Symud i'r prif gynnwys

30.05.2023

Sgwrs gan Peter Lord a Rhian Davies fydd cyfraniad Llyfrgell Genedlaethol Cymru at Ŵyl y Gelli eleni. Ar Ddydd Mercher 31 Mai byddant yn bwrw golwg ar bortreadu cerddoriaeth a cherddorion Cymreig, sef testun eu cyhoeddiad diweddar The Art of Music: Branding the Welsh Nation.

Eto eleni, i gyd-fynd â’r sgwrs, bydd paentiad gwreiddiol o Gasgliad Celf Genedlaethol y Llyfrgell yn cael ei arddangos yn ystod y digwyddiad, sef Tad yr Arlunydd, Thomas Coslett Richards / The Artist’s Father, Thomas Coslett Richards, 1955 gan Ceri Richards, un o artistiaid pwysicaf yr 20fed ganrif.

Gan ddefnyddio delweddau a cherddoriaeth bydd Peter Lord a Rhian Davies yn trafod yr ystrydeb o genedl gerddorol rhwng canol yr 16eg a’r presennol, ac yn dadansoddi datblygiad brand cenedlaethol Cymru ac effeithiau gwleidyddol a chymdeithasol hynny, yn enwedig mewn perthynas â’r syniad o hunaniaeth Brydeinig

Dywedodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

“Mae’r Llyfrgell yn falch iawn o fod yn rhan o Ŵyl y Gelli eleni eto am yr eildro. Mae Ceri Richards yn un o artistiaid Cymreig pwysicaf yr 20fed ganrif ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at y cyfle i rannu’r trysor yma ganddo sydd yng Nghasgliad Celf Genedlaethol y Llyfrgell, gyda chynulleidfa Gŵyl y Gelli.”

Bu gan yr arlunydd Ceri Richards ymrwymiad dwfn i gerddoriaeth. Peintiodd sawl portread o gerddorion wrth eu gwaith, ac ymddangosodd y piano yn ei ddarluniau yn aml. O ystyried ei gefndir teuluol, nid yw hyn yn syndod. Roedd ei dad, Thomas Coslett Richards, ymhlith sylfaenwyr Côr Meibion Dyfnant, ac un o hoelion wyth cerddoriaeth ei gapel. Sicrhaodd Tom Richards addysg gerddorol i’w blant.

Ym 1955 peintiodd Ceri y portread gwych yma o’i dad, dwy flynedd cyn iddo farw, gan ddychwelyd i’r arddull realistaidd, gain, oedd wedi bod yn nodweddiadol o’i bortreadau cynnar. Yn y portread mae’n mynegi’n ddwys y gwrthgyferbyniad rhwng ei wreiddiau dosbarth gweithiol Cymreig a byd rhyngwladol, soffistigedig, ei yrfa gelfyddydol lewyrchus.  

Am fwy o fanylion am y digwyddiad ac i archebu tocyn ewch i wefan Gŵyl y Gelli.

--Diwedd--

** This press release is also available in English **

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Rhodri ap Dyfrig, Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
rhodri.apdyfrig@llyfrgell.cymru / 07855 362206

Am The Art of Music: Branding the Welsh Nation

Mae The Art of Music: Branding the Welsh Nation wedi ei ysgrifennu i gynulleidfa eang ei mwynhau. Yn nrama radio Dylan Thomas, Under Milk Wood (1954), canmolodd y Parchg Eli Jenkins ganu Polly Garter gyda’r geiriau ‘Praise the Lord! We are a musical nation’. Mae diwylliant gweledol wedi bod yn rhan hanfodol o greu a lledaenu'r brand cenedlaethol cyffredin yma ers amser maith. Mae The Art of Music yn disgrifio delweddu cerddoriaeth a cherddorion Cymreig yng nghyd-destun esblygiad hunanddelwedd y Cymry, a’i ddylanwad ar ganfyddiadau allanol o Gymreictod o fewn Prydain a’r byd ehangach.

Cyhoeddir The Art of Music gan Parthian Books, un o gyhoeddwyr mwyaf blaenllaw Cymru, sy’n dathlu deng mlynedd ar hugain o gyhoeddi yn 2023 gyda digwyddiadau ledled y wlad gan gynnwys yng Ngŵyl y Gelli. Meddai’r cyfarwyddwr cyhoeddi Dr Richard Lewis Davies:

“Mae Peter Lord a Rhian Davies wedi cyfuno eu doniau fel awduron a haneswyr gan ganolbwyntio ar gerddoriaeth a chelf i gynhyrchu cyfuniad rhyfeddol o syniadau yn The Art of Music  a brandio ein cenedl.”

Am Lyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Llyfrgell i Gymru a’r byd. Wedi ei lleoli yn Aberystwyth, mae’n gartref i stori Cymru.

Wedi ei hagor yn 1907, mae’r Llyfrgell yn ganolbwynt ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a’r gwledydd Celtaidd.

Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth yn hygyrch i bawb allu dysgu, ymchwilio a mwynhau.

Rydym yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod gennym hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol

  • 7,000,000 troedfedd o ffilm
  • 250,000 awr o fideo
  • 6,000,000 o lyfrau a phapurau newydd
  • 40,000 llawysgrif
  • 1,500,000 map
  • 150,000 awr o sain
  • 950,000 ffotograff
  • 60,000 gwaith celf
  • 1,900 metr ciwb o archifau

Gallwch chwilio'r casgliadau ar-lein. Cewch wybodaeth bellach ynghyd â rhestr o adnoddau ar ein gwefan.