Symud i'r prif gynnwys

29.03.2023

Mae Deiseb Heddwch canmlwydd oed a lofnodwyd gan bron i 400,000 o fenywod Cymru ar ei thaith yn ôl i Gymru, a hynny wedi i Amgueddfa Genedlaethol Hanes America y Smithsonian drosglwyddo’r gist dderw a’r ddeiseb oddi mewn iddi i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.

Ym 1923 gydag erchyllterau'r Rhyfel Byd Cyntaf wedi ysgogi cenhedlaeth gyfan i sefyll yn erbyn rhyfel, trefnodd menywod Cymru ymgyrch dros heddwch byd-eang. Yng nghynhadledd Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru yng Ngholeg Prifysgol Aberystwyth, cynigiwyd y dylid lansio ymgyrch i sicrhau bod menywod UDA yn clywed lleisiau menywod Cymru a chydweithio dros fyd heb ryfel.

Llofnododd cyfanswm o 390,296 o fenywod y ddeiseb. O fewn saith mis, roedd Annie Hughes-Griffiths, Mary Ellis, Elined Prys a Gladys Thomas wedi cyrraedd UDA gyda chist dderw ac ynddi ddeiseb a oedd, yn ôl y sôn, yn 7 milltir o hyd. Yn Efrog Newydd fe’i cyflwynwyd i fenywod America gan ddirprwyaeth o fenywod o Gymru. Ers hynny, mae'r gist wedi'i diogelu a’i harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Hanes America yn Washington DC.

Oddi ar 2019, mae Pwyllgor Partneriaeth ‘Hawlio Heddwch’ wedi bod yn cydweithio gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru i fenthyg y gist a rhai o’r deisebau. Arweiniodd y trafodaethau dilynol gydag Amgueddfa Genedlaethol Hanes America at drosgwlyddo’r gist i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r gist nawr ar ei ffordd i’w chartref newydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth ac mae disgwyl iddi gyrraedd o fewn yr wythnosau nesaf. 

Ar 29 Mawrth, 2023, bydd cynrychiolwyr o Gymru gan gynnwys Academi Heddwch Cymru, Heddwch Nain / Mam-gu, Llywodraeth Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Cymru’n cwrdd â staff Amgueddfa Genedlaethol Hanes America er mwyn nodi'r achlysur.

Cyfrannodd Llywodraeth Cymru £150,000 i ariannu prosiect i sicrhau bod y gist a'r ddeiseb yn dychwelyd i Gymru. Wedi cyrraedd Aberystwyth bydd staff arbenigol y Llyfrgell Genedlaethol yn digido ei chynnwys. Bydd hyn yn ei dro yn galluogi’r cyhoedd i chwilio’r Ddeiseb Heddwch i ddarganfod pwy yn union oedd y menywod hyn o Gymru a aeth i chwilio am heddwch.

Gan weithio gyda Phartneriaeth y Ddeiseb Heddwch a gwirfoddolwyr ledled Cymru, bydd arddangosfa yn cael ei threfnu yn ystod 2023-2024 i gyflwyno’r gist a’r ddeiseb mewn tri lleoliad – Aberystwyth, Sain Ffagan a Wrecsam.

Meddai Jill Evans, Cadeirydd grŵp Heddwch Nain/Mam-gu Cymru, sydd wedi bod yn gwbl allweddol yn dwyn sylw i'r stori hon:

“Ysbrydolodd y daith heddwch unigryw a rhyfeddol hon gan fenywod yng Nghymru gan mlynedd yn ôl gymaint o bobl ac mae’n parhau i wneud hynny. Mae'r hanes hwn yn perthyn i bob un ohonom. Mae angen inni gofio a rhannu’r stori, i ddathlu ei llwyddiant ond hefyd i ailddatgan ei nod o fyd di-ryfel. Sefydlwyd Heddwch Nain/Mam-gu i barhau ymgyrch y menywod hyn dros heddwch.”

Meddai Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Hoffem ddiolch i Sefydliad y Smithsonian a’n holl bartneriaid ym Mhartneriaeth Hawlio Heddwch am sicrhau bod y Ddeiseb Heddwch yn gwneud ei ffordd i’r Llyfrgell yma yn Aberystwyth. Bydd y prosiectau digideiddio ac ymgysylltu yn galluogi pobl o bob rhan o Gymru i ddeall mwy am y Ddeiseb Heddwch, y menywod a arweiniodd yr ymgyrch a llawer o’r menywod a lofnododd y ddeiseb.”

Meddai Anthea M. Hartig, Cyfarwyddwr Elizabeth MacMillan, Amgueddfa Genedlaethol Hanes America: 

“Mae’r ddeiseb hon gan fenywod Cymru ar ran menywod yr Unol Daleithiau, yn esiampl hardd o gefnogaeth rhwng chwiorydd. Am yn agos at ddegawd cafodd y gist ei harddangos yn ein hamgueddfa er mwyn egluro defnydd rhwydweithiau menywod i eirioli dros heddwch. Mae trosglwyddo’r gist a’r deisebau i Lyfrgell Genedlaethol Cymru’n anrhydedd a thestun balchder i ni, gan ei dychwelyd adref ar gyfer ei chan mlwyddiant.” 

