Symud i'r prif gynnwys

Trwy weithio mewn partneriaeth ag Archif Cyn-filwyr Gorllewin Cymru a Changen Hanesyddol yr RAF cynhaliwyd arddangosfa i goffáu Brwydr Prydain a digwyddiad arbennig yng nghwmni’r Arglwydd Raglaw, Miss Sara Edwards a chyn-filwyr o’r Ail Ryfel Byd yn ystod gwanwyn 2022.

Bu arddangosfa Cyfrolau Cain yn gyfle i dynnu sylw at rai o rwymiadau cain mwyaf coeth y Llyfrgell ac i gyd-fynd â dyfodiad Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion roedd A Oes Heddwch?: Traddodiad yr Eisteddfod yn edrych ar ddatblygiad yr Eisteddfod Genedlaethol.

Cafodd arddangosfa At Blant y Byd oedd yn edrych ar hanes a datblygiad Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd gryn dipyn o sylw ar raglen The One Show wrth i’r mudiad ddathlu carreg filltir hollbwysig.

Cofnodwyd canmlwyddiant arall drwy gynnal arddangosfa Geiriau gyda Geiriadur Prifysgol Cymru, a phleser oedd cael cydweithio i ddod â’n casgliadau ynghyd i edrych yn ôl ar ddatblygiad y geiriadur Cymraeg o'i ffurfiau cynharaf hyd heddiw.

Am y tro cyntaf ers 30 mlynedd rhoddwyd cyfle i’r cyhoedd weld detholiad o brintiau o gasgliad Gregynog yn arddangosfa Gadael Argraff: Printiau Gregynog gan ddathlu casgliad celf y chwiorydd Gwendoline a Margaret Davies a gwaith Gwasg Gregynog.

Ymhlith y trysorau a welwyd yn yn yr arddangosfa roedd deugain o ysgythriadau gan Augustus John, hunanbortread eiconig Rembrandt, a set o broflenni prin a cynnar o Thames Set enwog James McNeill Whistler.

A hwythau’n berchen ar un o’r casgliadau celf pwysicaf yr ugeinfed ganrif ym Mhrydain,  bu’r chwiorydd Davies yn gefnogwyr hael i’r Llyfrgell Genedlaethol ar hyd y blynyddoedd, ac yn 1951, diolch i’w haelioni, cwblhawyd ac addurnwyd Oriel Gregynog. Y flwyddyn ganlynol, sef blwyddyn ar ôl marwolaeth Gwendoline, rhoddodd Margaret gasgliad o brintiau gwerthfawr i'r Llyfrgell.

Llafur100

Cynhaliodd y Llyfrgell ddigwyddiad yn y Pierhead yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd 2022 i nodi canrif o rym parhaol y Blaid Lafur yng ngwleidyddiaeth Cymru. Ymhlith y siaradwyr oedd y Prif Weinidog y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS, y Farwnes Eluned Morgan AS, Syr Deian Hopkin a’r Athro Richard Wyn Jones.  Cafodd detholiad o eitemau o gasgliadau’r Llyfrgell eu harddangos a derbyniodd y Llyfrgell amserlen ddigidol yn nodi digwyddiadau arwyddocaol yn hanes y Blaid Lafur sydd bellach i’w gweld ar ein gwefan. Ewch i llyfrgell.cymru/llafur100

Salem yn mynd yn ôl i Ardudwy

Fel rhan o ddigwyddiad Campweithiau Mewn Ysgolion – un o brosiectau estyn allan Llyfrgell Genedlaethol Cymru – cafodd disgyblion Ysgol Gynradd Llanbedr, Gwynedd gyfle i weld y paentiad enwogSalem gan Sydney Curnow Vosper yn y fro oedd yn ysbrydoliaeth i’r llun. Roedd y paentiad yn cael ei arddangos yn Ysgol Gynradd Llanbedr, sef yr ysgol sydd agosaf at safle’r capel sy’n ymddangos yn y darlun; cafodd y paentiad ei ddadorchuddio yng ngwasanaeth boreol yr ysgol fel bod yr holl blant yn cael cyfle i’w weld.

Bu disgyblion blynyddoedd 5 a 6 hefyd yn cymryd rhan mewn gweithdai paentio dyfrlliw yn seiliedig ar y campwaith, gan edrych yn fanwl ar y dulliau a ddefnyddiwyd i greu’r darlun. Mewn ail weithdy aethant ati i fwrw golwg ar y wisg Gymreig a chanolbwyntio ar batrwm persli siôl Siân Owen.

Yn ddiweddarach yn y flwyddyn gwahoddwyd holl ddisgyblion Ysgol Llanbedr i’r Llyfrgell Genedlaethol er mwyn iddynt weld ble mae’r darlun yn cael ei gadw’n ddiogel, ac i ddysgu mwy am gasgliadau eraill y Llyfrgell

Record: Protest, Gwerin a Phop yn Oriel Glan-yr-arfon

Yn ystod tymor yr Hydref 2022, cynhaliwyd arddangosfa Record: Protest Gwerin a Phop yn Oriel Glan-yr-afon, Hwlffordd oedd yn dwyn ynghyd uchafbwyntiau o bob rhan o’r casgliad ar y traddodiad cerddorol yng Nghymru ar hyd y canrifoedd: o’r crwth i Cyrff, drwy ddefnyddio amrywiol eitemau o’r Archif Gerddodol Gymreig a’r Archif Sgrin a Sain.

BBC 100 yng Nghymru: Uchafbwyntiau’r Newyddiadurwyr

Wrth i’r BBC yng Nghymru gyrraedd carreg filltir nodedig o ddarlledu i’r genedl ers canrif, daeth tri o newyddiadurwyr blaenllaw Cymru ynghyd mewn digwyddiad arbennig yn y Drwm. Bu Bethan Rhys Roberts, Felicity Evans a Wyre Davies yn bwrw golwg dros rai o straeon awr y degawdau diwethaf – digwyddiadau’r Gymru fodern yn ogystal â rhyfeloedd, ymosodiadau 9/11 a straeon oedd wedi newid trywydd hanes y byd – gan drafod pwysigrwydd newyddiaduraeth i’r gymdeithas heddiw gyda chymorth clipiau o Archif y BBC yn Archif Ddarlledu Cymru.