Symud i'r prif gynnwys

Pecyn cymorth addysg a dysgu

Cefndir

Mae mudo o Dde Asia, gan gynnwys India, Bangladesh, a Phacistan, i'r DU a Chymru, gyda cysylltiad cryf â gwladychu Prydeinig yn y rhanbarth. Sefydlwyd Cwmni India'r Dwyrain (East India Company) yn 1600 i fasnachu ag India. Tyfodd yn bwerus ac erbyn 1858 roedd India yn cael ei rheoli gan lywodraeth Prydain. Parhaodd gwladychu nes i India ennill annibyniaeth ar 15 Awst 1947.

Drwy gydol hanes, mae unigolion o Dde Asia wedi dangos awydd i fudo ar draws Cefnfor India a thu hwnt i Asia. Daeth gwladychiaeth Ewropeaidd â chyfleoedd a heriau newydd, gan ail-lunio symudedd Indiaidd trwy sefydlu cysylltiadau uniongyrchol â'r Gorllewin. Roedd mynediad at longau Ewropeaidd wedi creu llwybrau ar draws y môr, gan ddenu teithwyr amrywiol.

Daeth twf yr Ymerodraeth Brydeinig â mwy o fewnfudwyr Asiaidd, yn bennaf i weithio fel gweision yn y DU a Chymru. Pan ddaeth gweithwyr Cwmni India'r Dwyrain, adref o Dde Asia fe ddaethant â gweision domestig, gan gynnwys plant a ayahs (nanis) gyda nhw. Er bod caethwasiaeth yn gyfreithlon mewn trefedigaethau, roedd yn anghyfreithlon ym Mhrydain. Fodd bynnag, nid oedd rhai o'r 'gweision' Asiaidd yn rhydd. Roedd y driniaeth yn amrywio'n fawr, o garedigrwydd i drais eithafol. Cafodd rhai gweision addewid y byddant yn cael dychwelyd i'w mamwlad, ond ni fyddai hynny'n digwydd yn aml. Er bod y gyfraith i fod i'w hamddiffyn, roedd rhai perchnogion yn trin eu gweision fel caethweision.

Dros ddwy ganrif a hanner, amcangyfrifwyd bod 20-40,000 o Indiaid, o haenau cymdeithasol gwahanol, wedi ymgymryd â'r daith hon. Ymgartrefodd rhai yn barhaol, gan integreiddio i gymdeithas Prydain, tra dychwelodd eraill i India, gan rannu eu profiadau Gorllewinol â'u cymunedau. 

Daeth prif gyfnod mudo o Dde Asia i'r DU a Chymru yn ystod y 1950au. Darganfyddodd astudiaeth fod 18% o fewnfudwyr wedi symud i Gymru a Lloegr rhwng 1939 a 1971.

(Schaefer, 1976; Fisher, 2024; Tiagi, 2024; BBC, 2024)

Llyfryddiaeth

Gweithgareddau

Nod - Darganfod mwy am ymfudiad De Asiaidd i Gymru a’r llwyddiannau a’r heriau a wynebwyd ganddynt.

Cymharwch â’r grwpiau eraill a’u straeon nhw am ymfudo i Gymru, a cheisiwch nodi cysylltiadau/tebygrwydd rhwng y rhesymau dros ymfudo i Gymru a’r DU

Profiadau dysgu

(sy'n deillio o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig)

Dyniaethau
  • Deall syniadau a safbwyntiau
  • Effaith dynol ar y byd
  • Deall y gorffennol
  • Deall hawliau dynol
  • Tebygrwydd a gwahaniaethau cymdeithasol
  • Cyfraniad at gymdeithas
  • Hunaniaeth
Iechyd a Lles
  • Empathi
  • Deall cydberthnasau
  • Teimladau ac iechyd meddwl
  • Penderfyniad cymdeithasol
  • Ymwybyddiaeth gymdeithasol

Gyda diolch i KIRAN Cymru

17eg ganrif

Mae cofnod o bresenoldeb De Asiaidd yn y DU dros 400 mlynedd yn ôl. Wedi i Gwmni India'r Dwyrain gyrraedd De Asia yn ystod yr 17eg ganrif, teithiodd llawer o Dde Asia i’r Deynras Unedig, lle cawsant eu cyflogi i weithio fel:

  • gweision
  • morwynion
  • morwyr
  • docwyr

 

 

Llafur Ymrwymedig (1834 i 1917)

Yn sgil dileu caethwasiaeth, sefydlwyd system o'r enw 'llafur ymrwymedig' i gael mwy o weithwyr ar ffermydd siwgr trefedigaethau Prydain yn India’r Gorllewin.  Cafodd dros 2 filiwn o weithwyr Indiaidd eu cludo i 19 o drefedigaethau, gan gynnwys:

  • Ffiji
  • Mauritius
  • Seilón
  • Trinidad
  • De Affrica

Serch yr addewid am gyflogau a thir, roedd y gweithwyr yn aml yn wynebu amodau garw a thâl isel.

