Symud i'r prif gynnwys

Laura McAllister i roi darlith nodedig ar ddyfodol gwleidyddol Cymru

20/11/2023

Nos Fercher yr 22ain o Dachwedd bydd yr Athro Laura McAllister yn traddodi darlith flynyddol yr Archif Wleidyddol Gymreig. Yn ei darlith bydd hi’n cynnig dadansoddiad o’r Gymru gyfoes, yr angen brys am newid adeiladol, ac yn cynnig syniadau ar greu cytundeb newydd rhwng y bobl a’r wladwriaeth.

Dywedodd Laura McAllister, Athro Polisi Cyhoeddus a Llywodraethu Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd:

“Trwy dynnu ar fy nghefndir personol a phroffesiynol mewn chwaraeon a gwleidyddiaeth, bydd y ddarlith hon yn ein herio ni fel unigolion yn ogystal â sefydliadau i ailfeddwl sut rydym yn gwneud gwleidyddiaeth, a sut y gallwn fagu hyder gwell yn ein gwlad, dros amser, a allai ddod â seicoleg llwyddiant newydd i ni.”

Meddai Rob Phillips, Archif Wleidyddol Gymreig:

“Rydym yn falch iawn o allu croesawu’r Athro Laura McAllister i draddodi’r ddarlith eleni ar adeg mor ddiddorol yng ngwleidyddiaeth Cymru. Mae’r ddarlith yn binacl calendr yr Archif Wleidyddol ac yn arbennig eleni fel rhan o ddathliadau’r Archif yn 40. Bydd y ddarlith yn gyfle i edrych ymlaen at ddatblygiadau'r dyfodol tra ein bod yn dathlu’r casgliadau gwleidyddol gwych yn y Llyfrgell sy’n cadw hanes gwleidyddiaeth Cymru er budd y bobl.”

Mae ymchwil McAllister yn canolbwyntio ar wleidyddiaeth ac etholiadau Cymru, datganoli, diwygio etholiadol, a rhywedd mewn gwleidyddiaeth. Etholwyd hi’n ddiweddar yn Ddirprwy Lywydd UEFA ac yn aelod o’r Pwyllgor Gweithredol. Mae hi hefyd yn gyd-gadeirydd ar y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.

Sefydlwyd yr Archif Wleidyddol Gymreig ym 1983 i gydlynu’r gwaith o gasglu tystiolaeth ddogfennol o bob math am wleidyddiaeth yng Nghymru. Mae’n casglu cofnodion a phapurau pleidiau gwleidyddol, gwleidyddion, sefydliadau lled-wleidyddol, ymgyrchoedd a grwpiau pwyso; taflenni, pamffledi ac effemera printiedig eraill; posteri a ffotograffau; gwefannau a thapiau o raglenni radio a theledu. Nid yw ei gwaith wedi’i gyfyngu i adran benodol yn y Llyfrgell.

Cynhaliwyd darlith flynyddol yr Archif Wleidyddol Gymreig gyntaf yn 1987 ac mae nifer o academyddion, newyddiadurwyr, haneswyr a gwleidyddion wedi cael y cyfle i draddodi’r ddarlith. Darlithwyr blaenorol yn cynnwys yr Arglwydd Cledwyn o Benrhos, Arglwydd Roberts o Gonwy, John Davies, Yr Arglwydd Bourne, Jeremy Bowen a’r Athro Angela John.

Gallwch archebu tocyn am ddim i’r digwyddiad neu i’r ffrwd ar-lein ar wefan y Llyfrgell: <https://www.llyfrgell.cymru/>

Yn dilyn y ddarlith bydd y testun ar gael ar ein gwefan.

Diwedd

** This press release is also available in English **

Am fwy o wybodaeth, ceisiadau cyfweliad neu gynigion cyfryngau cysylltwch â:

Rhodri ap Dyfrig, Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru 

rhodri.apdyfrig@llyfrgell.cymru / 07521 761762

NODIADAU I OLYGYDDION

Am yr Archif Wleidyddol Gymreig:

Gwefan: https://www.llyfrgell.cymru/archifwleidyddolgymreig

Am Lyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Llyfrgell i Gymru a’r byd. Wedi ei lleoli yn Aberystwyth, mae’n gartref i stori Cymru.

Wedi ei hagor yn 1907, mae’r Llyfrgell yn ganolbwynt ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a’r gwledydd Celtaidd.

Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth yn hygyrch i bawb allu dysgu, ymchwilio a mwynhau.

Rydym yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod gennym hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol

  • 7,000,000 troedfedd o ffilm
  • 250,000 awr o fideo
  • 7,000,000 o lyfrau a phapurau newydd
  • 40,000 llawysgrif
  • 1,500,000 map
  • 150,000 awr o sain
  • 950,000 ffotograff
  • 60,000 gwaith celf
  • 1,900 metr ciwb o archifau

Gallwch chwilio'r casgliadau ar-lein.

Cewch wybodaeth bellach ynghyd â rhestr o adnoddau ar: https://www.llyfrgell.cymru/catalogau-chwilio/catalogau/catalogau-arbenigol