Symud i'r prif gynnwys

Pecyn cymorth addysg a dysgu

Cefndir

Mae hanes hir a chymhleth i ymfudo o’r Eidal i Gymru, sy’n ymestyn dros nifer o ganrifoedd. Dechreuodd y mewnlifiad o Eidalwyr i Gymru yn hwyr yn yr 19eg ganrif, gyda thonnau sylweddol o fewnfudo yn gynnar yn yr 20fed ganrif ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Roedd rhesymau’r Eidalwyr i ymfudo i Gymru yn amrywio o gyfleoedd economaidd i ansefydlogrwydd gwleidyddol yn yr Eidal.

Gweithgareddau

Nod - Darganfod mwy am ymfudiad Eidalwyr i Gymru a’r llwyddiannau a’r heriau a wnaethant brofi.

Profiadau dysgu

(sy'n deillio o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig)

Dyniaethau
  • Deall syniadau a safbwyntiau
  • Effaith dynol ar y byd
  • Deall y gorffennol
  • Deall hawliau dynol
  • Tebygrwydd a gwahaniaethau cymdeithasol
  • Cyfraniad at gymdeithas
  • Hunaniaeth
Iechyd a Lles
  • Empathi
  • Deall cydberthnasau
  • Teimladau ac iechyd meddwl
  • Penderfyniad cymdeithasol
  • Ymwybyddiaeth gymdeithasol

Llinell amser mudo Eidalwyr

Diwedd y 19eg ganrif

Gwelwyd y don sylweddol gyntaf o ymfudo o’r Eidal i Gymru ar ddiwedd y 19eg ganrif.

Yn ystod y cyfnod hwn, ymfudodd nifer o Eidalwyr i Gymru i chwilio am waith yn:

  • y pyllau glo
  • gweithfeydd dur

Roedd y chwyldro diwydiannol wedi creu galw mawr am lafur, ac roedd yr Eidalwyr yn gweld Cymru fel cyrchfan deniadol oherwydd ei diwydiannau glo a dur ffyniannus. Roeddent yn cael eu recriwtio gan gwmnïau glo ac yn aml yn gweithio dan amodau anodd dan y ddaear.

Dechrau'r 20fed ganrif

Yn gynnar yn yr 20fed ganrif gwelwyd ton arall sylweddol o ymfudo o’r Eidal i Gymru.

Fe’i sbardunwyd yn bennaf gan ffactorau economaidd yn yr Eidal, sef:

  • cyfnod o ansefydlogrwydd gwleidyddol
  • dirwasgiad economaidd

Aeth nifer fawr o Eidalwyr i chwilio am gyfleoedd gwell dramor, gan gynnwys yng Nghymru.

Heriau


Mi wynebodd y mewnfudwyr o’r Eidal lawer o heriau ar ôl cyrraedd a oedd yn gwneud hi’n anodd iddyn nhw setlo yng Nghymru. Roedd rhain yn cynnwys:

  • rhwystrau iaith
  • gwahaniaethau diwylliannol

Yn aml byddent yn dioddef gwahaniaethu a rhagfarn gan y boblogaeth leol, a oedd yn eu gweld fel pobl o’r tu allan. Fodd bynnag, dros amser, llwyddodd nifer o Eidalwyr i sefydlu’u hunain o fewn cymunedau yng Nghymru ac adeiladu bywydau llwyddiannus.


Mae’r gymuned Eidalaidd yng Nghymru wedi gwneud cyfraniad sylweddol i gymdeithas y wladMaent wedi cyfoethogi’r sefyllfa ddiwylliannol drwy eu:

  • bwyd
  • celf
  • cerddoriaeth
  • traddodiadau

Mae bwytai a chaffis Eidalaidd wedi dod yn sefydliadau poblogaidd mewn nifer o drefi a dinasoedd yng Nghymru, gan gynnig blas o’r Eidal i bobl leol a thwristiaid fel ei gilydd.

Daeth y caffis newydd hyn yn llefydd poblogaidd iawn i gwrdd. Roeddent yn cynnig man cwrdd gwahanol a pharchus i gwrdd â ffrindiau a theulu o’i gymharu â’r dafarn leol. Roedd y caffis cynnar yn adnabyddus am beidio â gweini alcohol. Mae twf y caffis yn cyd-fynd â’r mudiad Dirwest yng Nghymru, a oedd yn annog pobl i gymdeithasu mewn caffis yn hytrach na thafarndai lle’r oedd alcohol ar gael.