Ymfudo Uniongyrchol cyn 1947:

Roedd rhai o’r bobl De Asiaidd cynharaf a setlodd yn y DU a Chymru’n cynnwys grwpiau amrywiol: 

  • gweision (fel morynion plant)
  • gweithwyr proffesiynol (fel doctoriaid a chyfreithwyr)  

Roeddent yn chwarae rolau amrywiol, gan gyfrannu’n sylweddol at y gymdeithas ym Mhrydain, serch y gwahaniaethu yn eu herbyn.

Ymfudo ar ôl 1947

Ar ôl 1947, roedd mudwyr o Dde Asia’n dod i’r DU a Chymru am resymau megis ffoi rhag gwrthdaro, chwilio am gyfleoedd gwell, ac ail-ymuno â’u teuluoedd.  Serch yr heriau, maent wedi gwneud cyfraniad sylweddol i sefyllfa wleidyddol, economaidd a chymdeithasol y DU.

Ymfydwyr Dwbl

Roedd llawer o bobl o Gujarat a Punjab yn India, yn gweithio fel masnachwyr, a gweision sifil mewn gwledydd Ymerodraeth Brydeinig yn Nwyrain a De Affrica. Wedi i'r gwledydd hyn ennill annibyniaeth yn y 1960au roedd gwledydd fel Uganda wedi gorfodi unigolion Asiaidd adael y wlad. 

Mae "ymfudwr dwbl" yn cyfeirio at bobl o Dde Asia a oedd yn byw mewn trefedigaethau Prydeinig, a ymfudodd yn ddiweddarach i'r DU a Chymru.

Heddiw

Mae ymfudo o Dde Asia wedi cynyddu, yn arbennig o ran swyddi o fewn gwasanaethau medrus fel:

  • bancio
  • TGCh
  • masnachu

Sy'n adlewyrchu’r twf economaidd yn India a rhannau arall o’r is-gyfandir.


Fel y gwelir o’r tabl isod, pobl De Asiaidd yw poblogaeth ethnig leiafrifol fwyaf Cymru.


Grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol yng Nghymru yn ôl y Cyfrifiad Cenedlaethol

 

2011

2021

Gwyn: Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gogledd Iwerddon neu Brydeinig

95.6%

93.8%

Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig

2.3%

2.9%

Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd

0.6%

0.9%

Grwpiau ethnig eraill

0.5%

0.9%

Grwpiau cymysg neu amlethnig

1%

0.6%

Aelwydydd â grwpiau amlethnig

4.2%

5.3%

Sut mae Cymru’n cymharu â gweddill y DU?

 

Cyfrifiad 2001

Cyfrifiad 2011

Cyfrifiad 2021

% o boblogaeth Prydain a nododd eu bod yn Asiaidd mewn rhyw ffordd

3.9%

7.5%

9.3%

% o boblogaeth Cymru a nododd eu bod yn Asiaidd mewn rhyw ffordd

0.9%

2.3%

2.9%


O’r boblogaeth ethnig Asiaidd hon, y wlad tarddiad fwyaf oedd rhai o dde Asia, megis:

  • India
  • Pacistan
  • Bangladesh

Fel y gwelwn o’r tabl, bu cynnydd yn yr ymfudo dros y ddwy ddegawd ddiwethaf.  Fodd bynnag, mae data cyfrifiad yn dangos bod y lefelau mewnfudo’n dal i fod yn isel cyn yr Ail Ryfel Byd.  Gwelwyd cynnydd mawr yn y raddfa ymfudo yn yr 1990au hwyr, a gyrhaeddodd lefelau digynsail.  Rhwng 1991 a 2011, gwelwyd y boblogaeth yng Nghymru a Lloegr a anwyd tramor yn dyblu a mwy, gyda bron pedair miliwn o unigolion ychwanegol, oedd yn cyfrif bellach am 13.4% o’r boblogaeth.


