Symud i'r prif gynnwys

19.09.2023

Bydd arddangosfa newydd gyffrous o fapiau o’r Llyfrgell Genedlaethol yn agor yn Oriel Glan-yr-afon, Hwlffordd, Ddydd Sadwrn 23 Medi. Bydd arddangosfa Cymru i'r Byd yn arddangos detholiad o fapiau o'r dros 1.5 miliwn o wrthrychau y gofelir amdanynt yn y Casgliad Mapiau Cenedlaethol yn Aberystwyth. Mae'r arddangosfa'n amrywio o fap hynaf Llyfrgell Genedlaethol Cymru i weithiau celf sydd wedi’u comisiynu o’r newydd a’u hariannu gan Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru.

Ymhlith uchafbwyntiau’r arddangosfa mae Cambriae Typus gan Humphrey Llwyd - y map printiedig cynharaf yn benodol o Gymru, map Rhyfel Oer o Ddoc Penfro a luniwyd yn gyfrinachol gan yr Undeb Sofietaidd, cardiau chwarae o’r 17eg ganrif ar thema map, a map propaganda Almaenig yn dyfynnu David Lloyd George. Bydd gweithiau celf newydd sbon sydd wedi’u hysbrydoli gan y casgliad mapiau hefyd yn cael eu harddangos am y tro cyntaf yn yr arddangosfa hon, ochr yn ochr â’r eitemau sydd wedi eu hysbrydoli.

Mae’r arddangosfa newydd yn ymdrin â datblygiad Cymru ar y map, yn ogystal â sut mae mapiau wedi cael eu defnyddio ar gyfer dysgu a chwarae, a grym mapiau i’n perswadio a’n camarwain. Crëwyd yr arddangosfa gan Ellie King, Curadur Mapiau Cynorthwyol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae Ellie yn llyfrgellydd newydd gymhwyso ac wedi cael ei mentora gan y tîm arddangosfeydd fel rhan o ymrwymiad y Llyfrgell Genedlaethol i ddarparu cyfleoedd dysgu a datblygu i staff.

Dywedodd Ellie King, Curadur Mapiau Cynorthwyol Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Mae curadu’r arddangosfa hon wedi bod yn daith o ddarganfod, ac mae hi wedi bod yn fraint cael treiddio i hanes rhai o drysorau cartograffig Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Rwy'n gobeithio y byddant yn helpu i arddangos ehangder rhyfeddol y casgliad mapiau. Rwy’n arbennig o falch o allu cynnwys yr ymatebion artistig i’r casgliad gan Mfikela Jean Samuel a Jasmine Violet, sy’n amlygu pŵer parhaus y mapiau sydd ar gadw yma yn y Llyfrgell Genedlaethol, yn ogystal â’r angen i’w hystyried o safbwyntiau newydd.”

Meddai Rhodri ap Dyfrig, Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Rydym yn falch o gydweithio unwaith eto gydag Oriel Glan-yr-afon i rannu ein casgliadau gyda chynulleidfa ehangach, a hefyd i fod yn darparu cyfleoedd ar gyfer datblygiad staff curadurol. Mae’r mapiau eu hunain yn cynnig cipolwg hynod ddiddorol a gwerthfawr ar sut roedd Cymru’n gweld ei hun a sut yr oedd eraill ar hyd a lled y byd yn ei gweld ar wahanol gyfnodau trwy hanes.”

I gyd-fynd â'r arddangosfa hon bydd rhaglen o ddigwyddiadau a gweithdai addysg yn cael eu cynnal yn Oriel Glan-yr-afon, yn dechrau gyda sgwrs rhwng yr artistiaid Mfikela Jean Samuel and Jasmine Violet ac Ellie King ar 19 Hydref am 5:00pm. Bydd manylion llawn i’w gweld yn fuan ar wefan Oriel Glan-yr-afon a'u tudalen Facebook.

Ochr yn ochr ag arddangosfa Cymru i'r Byd cynhelir arddangosfa barhaol Sir Benfro: Ddoe a Heddiw, sy'n canolbwyntio ar hanes, diwylliant a thirwedd Sir Benfro, a fydd yn arddangos detholiad o eitemau newydd y tymor hwn.

Bydd y ddwy arddangosfa ar agor tan Ddydd Sadwrn 24 Chwefror 2024.

--DIWEDD--

**This press release is also available in English**

Am fwy o wybodaeth a lluniau, cysylltwch â: Rhodri ap Dyfrig, Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru: rhodri.apdyfrig@llyfrgell.cymru / 07855 362206

NODIADAU I OLYGYDDION

Am Oriel Glan-yr-afon, Hwlffordd

Mae Glan-yr-afon yn ganolfan ddiwylliannol flaenllaw yng nghalon Hwlffordd, sir Benfro. Fe’i hagorwyd ym mis Rhagfyr 2018, ac mae’n cynnwys llyfrgell fodern, canolfan i ymwelwyr, siop goffi a gofod ar gyfer oriel sy’n arddangos casgliadau o Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r cyfleuster gwych hwn yn anarferol ac yn arloesol, ac eisoes wedi bod yn rhan allweddol o’r gwaith o adfywio’r dref a’r ardal ehangach yn sir Benfro.

Am fwy o wybodaeth, ewch i:

  • wefan Glan-yr-afon
  • dudalen Facebook Llyfrgelloedd Sir Benfro, neu
  • ffoniwch Glan-yr-afon ar 01437 775244

Am Lyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un o lyfrgelloedd mawr y byd. Wedi ei lleoli yn Aberystwyth, mae’n gartref i stori Cymru.

Wedi ei hagor yn 1907, mae’r Llyfrgell yn ganolbwynt ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a’r gwledydd Celtaidd.

Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth yn hygyrch i bawb allu dysgu, ymchwilio a mwynhau.

Rydym yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod gennym hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol:

  • 7,000,000 troedfedd o ffilm
  • 250,000 awr o fideo
  • 6,000,000 o lyfrau a phapurau newydd
  • 40,000 llawysgrif
  • 1,500,000 map
  • 150,000 awr o sain
  • 950,000 ffotograff
  • 60,000 gwaith celf
  • 1,900 metr ciwb o archifau

Gallwch chwilio'r casgliadau ar-lein a chewch wybodaeth bellach ynghyd â rhestr o adnoddau ar ein gwefan.