yn Aberystwyth - gyda gofod yng Nghanolfan Mileniwm Cymru a nifer o leoliadau newydd yn agor ledled Cymru yn 2023/24. Mae’r rhain yn cynnwys:
Wrth drafod arwyddocâd y ffaith bod modd cael mynediad at Ganolfan Archif Ddarlledu Cymru o bob cwr a chornel o’r wlad, meddai Ashok:
“Un o’n nodau allweddol yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yw bod ein casgliadau anhygoel ar gael i bawb yng Nghymru. Ym mhob un o’n Corneli Clip ar draws y wlad, bydd modd i bobl fewngofnodi i’r Llyfrgell Genedlaethol, mewngofnodi i Archif Ddarlledu Cymru, a gwylio a gwrando ar hanes eu cymuned leol. Nid yn unig byddan nhw’n dysgu am straeon eu cymuned, ond lle mae’r straeon yma’n eistedd yn hanes ehangach Cymru.”
Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden:
“Mae creadigaeth Archif Ddarlledu Cymru yn foment arbennig yn natblygiad ein Llyfrgell Genedlaethol ac o ran gwarchod y gofnod orau posibl o’n treftadaeth ddiwylliannol. Rydw i’n hynod o falch taw Cymru yw’r lle cyntaf yn y Deyrnas Unedig i gael archif ddarlledu genedlaethol a’n fodlon iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cyfrannu cyllid er mwyn i’r prosiect allu mynd yn ei flaen. Dymunaf bob llwyddiant i’r tîm yn y Llyfrgell Genedlaethol ac edrychaf ymlaen yn eiddgar i ddilyn hynt yr Archif dros y blynyddoedd i ddod.”
Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru:
“Mae darlledu wedi chwarae rhan sylweddol mewn dogfennu hanes modern Cymru – o adroddiadau newyddion torcalonnus o drychineb Aberfan; i ddarlithoedd wnaeth ysbrydoli cenhedlaeth fel ‘Tynged yr Iaith’ Saunders Lewis, darllediad cyntaf S4C ym 1982 ac uchelfannau tîm pêl droed Cymru yn yr Euros yn 2016 a Chwpan y Byd yn 2022.
“Mae hefyd wedi caniatáu i ni daro llygad dros ein gorffennol gan ddysgu am ein treftadaeth trwy raglenni fel ‘The Dragon Has Two Tongues: A History of the Welsh’ ym 1985 , ‘The Story of Wales’ yn 2012, ac wedi rhoi Cymru ar y map gyda rhaglenni poblogaidd fel ‘Doctor Who’, ‘Un Bore Mercher’ ac ‘Y Gwyll’.
“Ein braint yw cefnogi prosiect mor bwysig ac mor arloesol, fydd yn gwarchod a rhannu treftadaeth ddarlledu Cymru fel bod cenedlaethau heddiw a’r dyfodol yn gallu gwerthfawrogi, mwynhau a dysgu ohono am flynyddoedd i ddod.”
** This press release is also available in English**
--Diwedd--
gael rhagor o wybodaeth a rhestr lawn o ddigwyddiadau, cysylltwch â Nia Dafydd: post@llyfrgell.cymru
Prosiect arloesol a gefnogir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru yw Canolfan Archif Ddarlledu Cymru, i ddod â chasgliad enfawr o ddeunydd darlledu wedi’i ddigido i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, ac i’w wneud yn hygyrch i bawb yng Nghymru.
Mae’r deunydd yn cael ei gasglu yn y Llyfrgell Genedlaethol oherwydd cytundebau gyda darlledwyr BBC Cymru, ITV Cymru ac S4C. Yn ogystal â derbyn corff mawr o ddeunydd digidol, bydd y Llyfrgell yn parhau i ddarganfod a digido mwy o ddeunydd darlledu.
Mae Canolfan Archif Ddarlledu Cymru y Llyfrgell Genedlaethol yn arddangosfa barhaol am ddim, a bydd ar agor i’r cyhoedd o 27 Mawrth 2023 ymlaen.
Am Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru