Symud i'r prif gynnwys

Rhagnodi Cymdeithasol

Mae Uned Gwirfoddoli y Llyfrgell yn cydweithio gyda nifer o asiantaethau sy’n cefnogi pobl fregus neu ynysig ac yn cyfeirio gwirfoddolwyr aton ni. Wrth dderbyn pobl sydd yn cael eu cyfeirio atom ni rydyn ni yn medru trafod anghenion penodol a disgwyliadau pob darpar wirfoddolwr gan geisio adnabod tasgau sy’n cyd-fynd â'u diddordebau. Rydyn ni hefyd yn eu cefnogi hyd y medrwn i oresgyn rhwystrau o safbwynt hyder a sgiliau, ac yn cwrdd â nhw yn rheolaidd i drafod boddhad a chynnydd wrth gyflawni tasg neu brosiect.

Eleni mae’r asiantaethau wedi cynnwys Workways Plus, Tîm Iechyd Meddwl Bwrdd Hywel Dda, Barod Cymru, Cyfle Cymru, Agoriad Cyf, Cyngor Sir Ceredigon, Y Groes Goch, Ymddiriedolaeth Shaw ac Age Cymru. Rydyn ni hefyd wedi derbyn nifer o unigolion sy’n hunangyfeirio i wirfoddoli oherwydd eu bod yn ddihyder, neu’n unig ac am ehangu eu gorwelion cymdeithasol.

Lles yn y gweithle

Yn ystod y flwyddyn adrodd parhawyd gyda sesiynau dwyieithiog ar les cyffredinol i’r staff trwy gynnig seminarau gyda Cana Consulting.

Profodd cyfnod COVID-19 bod y Llyfrgell yn gallu addasu i ddulliau gweithio newydd ac yn sgil hyn penderfynodd y Llyfrgell dreialu Polisi Gweithio Hybrid addas. Er mwyn cefnogi staff oedd yn dewis gweithio Hybrid, cynigiodd y Llyfrgell gyrsiau ar-lein a drefnwyd gan Gronfa Ddysgu Undebau Cymru oedd yn ymdrin â iechyd meddwl, ymwybyddiaeth ofalgar, a ffyrdd iach ac effeithiol o weithio o bell.

Datblygu Rheolwyr y dyfodol

Fel rhan o’i chynllun datblygu staff mae’r Llyfrgell yn cynnig cyrsiau rheoli er mwyn meithrin rhagoriaeth a datblygiad parhaus ym mhob adran a maes cyfrifoldeb. Yn y flwyddyn ddiwethaf derbyniodd nifer o staff gymhwyster Lefel 4 / Lefel 5 gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheoli. Mae hyn yn sicrhau bod gan staff y sgiliau priodol er mwyn cyflenwi gwasanaethau’r Llyfrgell yn effeithiol.

Dysgu Cymraeg

Yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ceredigion 2022 derbyniodd Mina Barnden, Swyddog Curadu Digidol Clyweledol y Llyfrgell wobr Dysgwr Cymraeg yn y Gweithle 2021/22 gan Dysgu Cymraeg Ceredigion, Powys a Sir Gâr am ei hymroddiad i ddysgu’r iaith ac wrth lwyddo mewn arholiadau. Cafodd Mina ei hysbrydoli i ddysgu’r Gymraeg pan ddaeth i weithio i’r Llyfrgell.