Meddai Mererid Hopwood, Cadeirydd y Bartneriaeth:

“Yn helbul ein byd ni heddiw, mae’n fraint aruthrol cofio bod menywod Cymru, ganrif yn ôl, wedi bod yn ddigon eofn i fynd ati i geisio dod â heddwch i’r ddaear gyfan. Ein gobaith ni yw y bydd yr ysbryd hwn o gydweithio rhyngwladol er mwyn creu byd teg a di-drais yn dod o hyd i leisiau newydd drwy’r prosiect hwn.”

Meddai Susie Ventris Field, Prif Weithredwraig Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru:

“Pan ddaethom o hyd i glawr y ddeiseb yn Siambr y Cyngor yn y Deml Heddwch, roeddem yn gwybod bod hon yn stori ryfeddol am fenywod a’r mudiad heddwch yng Nghymru. Ers hynny, rydym wedi gweld pobl ledled Cymru, yn enwedig plant, wedi’u hysbrydoli gan y stori i gymryd eu camau eu hunain tuag at heddwch. Gyda’r ddeiseb ei hun yn dychwelyd i Gymru, mae cyfle pellach i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ymgyrchwyr heddwch.”

Meddai, Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog dros Gelfyddydau a Chwaraeon, Llywodraeth Cymru:

“Rydw i wrth fy modd bod Deiseb Heddwch 1923 yn dychwelyd i Gymru gan mlynedd ar ôl iddi fynd i Unol Daleithiau America. Hoffwn ddiolch i Sefydliad y Smithsonian am haelioni eu rhodd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r casgliad hwn o bron i 400,000 o lofnodion gan fenywod ledled Cymru’n ysbrydoliaeth. Gobeithiaf y bydd dychwelyd y ddeiseb hon i Gymru’n ysbrydoli a symbylu cenhedlaeth newydd o eiriolwyr dros heddwch.”

**This press release is also available in English**

--DIWEDD--

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Rhodri ap Dyfrig, Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru  
rhodri.apdyfrig@llyfrgell.cymru / 07855 362206

NODIADAU I OLYGYDDION: 
  • Ar Fai 23 1923, lansiwyd ‘Yr Apêl’ ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ystod Cynhadledd Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru  
  • Aeth 2 swyddog cyflogedig a 400 o drefnwyr lleol ati i drefnu’r ddeiseb a chasglu enwau, Roedd y trefnwyr hyn yn fenywod a dynion o bob rhan o Gymru ac o bob math o gefndiroedd cymdeithasol, gwleidyddol, crefyddol, ieithyddol.
  • Erbyn Rhagfyr 1923 roedd Mary Ellis yn hwylio i America i fraenaru’r tir ar gyfer derbyn y ddeiseb
  • Bu’n cydweithio gyda menywod disglair a blaengar fel Carrie Chapman Catt, Ruth Morgan a Harriet Burton Lees Laidlaw
  • Erbyn Chwefror 1924 roedd Annie Hughes Griffiths (gyda’i chyfeilles Gladys Thomas yn gwmni iddi) ac Elined Prys yn croesi’r Iwerydd i ymuno â Mary Ellis, gyda’r gist yn cynnwys 390,296 o lofnodion.
  • Cafwyd croeso brwdfrydig i’r ddirprwyaeth o Gymru a chinio mawreddog yn y Biltmore Hotel, Efrog Newydd. Dyma oedd dechrau ar ymweliad rhyfeddol o brysur a welodd deithio ac annerch cynulleidfaoedd yn ddiflino.
  • Ymhlith y llefydd yr ymwelwyd â hwy roedd Chicago, Salt Lake City, San Francisco, Los Angeles, Utica a hefyd Washington a’r Tŷ Gwyn lle’u croesawyd gan yr Arlywydd Calvin Coolidge  
  • Yn ystod prosiect Cymru’n Cofio (2014–18) yn y Deml Heddwch ac Iechyd Caerdydd daethpwyd o hyd i blac yn coffáu’r ddeiseb (y Memorial fel y’i gelwid, a wnaethpwyd o ledr hardd o Foroco a llythrennau aur) a dyma ddechrau ar y cwestiynu: Beth? Pwy? Pam?
  • Ysgogodd hyn sefydlu grŵp Heddwch Nain/Mam-gu yng Nghymru (ac yna yn yr UDA) a Phartneriaeth yn cynnwys:
    • Academi Heddwch Cymru  
    • Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru
    • Llyfrgell Genedlaethol Cymru
    • Amgueddfa Cymru
    • Heddwch Nain/Mam-gu – Cymru
    • Heddwch Nain/Mam-gu – UDA
    • Archif Menywod Cymru
    • Llywodraeth Cymru
    • Elin Jones, Llywydd y Senedd
  • Cadeirydd Academi Heddwch Cymru yw’r Gwir Barchedig ac Anrhydeddus Dr. Rowan Williams a llofnodwyr ei Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yw holl brifysgolion Cymru, Cymdeithas Ddysgedig Cymru, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru. Mae aelodaeth y grŵp yn cynnwys Urdd Gobaith Cymru, Race Council Cymru, Swyddfa Cenedlaethau’r Dyfodol a chynrychiolwyr y mudiadau heddwch yng Nghymru.
  • Mae’r Bartneriaeth wedi gweithio’n egnïol dros y tair blynedd diwethaf i geisio sicrhau ffordd o ddigido cynnwys y Ddeiseb wreiddiol fel ein bod ni heddiw yn gallu dysgu am y menywod o Gymru a fynnai weld byd di-ryfel ac fel ein bod ni’n gallu cael ein hysbrydoli i ailgydio yn y gwaith pwysig hwnnw.