Symud i'r prif gynnwys

02.02.2023

Am y tro cyntaf ers 30 mlynedd bydd cyfle i’r cyhoedd weld detholiad o brintiau o gasgliad Gregynog.

Bydd yr arddangosfa, Gadael Argraff: Printiau Gregynog, sy’n agor ar 4 Chwefror 2023 yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn dathlu casgliad celf y chwiorydd Davies a gwaith Gwasg Gregynog.

Llwyddodd Gwendoline a Margaret Davies, a oedd yn gefnogwyr hael y Llyfrgell, i greu un o gasgliadau celf mwyaf pwysig Prydain yn yr ugeinfed ganrif.

Ymysg trysorau’r arddangosfa bydd deugain ysgythriad gan Augustus John, hunanbortread eiconig Rembrandt a set o broflenni prin a chynnar o Thames Set enwog James McNeill Whistler.

Yn 1951, diolch i haelioni’r chwiorydd, cwblhawyd ac addurnwyd Oriel Gregynog, ac yn 1952, flwyddyn ar ôl marwolaeth Gwendoline, rhoddodd Margaret y casgliad o brintiau i’r Llyfrgell.

Dywedodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Diolch i haelioni’r chwiorydd Davies mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ofod hardd yn Oriel Gregynog i rannu’r Casgliad Celf Genedlaethol gyda phobl Cymru. Rydym yn hynod falch felly o allu rhannu rhai o’r trysorau a gasglwyd ganddynt, sy’n adlewyrchu chwaeth aruchel y ddwy, gyda phawb fydd yn ymweld â’r arddangosfa arbennig yma.”

Dywedodd Mari Elin Jones, Swyddog Dehongli Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Ychydig dros 70 mlynedd ers i Margaret Davies gymynnu’r casgliad print i’r Llyfrgell, a bron i 30 mlynedd ers i’r gweithiau gael eu harddangos ddiwethaf, rydym wrth ein bodd cael rhannu’r casgliad unigryw hwn gyda’r cyhoedd eto.  Rwy’n gobeithio y bydd ymwelwyr o bob oed yn mwynhau’r gwrthrychau bendigedig hyn.”

Yn ogystal â chasglu celf ac ymroi i’w gwaith elusennol, roedd gan y chwiorydd Davies fwriad i greu canolfan i’r mudiad Celf a Chrefft yng Nghymru. Arweinodd hyn at sefydlu The Gregynog Press (1923-1940) ac yn ddiweddarach Gwasg Gregynog Prifysgol Cymru (c.1970-2018), a gynhyrchodd lyfrau argraffiad cyfyngedig o ansawdd uchel.

Comisiynwyd nifer o engrafwyr pren gorau’r ugeinfed ganrif i ddarlunio’r llyfrau hyn – artistiaid fel Kyffin Williams, Hilary Paynter a Colin See-Paynton a bydd enghreifftiau o’r darluniau yma i’w gweld yn yr arddangosfa hon hefyd. 

Bydd arddangosfa Gadael Argraff: Printiau Gregynog ar agor yn Oriel Gregynog tan 23 Medi 2023.

** This press release is also available in English**


--DIWEDD--

Gwybodaeth Bellach:
post@llyfrgell.cymru