Cefndir
Mae llawer o hanes Caerdydd yn deillio o Chwyldro Diwydiannol y 18fed a’r 19eg ganrif. Y twf cyflym hwn yn y fasnach haearn a glo oedd y catalydd hefyd ar gyfer adeiladu nifer o ddociau yn ystod yr 1830au. Erbyn yr 1880au, roedd Caerdydd wedi trawsnewid o fod yn un o’r trefi lleiaf yng Nghymru i fod y fwyaf, ac roedd mwy o lo yn mynd trwy ei phorthladd nag unrhyw borthladd arall yn y byd.
Yn ystod y cyfnod hwn, datblygodd Tre-biwt ac ardal y dociau i fod yn gymuned gosmopolitan, gyda mordeithwyr o bob rhan o’r byd yn ymgartrefu yng Nghaerdydd. Amcangyfrifir bod pobl o 50 o wledydd gwahanol o leiaf wedi setlo yn yr ardal, y daethpwyd i’w hadnabod fel Tiger Bay (ni fagodd enw Cymraeg). Bu’r setlwyr yn helpu i adeiladu’r dociau, yn gweithio ar y llongau, ac yn cynorthwyo i wasanaethu’r ddinas ddiwydiannol a morol hon.
Gweithgareddau
Nod - Darganfod mwy am ymfudiad trigolion Tiger Bay i Gymru a’r llwyddiannau a’r heriau a wnaethant brofi.
Cwestiynau
- Disgrifiwch dwf cynnar Caerdydd. Cofiwch gynnwys y cynnydd mewn ymfudo yn eich ateb.
- Beth oedd canlyniadau positif yr ymfudo i Tiger Bay?
- Yn eich geiriau eich hun, disgrifiwch achosion, digwyddiadau, ac effaith Terfysgoedd Hil Caerdydd 1919.
- Pa wersi allwn ni ddysgu o astudio a myfyrio ar hanes Tiger Bay? Esboniwch eich atebion.
- Beth ddigwyddodd i gymuned Tiger Bay yn yr 1960au a’r 70au?
Straeon mudo i Gymru
Profiadau dysgu
(sy'n deillio o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig)
Dyniaethau
- Deall syniadau a safbwyntiau
- Effaith dynol ar y byd
- Deall y gorffennol
- Deall hawliau dynol
- Tebygrwydd a gwahaniaethau cymdeithasol
- Cyfraniad at gymdeithas
- Hunaniaeth
Iechyd a Lles
- Empathi
- Deall cydberthnasau
- Teimladau ac iechyd meddwl
- Penderfyniad cymdeithasol
- Ymwybyddiaeth gymdeithasol