Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Nid yw'r gwasanaeth Corneli Clip ar gael ar hyn o bryd oherwydd problemau technegol. Rydym yn gweithio i ddatrys y rhain mor fuan â phosib. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yng nghannol hwyl yr Eisteddfod ac yn cynnig croeso cynnes i bawb ar y stondin. Yno, gallwch weld arddangosfa arbennig yn edrych ar hanes Deiseb Heddwch Menywod Cymru a gwaith y ffotograffydd lleol, Guy Hughes, gan archwilio’r cysylltiadau rhwng y ddau gasgliad.
Trwy gasgliad rhyfeddol ffotograffau Guy Hughes, gwelwn wynebau rhai o’r merched lleol hynny a lofnododd y ddeiseb yn 1923, gan ddod a’r stori hynod yma’n fyw.
Os yn chwilio am rywle i gael hoe a difyrru’r plant bydd cyfle ar y stondin i wisgo fyny, gwneud bathodynnau neu liwio eu campwaith celf. Neu rhowch eich traed fyny wrth hel atgofion am Lŷn ac Eifionydd yn ardal wylio gyfforddus Archif Ddarlledu Cymru, lle bydd detholiad helaeth o glipiau o gasgliad yr Archif yn cael eu dangos gydol yr wythnos.
Bydd Siop y Llyfrgell hefyd ar y stondin, ac yn ogystal â’r nwyddau chwaethus arferol, bydd nwyddau wedi’u comisiynu’n arbennig ar gyfer Eisteddfod 2023 ar werth.
Wedi’i hysbrydoli gan ferched y Ddeiseb Heddwch bydd cyfle i brynu crysau-t, posteri, bagiau, llieiniau cegin a bathodynnau gyda dyluniad gwreiddiol gan yr artist Efa Lois.
Bydd atgynhyrchiad o gopi gwreiddiol geiriau’r gân Yma o Hyd hefyd ar gael i’w brynu, gyda chyfle arbennig ar Ddydd Mercher 9 Awst am 11 o’r gloch i gwrdd a sgwrsio gyda Dafydd Iwan ei hun, fydd yno i lofnodi copïau.
Yn ogystal â hyn oll, bydd presenoldeb y Llyfrgell yn ymestyn ar hyd y Maes gyda chyflwyniadau difyr ac amrywiol yn Cymdeithasau 2, Tŷ Gwerin, Maes D, y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Pafiliwn y Senedd a Sinemaes.
Mae’r rhaglen lawn sydd â manylion y digwyddiadau o amgylch y Maes i’w weld isod a dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf.
--DIWEDD--
This press release is also available in English.
Cyswllt Cyfryngau Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Rhodri ap Dyfrig, Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd
rhodri.apdyfrig@llyfrgell.cymru / 07855 362206
GWYBODAETH BELLACH
Ar y Maes
Dydd Llun 7 Awst
11:30am
O’r Gell i’r Gell: Trysorau Gwyddonol y Llyfrgell Genedlaethol
Douglas Jones (Rheolwr Prosiect-Casgliadau Cyhoeddus)
(Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg )
1:00pm
Dathlu’r cyfansoddwr David Harries (1933-2002)
(Encore)
5:30pm
Deiseb Heddwch Menywod Cymru: Ddoe, Heddiw ac Yfory
'Jill Evans, Sian Rhiannon a Catrin Stevens, gyda Mererid Hopwood yn holi.'
(Cymdeithasau 2)
Dydd Iau, 10 Awst
2:15pm
‘O’r Archif’ - Gwenan Gibbard: Caneuon Gwerin Llyn ac Eifionydd
Nia Mai Daniel (Pennaeth Isadran Archifau, Llawysgrifau a Chofnodion Modern, a Chydlynydd Yr Archif Gerddorol Gymreig)
(Tŷ Gwerin)
Dydd Gwener, 11 Awst
11:00am
Tân yn Llŷn
Straeon gwleidyddiaeth radicalaidd Pen Llŷn gyda Rob Phillips o’r Archif Wleidyddol Gymreig
(Maes D)
1:00pm
Straeon o’r Senedd
Straeon gwleidyddol y 25 mlynedd diwethaf o’r Archif Wleidyddol Gymreig gyda Rob Phillips
(Pafiliwn y Senedd )
5:30pm
Archif Ddarlledu Cymru: Cofio Digwyddiadau Mawr Darlledu
'Aled Huw, Angharad Mair a Nia Thomas, gyda Dylan Iorwerth yn holi'
(Cymdeithasau 2)
Pob Dydd
11:00am
Detholiad o ffilmiau o archif Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Llŷn ac Eifionydd Ers Talwm
(Sinemaes )
Ar y Stondin
Arddangosfa
Arddangosfa arbennig yn edrych ar hanes Deiseb Heddwch Menywod Cymru a gwaith y ffotograffydd lleol, Guy Hughes, gan archwilio’r cysylltiadau rhwng y ddau gasgliad.
Gweithgareddau Plant
Amryw weithgareddau i ddifyrru’r plant gan gynnwys cist gwisgo fyny, gwneud bathodynnau ac ardal lliwio.
Ffilm
Detholiad o glipiau o ardal Llŷn ac Eifionydd o gasgliad yr Archif yn cael eu dangos gydol yr wythnos.
Siop
Amryw o nwyddau wedi’u comisiynu’n arbennig ar gyfer Eisteddfod 2023 yn ymweud â'r Ddeiseb Heddwch. Bydd atgynhyrchiad o gopi gwreiddiol geiriau’r gân ‘Yma o Hyd’ hefyd ar gael i’w brynu.
Dydd Mercher, 9 Awst, 11:00am
Dafydd Iwan
Cyfle i gwrdd â sgwrsio gyda Dafydd Iawn. Bydd yma yn stondin y Llyfrgell i lofnodi atgynhyrchiad o gopi gwreiddiol geiriau’r gân ‘Yma o Hyd’ a fydd ar werth yn y siop.