Mae rhesymau posib dros y mudo o is-gyfandir India i’r DU a Chymru yn cynnwys

1) Budd economaidd: Roedd mudwyr yn cael eu denu i’r DU a Chymru oherwydd cyfleoedd economaidd gyda 39% yn mudo am resymau economaidd yn unig. 

2) Statws: I 60% o Bwnjabiaid a mwy na 50% o Gwjaratiaid, roedd cystadlu lleol am statws yn ddylanwad sylweddol ar eu penderfyniadau mudo, ynghyd â’r manteision economaidd.

3) Addysg: Ers 1870, mae graddedigion prifysgolion India wedi heidio i Brydain i astudio ymhellach mewn meysydd fel meddygaeth, peirianneg, a’r gyfraith, rhywbeth sy’n parhau hyd heddiw.

4) Y galw yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf:  Ar ddechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf gwelwyd cynnydd mawr yn y galw am lafur, gan ddenu nifer fawr o Indiaid i gefnogi Byddin Prydain a diwydiannau pwysig.

5) Osgoi cystadleuaeth: Ers 1500 OC, mae mewnfudo o India i’r DU a Chymru wedi’i sbarduno gan yr awydd i ddianc rhag cystadleuaeth am dir a chyflogaeth, gan weld Prydain fel gwlad llawn cyfleoedd.

6) Cysylltiadau hanesyddolMae cysylltiadau hanesyddol hirsefydlog rhwng India â’r DU a Chymru wedi dylanwadu ar batrymau ymfudo o is-gyfandir India.


Asiaid Dwyrain Affrica

1960au and 1970au

Roedd miloedd o Asiaid Dwyrain Affrica oedd â phasbort Prydeinig wedi ymfudo i'r DU a Chymru yn ystod y 1960au a'r 1970au oherwydd gwahaniaethu neu ddiarddeliad o wledydd Affricanaidd annibynnol newydd fel Uganda.


Profiadau unigolion o Dde Asia sydd wedi ymfudo i Gymru yn ddiweddar


Llyfryddiaeth

  1. Leon DA, Strachan DP. Socioeconomic characteristics of interregional migrants in England and Wales, 1939-71. Environ Plan A. 1993 Oct;25(10):1,441-51. PMID: 12286801 ar gael: pubmed.ncbi.nlm.nih.gov/12286801/ cyrchwyd 31 Mawrth 2024
  2. A summary history of immigration to Britain. Updated 12 May, 2014 ar gael: www.migrationwatchuk.org/briefing-paper/48 cyrchwyd 31 Mawrth 2024
  3. Raaj Tiagi (2024) Occupational distribution and mobility of migrants born in South Asia: evidence from England/Wales Census, 1901–1911, South Asian Diaspora, 16:1, 35-48, available at doi.org/10.1080/19438192.2023.2183321 cyrchwyd 31 Mawrth 2024
  4. Fisher, Michael, Early Asian Travelers to the West: Indians in Britain, c.1600-c.1850. World History Connected 10.1 (2013): 40 pars. 31 Mar. 2024, ar gael: worldhistoryconnected.press.uillinois.edu/10.1/forum_fisher.html, cyrchwyd 31 Mawrth 2024
  5. Ram S. Indians in England: why did they emigrate? Popul Geogr. 1987 Jun-Dec;9(1-2):37- 44. PMID: 12179028 ar gael: pubmed.ncbi.nlm.nih.gov/12179028/% 20highest,and%2043.3%25%20were%20from%20Gujarat, cyrchwyd 31 Mawrth 2024
  6. www.bbc.co.uk/bitesize/guides/z327cwx/revision/2 cyrchwyd 31 Mawrth 2024
  7. Anitha, S. and Pearson, R. (2013) Striking Women. Lincoln: University of Lincoln. Ar gael: www.striking-women.org [cyrchwyd 31 Mawrth 2024]
  8. SCHAEFER, RICHARD T. “INDIANS IN GREAT BRITAIN.” International Review of Modern Sociology, vol. 6, no. 2, 1976, pp. 305–27. JSTOR, ar gael: www.jstor.org/stable/41420610. cyrchwyd 31 Mawrth 2024
  9. Hiro, Dilip. “Indians in Britain.” India International Centre Quarterly, vol. 6, no. 3, 1979, pp. 217–24. JSTOR, ar gael: www.jstor.org/stable/23001611. cyrchwyd 31 Mawrth 2024