Coffi a Hufen iâ

Roedd y caffis yn gweini coffi ffres a hufen iâ. Mae nifer o arbenigwyr yn dadlau mai’r Eidalwyr ddyfeisiodd hufen iâ modern ac mai ymfudwyr Eidalaidd a gyflwynodd hufen iâ i’r cyhoedd yng Nghymru am y tro cyntaf. Mae gan nifer o gwmnïau hufen iâ mwyaf Cymru gysylltiad ag mewnfudwyr Eidalaidd.


Yr Ail Ryfel Byd

Cafodd yr Ail Ryfel Byd effaith sylweddol ar ymfudiad Eidalwyr i GymruCafodd nifer o’r Eidalwyr a oedd wedi setlo yng Nghymru eu categoreiddio fel ‘gelynion estron’ ac roeddent yn wynebu cael eu caethiwo neu’u hallgludo.  Arweiniodd hyn at ostyngiad yn nifer y boblogaeth Eidalaidd yng Nghymru yn ystod blynyddoedd y rhyfel.  Fodd bynnag, ar ôl y rhyfel, dychwelodd rhai Eidalwyr i Gymru, gydag eraill yn cyrraedd fel carcharorion rhyfel ac yn penderfynu aros.

SS Arandora Star

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd Eidalwyr yng Nghymru oedd heb ddinasyddiaeth Brydeinig eu datgan yn elynion estron, ac anfonwyd nifer ohonynt i Ynys Manaw neu i Ganada. Collodd 53 o Eidalwyr o Gymru eu bywydau pan suddwyd y llong deithwyr Arandora Star yn 1940.

Mwy o wybodaeth

Gwylio mwy o glipiau o Archif Ddarlledu Cymru ac Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

https://clip.llyfrgell.cymru/

Gwersyll Carcharorion Rhyfel Henllan

Adeiladwyd y Gwersyll Carcharorion Rhyfel hwn yng Ngheredigion rhwng 1940 ac 1941. Roedd yn gartref i garcharorion Eidalaidd o 1943-1946. Yn ystod y dydd, roedd yn rhaid i’r carcharorion weithio yn yr ardal o amgylch y gwersyll, yn bennaf ar ffermydd lleol yng ngogledd Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion. Roeddent yn cyfrannu at yr economi leol a bywyd lleol.

Roedd y gwersyll yn cynnwys tua 35 o gabannau cysgu, cegin, ysbyty, cyfleusterau ymdrochi a theatr. Cafodd un o’r cabannau cysgu ei addasu gan y carcharorion a’i droi’n Gapel i’r Eidalwyr (NPRN 419278). Ar ôl i’r Eidal ildio yn 1946 gadawodd 700 o garcharorion, dewisiodd rhai i fynd yn ôl i’r Eidal i fyw, roedd eraill wedi aros yn lleol. Ers hynny mae’r gwersyll wedi dod yn gyrchfan pererindod i nifer a gadwyd yno, yn ogystal â’u teuluoedd.


Degawdau diweddar

Roedd y gymuned Eidalaidd yng Nghymru wedi sefydlu rwydweithiau cymdeithasol cryf i gefnogi’i gilydd a chynnal eu hunaniaeth ddiwylliannol. Cafodd cymdeithasau cyd-gymorth, clybiau cymdeithasol, a sefydliadau crefyddol eu sefydlu a oedd yn darparu cymorth ac ymdeimlad o berthyn. Roedd y rhwydweithiau hyn yn helpu ymfudwyr Eidalaidd i ymdopi â’r heriau roeddent yn eu hwynebu mewn gwlad newydd, ac i gadw eu treftadaeth ddiwylliannol.

Dros y degawdau diwethaf, mae ymfudiad Eidalwyr i Gymru wedi parhau, ond ar raddfa lai. Cyfleoedd economaidd a chysylltiadau teuluol oedd prif resymau dros y mewnfudo parhaus hwn. Mae nifer o Eidalwyr wedi dod o hyd i waith mewn sectorau fel lletygarwch, arlwyo, a thwristiaeth. Hefyd, roedd cynnydd yn nifer y myfyrwyr Eidalaidd sy’n astudio ym mhrifysgolion Cymru.

I gloi, mae yna hanes cyfoethog ac amrywiol i ymfudiad Eidalwyr i Gymru, sy’n ymestyn dros nifer o ganrifoedd. O’r 19eg ganrif hwyr hyd heddiw, mae Eidalwyr wedi mudo i Gymru i chwilio am gyfleoedd economaidd a bywyd gwell. Er bod yr Eidalwyr wedi gwynebu heriau a gwahaniaethu, maent wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i’r gymdeithas yng Nghymru.


Gyda diolch i The Arandora Star Memorial Fund in Wales