Symud i'r prif gynnwys

21.06.2023

Ar 26 Mehefin byddwn yn dathlu mis Pride yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gyda phrynhawn o weithgareddau arbennig.

Am y tro gyntaf erioed byddwn yn cynnal taith tywys cwiar ac yn mynd ag ymwelwyr ar daith trwy ein Casgliadau Balch yng nghwmni’r arbenigwr Norena Shopland.

Mae’n rhan bwysig o waith y Llyfrgell i gasglu a chadw gwybodaeth amrywiol am Gymru a’i phobl, a bydd y daith yma yn edrych ar eitemau arbennig ar draws ein casgliadau sy’n taflu goleuni ar fywydau LHDTC+ yng Nghymru - o gyfnod Hywel Dda hyd heddiw.

Meddai Rhodri ap Dyfrig, Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd:
“Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn llyfrgell ar gyfer Cymru gyfan, ac mae’n bwysig i ni gael dathlu mis Pride gyda pobl LHDTC+ Cymru, yr ardal, a staff y Llyfrgell ei hun fel hyn. Rydyn ni wedi cyffroi o allu cynnig y daith unigryw yma o’r casgliadau ac i ac roi golwg ar rhai o’r ffyrdd mae pobl LHDTC+ wedi ein ffurfio ni a’n hanes. Bydd y faner Pride yn cyhwfan yn falch i’ch croesawu.”

Meddai'r awdur a hanesydd Norena Shopland:
“Mae’n bleser mawr cael gwahoddiad i ysgrifennu’r daith cwiar gyntaf o amgylch Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’n hanfodol bod cyrff cyhoeddus sy’n cynrychioli cymdeithas yn gwbl gynhwysol ac mae Mis Pride yn gyfle delfrydol i arddangos rhai o’r cyfraniadau pwysig a wnaed gan bobl LGBTQ+ yng Nghymru.”

Yn ogystal â’r daith arbennig yma, bydd Llyfrau Lliwgar, clwb llyfrau LHDTC+ Cymraeg Bangor a Chaerdydd, yn ymuno â ni i gyflwyno sgwrs yng nghwmni Llenorion Lliwgar yn trafod i ba raddau mae llenyddiaeth Gymraeg yn gynhwysol ac yn dangos amrywiaeth, gyda mewnbwn gan lenorion gwadd.

I archebu eich lle ar daith tywys neu’r sgwrs Llyfrau Lliwgar ewch i’n tudalen digwyddiadau.

Ar y diwrnod hefyd, bydd stondinau a chacennau blasus yng Nghaffi Pen Dinas a bydd arddangosfa o eitemau o gasgliad Jenny Porter yn ardal arddangos Peniarth.

--DIWEDD--

** This press release is also available in English **

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Rhodri ap Dyfrig, Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

rhodri.apdyfrig@llyfrgell.cymru / 07855 362206

Am Lyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Llyfrgell i Gymru a’r byd. Wedi ei lleoli yn Aberystwyth, mae’n gartref i stori Cymru.

Wedi ei hagor yn 1907, mae’r Llyfrgell yn ganolbwynt ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a’r gwledydd Celtaidd.

Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth yn hygyrch i bawb allu dysgu, ymchwilio a mwynhau.

Rydym yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod gennym hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol

  • 7,000,000 troedfedd o ffilm
  • 250,000 awr o fideo
  • 6,000,000 o lyfrau a phapurau newydd
  • 40,000 llawysgrif
  • 1,500,000 map
  • 150,000 awr o sain
  •  950,000 ffotograff
  •  60,000 gwaith celf
  •  1,900 metr ciwb o archifau

Gallwch chwilio'r casgliadau ar-lein. Cewch wybodaeth bellach ynghyd â rhestr o adnoddau ar ein gwefan.