Symud i'r prif gynnwys

Pecyn cymorth addysg a dysgu

Cefndir

Yn draddodiadol, byddai cymunedau Iddewig yn ffurfio pan fyddai masnachwyr unigol oedd yn ymweld â’r wlad yn setlo, ac eraill yn ymuno â nhw. Pan fyddai gan gymuned o leiaf 10 o ddynion dros 13 oed byddent yn cael gafael ar y sgrôl sanctaidd a ddefnyddiwyd mewn gwasanaethau, yn dod o hyd i fan cwrdd (synagog), ac yn llogi rhywun i ladd ieir yn unol â’r gyfraith Iddewig.

Gweithgareddau

Nod - Darganfod mwy am ymfudiad Iddewon modern i Gymru a’r llwyddiannau a’r heriau a wynebwyd ganddynt.

Profiadau dysgu

(sy'n deillio o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig)

Dyniaethau
  • Deall syniadau a safbwyntiau
  • Effaith dynol ar y byd
  • Deall y gorffennol
  • Deall hawliau dynol
  • Tebygrwydd a gwahaniaethau cymdeithasol
  • Cyfraniad at gymdeithas
  • Hunaniaeth
Iechyd a Lles
  • Empathi
  • Deall cydberthnasau
  • Teimladau ac iechyd meddwl
  • Penderfyniad cymdeithasol
  • Ymwybyddiaeth gymdeithasol

Llinell amser mudo Iddewon

1730au

Cafodd y gymuned Iddewig gyntaf yng Nghymru ei sefydlu yn Abertawe, lle’r oedd Iddewon wedi bod yn byw ers yr 1730au.  Cafodd gof arian Almaenig o’r enw David Michael afael ar dir ar gyfer mynwent yn 1768.  Yn nes ymlaen, mi adeiladodd synagog tu cefn i’w dŷ.

1810au

Sefydlwyd cymuned Caerdydd gan y teulu Marks, a ddaeth o Gastell Nedd yn yr 1810au.  Sefydlwyd synagog ym Merthyr Tudful yn 1848, yng Nghasnewydd yn 1859, ac ym Mhont-y-pŵl, Pontypridd, Castell Nedd a Thredegar yn yr 1860au/70au.

1850au

Ym Mhrydain, doedd dim cyfyngiadau ffurfiol ar Iddewon, ond roedd yr angen i dyngu llw fel Cristion yn eithrio Iddewon o lawer o swyddi i bob pwrpas oni bai eu bod yn troi at Gristnogaeth.  Er enghraifft, doedd Iddewon ddim yn cael mynd i Brifysgol Rhydychen na Chaergrawnt tan yr 1850au.

1880au

O’r 1880au ymlaen, cynyddodd nifer yr Iddewon Cymreig yn sylweddol wrth i fudwyr gyrraedd o Ymerodraeth Rwsia gynt.  Rhwng 1881 ac 1914 amcangyfrifir bod 4,500 o Iddewon wedi mudo o Ddwyrain Ewrop a setlo yng Nghymru, yn y de yn bennaf.  Roeddent yn dianc rhag erledigaeth a chonsgripsiwn i’r fyddin, ond roeddent hefyd am gael bywyd gwell.  Ymateb Prydain i hynny oedd Deddf Estroniaid 1905, a gyflwynodd reolau mewnfudo am y tro cyntaf.

 

1919

Roedd yna gymunedau Iddewig ar draws arfordir a chymoedd de Cymru, a hefyd ym Mangor, Llandudno, Bae Colwyn, Rhyl, Wrecsam a’r Trallwng.  Roedd y niferoedd ar eu hanterth tua 1919 pan oedd yna tua 5,000 o Iddewon yng Nghymru, ond roedd y nifer wedi haneru erbyn yr 1990au.

Kindertransport

Ar ôl ffoi ar draws Ewrop i ddianc rhag y Natsïaid, daeth tua 10,000 o blant Iddewig i Brydain rhwng Rhagfyr 1938 a Mai 1940 ar 'Kindertransport' (Trafnidiaeth Plant).  Daeth rhai ohonynt i Gymru.

Heddiw

Erbyn heddiw, mae tua 2,000 o Iddewon yn byw yng Nghymru, ond mae’r niferoedd sy’n aelodau gweithgar o’r cymunedau sydd ar ôl yn is o lawer.  Dim ond dwy synagog sydd ar agor bellach, y ddwy yng Nghaerdydd.


Byddai Iddewon yn aml yn newid eu henwau tramor er mwyn ffitio mewn yn well.  Roedd y nifer o Iddewon yn lleihau’n gyson am eu bod yn troi at Gristnogaeth, yn priodi pobl oedd ddim yn Iddewon ac yn allfudo, yn aml i lefydd gyda chymuned Iddewig mwy o faint fel Llundain, Manceinion, yr Unol Daleithiau ac Israel.  Roedd llai ohonyn nhw’n cadw’n at reolau Iddewig, er enghraifft y rhai oedd yn gwahardd gweithio neu yrru car ar y Sabath.

Mae cyfreithiau’r grefydd Iddewig yn dweud bod yn rhaid i Iddewon gael eu claddu ar dir cysegredig ac na ellir eu claddu mewn mynwentydd sydd ddim yn Iddewig.  Mae tair mynwent Iddewig yng Nghaerdydd, dwy yn Abertawe, ac un ym Mrynmawr, Llandudno, Merthyr Tudful, Casnewydd, a Phontypridd.


