Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd Oriel Hengwrt, sy'n dal arddangosfa Trysorau, ar gau ar Ddydd Llun 9 Medi. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Mae tocynnau ar werth nawr ar gyfer cyfres o ddigwyddiadau arbennig gan Archif Ddarlledu Cymru a’i partneriaid BBC Cymru, S4C ac ITV Cymru. Bydd y gyfres yn dathlu darlledwyr Cymru yn ogystal â sêr darlledu Cymru a’u cyfraniad at dreftadaeth sgrin a sain y wlad. Mae’r tri digwyddiad cyntaf yn y gyfres Archif Ddarlledu Cymru’n Cyflwyno... yn rhoi llwyfan i unigolion o’r byd drama, comedi, cyflwyno a newyddiaduraeth, ac yn adrodd straeon am eu bywyd, gwaith a’u gyrfa gan dynnu ar glipiau prin o Archif Ddarlledu Cymru.
Yr actor byd enwog a seren Y Gwyll / Hinterland, Richard Harrington fydd yn cael ei holi gan y gyflwynwraig Ffion Dafis yn y digwyddiad cyntaf ar 26 Hydref, ac yn ail ar 30 Tachwedd bydd Caryl Parry Jones y gomediwraig, cantores a chyflwynwraig yn hel atgofion gyda Ffion eto wrth y llyw.
Y trydydd digwyddiad i‘w gyhoeddi heddiw yw noson arbennig yng Nghornel Clip Llyfrgell Caerfyrddin yw noson yng nghwmni cyflwynwyr BBC Radio Wales ddoe a heddiw, a hyn o dan adain Dot Davies. Bydd Dot yn holi’r newyddiadurwr Gilbert John, y cyflwynydd Roy Noble a’r seren reggae a chyflwynwraig BBC Radio Wales Aleighcia Scott. Yn ogystal â hyn bydd y gynulleidfa’n cael cipolwg ar hen glipiau o archif newyddion a digwyddiadau Caerfyrddin.
Ariennir Archif Ddarlledu Cymru gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a’r Llyfrgell Genedlaethol a’i bwriad yw sicrhau bod treftadaeth ddarlledu Cymru yn cael ei warchod a’i rannu gyda’r cyhoedd.
Dywedodd Dafydd Tudur, Rheolwr Prosiect Archif Ddarlledu Cymru:
"Mae’n bleser o’r mwyaf cael cyhoeddi’r gyfres Archif Ddarlledu Cymru’n Cyflwyno... sydd yn dechrau rhaglen eang o weithgareddau i’w cynnal dros y flwyddyn nesaf. Ein bwriad trwy eu cynnal ydi agor drysau’r Llyfrgell Genedlaethol i fwy o bobol, estyn croeso i bobol o bell ac agos, ac wrth wneud hyn annog unigolion i ddod i chwilota yn Archif Ddarlledu Cymru am raglenni sain a fideo."
"Pwrpas prosiect yr archif yw dathlu treftadaeth darlledu Cymru, ac rydan ni wir yn gyffrous am greu cyfleoedd i gynulleidfaoedd hen a newydd i ddeall mwy am yr archif a sut i gael mynediad ato."
Mae tocynnau ar werth nawr ar gyfer y tri digwyddiad ar wefan y Llyfrgell: digwyddiadau.llyfrgell.cymru
26 Hydref 2023, 7:30pm
Noson yng nghwmni un o’n hactorion pennaf Richard Harrington
Lleoliad: Canolfan Archif Ddarlledu Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
Cyflwynydd: Ffion Dafis
30 Tachwedd 2023, 7:30pm
Noson o glipiau, sgwrs a chân gyda Caryl Parry Jones
Lleoliad: Canolfan Archif Ddarlledu Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
Cyflwynydd: Ffion Dafis
25 Ionawr 2024, 7:30pm
Noson yng nghwmni Roy Noble, Aleighcia Scott a Gilbert John i ddathlu BBC Radio Wales
Lleoliad: Cornel Clip, Llyfrgell Caerfyrddin
Cyflwynydd: Dot Davies
--DIWEDD--
** This press release is also available in English **
Am fwy o wybodaeth, ceisiadau cyfweliad neu gynigion cyfryngau cysylltwch â:
Rhodri ap Dyfrig, Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
rhodri.apdyfrig@llyfrgell.cymru / 07521 761762
NODIADAU I OLYGYDDION
Am Archif Ddarlledu Cymru:
Erbyn diwedd y prosiect bydd hanner miliwn o glipiau fideo o hanes radio a theledu Cymru ar gael i’r cyhoedd yn Archif Ddarlledu Cymru. Prosiect arloesol a gefnogir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru yw Canolfan Archif Ddarlledu Cymru, i ddod â chasgliad enfawr o ddeunydd darlledu wedi’i ddigido i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, ac i’w wneud yn hygyrch i bawb.
Mae’r deunydd yn cael ei gasglu yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth gyda’r darlledwyr BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales ac S4C.
Arddangosfa Canolfan Archif Ddarlledu Cymru:
Yn ogystal â mynediad at yr archif, mae’r arddangosfa barhaol yn defnyddio technoleg ryngweithiol o’r radd flaenaf i arddangos uchafbwyntiau’r archif. Mae hyn yn cynnwys lolfa sain a fideo sy’n gweithredu fel silffoedd llyfrau clyweledol i’w pori’n hamddenol. Mae’r gwasanaeth allweddol yn cael ei ddarparu drwy derfynellau a fydd yn galluogi mynediad digynsail i’r cyhoedd ac academyddion allu ymchwilio i gasgliad helaeth o ddeunydd wedi’i ddigido o dreftadaeth glyweledol Cymru. Mae gweithgareddau pwrpasol ar gyfer ysgolion a grwpiau ar gael yng Nghanolfan Archif Ddarlledu Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Am y tro cyntaf i’r Llyfrgell Genedlaethol, bydd modd i’r cyhoedd gael mynediad i’r archif ddarlledu o’r tu allan i’w lleoliad yn Aberystwyth – gydag 13 o leoliadau newydd ledled Cymru yn agor yn 2023 a 2024.
Am Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru:
Am Lyfrgell Genedlaethol Cymru:
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un o lyfrgelloedd mawr y byd. Wedi ei lleoli yn Aberystwyth, mae’n gartref i stori Cymru.
Wedi ei hagor yn 1907, mae’r Llyfrgell yn ganolbwynt ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a’r gwledydd Celtaidd.
Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth yn hygyrch i bawb allu dysgu, ymchwilio a mwynhau.
Rydym yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod gennym hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol:
Gallwch chwilio'r casgliadau ar-lein a chewch wybodaeth bellach ynghyd â rhestr o adnoddau ar ein gwefan.