Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Nid yw'r gwasanaeth Corneli Clip ar gael ar hyn o bryd oherwydd problemau technegol. Rydym yn gweithio i ddatrys y rhain mor fuan â phosib. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Mae'n bosib na fyddwn ni'n gallu cyrchu ein holl ddeunydd archifol yn ystod yr wythnosau nesaf. Os fyddwch chi'n ymweld yn ystod y cyfnod hwn, gofynnwn i chi archebu unrhyw ddeunydd archifol cyn gynted â phosib os gwelwch yn dda. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Mae arddangosfa gelf newydd wedi agor yn Oriel Glan-yr-afon, Hwlffordd sy’n dathlu artistiaid Sir Benfro, a’r ffyrdd mae ei thirwedd, pobl a golau wedi eu hysbrydoli.
Mae arddangosfa Artistiaid Sir Benfro yn cynnwys gweithiau gan artistiaid o ddechrau’r ugeinfed ganrif fel Gwen ac Augustus John ac artistiaid mwy cyfoes fel David Tress a Claudia Williams. Ynddi, mae’n dwyn ynghyd casgliad arbennig o weithiau gan arlunwyr lleol, neu rai sydd â chysylltiadau â’r sir hardd hon.
Trefnir y darluniau mewn tri phrif thema - morluniau ac arfordiroedd, lleoliadau trefol a phortreadau. Daeth yr eitemau i gyd o gasgliad gweithiau ar bapur Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Gyda’i hansawdd golau arbennig a thirwedd hardd, mae Sir Benfro wedi bod yn ganolbwynt creadigol sy’n denu ac yn ysbrydoli artistiaid o bob rhan o’r DU a thu hwnt ers amser maith ac mae’r berthynas agos rhwng celf a thirwedd yn Sir Benfro a chael ei harchwilio yn yr arddangosfa arbennig yma.
Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Ymgysylltu a Phartneriaethau Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
"Rydym yn falch iawn o’n cyswllt gydag Oriel Glan-yr-afon. Mae cael y cyfle i rannu y gweithiau celf hyn o’n casgliadau gyda phobl Sir Benfro a’i hymwelwyr yn rhan bwysig o’n strategaeth i roi mynediad eang i’n casgliadau a chreu cynulleidfaoedd newydd i gelf Cymru. Mae atyniad ac ysbrydoliaeth sir Benfro i artistiaid o bell ac agos i'w gweld yn amlwg yn yr arddangosfa hon, a gobeithiaf y bydd yn ysbrydoli ymwelwyr i edrych o'r newydd ar y sir o'u cwmpas."
Meddai Mari Elin Jones, Swyddog Dehongli Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
"Gyda sir Benfro wedi cael ei disgrifio fel 'St Ives Cymru' rwy'n hynod falch o'r cyfle i ddangos gweithiau rhai o artistiaid enwocaf y sir o gasgliadau gweithiau ar bapur Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn Hwlffordd. Mae hwn yn gyfle unigryw i ni rannu casgliad nad yw’n cael sylw yn aml mewn arddangosfa sydd wedi’i churadu yn arbennig ar gyfer Oriel Glan-yr-afon. Rydyn ni’n gobeithio bydd yr arddangosfa hon yn atynnu ymwelyr i’r Oriel ac yn cael ei fwynhau gan nifer."
Ochr yn ochr ag arddangosfa Artistiaid Sir Benfro, cynhelir arddangosfa Sir Benfro: Ddoe A Heddiw, sef arddangosfa barhaol sy’n canolbwyntio ar hanes, diwylliant, a thirlun Sir Benfro. Bydd y ddwy arddangosfa ar agor tan Ddydd Sadwrn, 3 Medi 2023.
--DIWEDD--
**This press release is also available in English**
Am fwy o wybodaeth a lluniau, cysylltwch â: Rhodri ap Dyfrig, Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru: rhodri.apdyfrig@llyfrgell.cymru / 07855 362206
NODIADAU I OLYGYDDION
Am Oriel Glan-yr-afon, Hwlffordd
Mae Glan-yr-afon yn ganolfan ddiwylliannol flaenllaw yng nghalon Hwlffordd, sir Benfro. Fe’i hagorwyd ym mis Rhagfyr 2018, ac mae’n cynnwys llyfrgell fodern, canolfan i ymwelwyr, siop goffi a gofod ar gyfer oriel sy’n arddangos casgliadau o Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r cyfleuster gwych hwn yn anarferol ac yn arloesol, ac eisoes wedi bod yn rhan allweddol o’r gwaith o adfywio’r dref a’r ardal ehangach yn sir Benfro.
Am fwy o wybodaeth, ewch i:
Am Lyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un o lyfrgelloedd mawr y byd. Wedi ei lleoli yn Aberystwyth, mae’n gartref i stori Cymru.
Wedi ei hagor yn 1907, mae’r Llyfrgell yn ganolbwynt ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a’r gwledydd Celtaidd.
Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth yn hygyrch i bawb allu dysgu, ymchwilio a mwynhau.
Rydym yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod gennym hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol
Gallwch chwilio'r casgliadau ar-lein a chewch wybodaeth bellach ynghyd â rhestr o adnoddau ar ein gwefan.