Kosher

Mae’r gair kosher yn golygu ‘addas’ neu ‘glân’ yn Hebraeg.  Mae’n disgrifio bwyd sydd wedi’i ladd a’i baratoi’n briodol yn ôl deddfau ac arferion Iddewig.  Mae kosher hefyd yn cynnwys rheolau eraill, fel peidio â bwyta cig a chynnyrch llaeth gyda’i gilydd.

Caeodd y siop bwtsiwr Iddewig olaf yng Nghymru yn 1992 pan wnaeth Arnold Krotosky a’i wraig Freya ymddeol i Bournemouth. Roedd tadcu Arnold yn dod o Wlad Pwyl.


Kindertransport

Ar ôl ffoi ar draws Ewrop i ddianc rhag y Natsïaid, daeth tua 10,000 o blant Iddewig i Brydain rhwng Rhagfyr 1938 a Mai 1940 ar 'Kindertransport' (Trafnidiaeth Plant).  Daeth rhai ohonynt i Gymru.  Mae gan bob un ei stori ei hun.  Dyma stori plentyn a ddaeth i Abertawe.

Cafodd Kärry (Kerry) Wertheim ei geni yn yr Almaen yn 1929.  Roedd hi’n bedair oed pan ddaeth Hitler i rym.  Yn yr ysgol, ni fyddai’r athro a’r plant eraill yn siarad efo’r plant Iddewig, felly wnaeth hi ddim dysgu ysgrifennu Almaeneg.  Cafodd ei theulu eu taflu allan o’u cartref am ei fod ‘yn rhy dda ar gyfer Iddewon’.

Mi aethon nhw i aros yn y synagog, ond cafodd honno ei rhoi ar dân yn 1937. Mi wnaethon nhw lwyddo i osgoi ieuenctid Natsiaidd oedd yn aros amdanyn nhw.  Cafodd ei gwahanu oddi wrth ei mam a’i hanfon i gartref plant amddifaid gyda’i phedwar brawd a chwaer iau, lle bu’n gofalu amdanynt.  Tra roedd hi allan yn prynu bwyd iddyn nhw, cafodd ei dal gan y Gestapo (heddlu cudd Natsiaidd).  Cafodd ei bwrw ganddynt â phastynau, a wnaeth niwed parhaol i’w harennau.

Yn 1939, cafodd ei rhoi ar drên, heb wybod i ble roedd hi’n mynd na pham.  Yn Llundain, cafodd ei chasglu gan ddieithryn oedd ddim yn siarad Almaeneg.  Mi aeth â hi i Abertawe.  Treuliodd y ddau ohonynt chwe awr ar y trên heb allu siarad â’i gilydd.

Newidiodd ei mam maeth enw Kerry i Ellen (enw nad oedd wedi’i glywed o’r blaen) a thorri’r plethau yn eu gwallt yr oedd mor hoff ohonynt.  Dysgodd Saesneg a mynd i’r ysgol.  Bu farw ei thad maeth pan oedd hi’n bymtheg oed a mabwysiadodd Ellen ei fusnes, oedd yn gwneud ategolion ac yn gorffennu dillad menywod.  Priododd pan oedd hi’n 17 oed a chael dau o blant.

Llwyddodd ei thad i ddianc o wersyll-garchar a ffoi i Awstralia.  Welodd hi mohono eto.  Cafodd wybod bod ei mam, ei brodyr (Rolf, Heinz, Sally a Ludwig) a’i chwiorydd (Ruth a Zilla) wedi’u hanfon i Riga, lle cawsant eu saethu.

Yn ddiweddarach bu Ellen yn siarad efo plant ysgol am yr Holocost.

Gwylio mwy o glipiau o Archif Ddarlledu Cymru ac Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

https://clip.llyfrgell.cymru/


Castell Gwrych

Rhwng 1939 a 1941, croesawodd Castell Gwrych tua 200 o ffoaduriaid Iddewig a oedd wedi ffoi o Ewrop a feddiannwyd gan y Natsïaid. 

Mwy o wybodaeth

Cyfraniad Iddewon i gymdeithas

Mae Iddewon wedi cyfrannu at gymdeithas Gymreig mewn sawl ffordd, yn cyfoethogi ei fywyd masnachol, diwylliannol a dinesig. Mi wnaethon nhw sefydlu nifer o fusnesau oedd yn darparu cyflogaeth.  Mae  pobl Iddewig wedi cyfrannu at y celfyddydau yng Nghaerdydd drwy ariannu lleoliadau celfyddydol. 

Mae’r brif neuadd gyngerdd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru wedi’i henwi ar ôl Donald Gordon, Iddew De Affricanaidd/Prydeinig, oedd yn fab i fewnfudwyr o Lithwania.

Harry ac Abe Sherman ariannodd Theatr Sherman.  Roeddent yn feibion i fewnfudwyr o Lithwania a Gwlad Pwyl yn Nwyrain Ewrop.

Mae’r Neuadd Gyngerdd yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru wedi’i henwi ar ôl Dora Stoutzker, a oedd yn ferch i fewnfudwyr o Rwsia.  Roedd hi’n athrawes biano a chanu yn Nhredegar.  Daeth ei mab yn ddyn busnes.

Yng Nghanolfan Celfyddydau’r Chapter, mae Theatr Seligman a Stiwdio Seligman wedi’u henwi ar ôl David a Phillipa Seligman.  Tyfodd David i fyny mewn kibbutz (fferm gymunedol) yn Israel.