Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae'n bosib na fyddwn ni'n gallu cyrchu ein holl ddeunydd archifol rhwng 26 - 29 Mawrth 2025. Os fyddwch chi'n ymweld yn ystod y cyfnod hwn, gofynwn i chi archebu unrhyw ddeunydd archifol cyn 26 Mawrth os gwelwch yn dda. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Cyflawni’r gwaith
Eleni derbyniodd y Llyfrgell Genedlaethol lawysgrif yn cynnwys cerddi gan fardd o’r India o’r enw Dorothy Noel 'Dorf' Bonarjee (1894–1983). Fe’i ganed yn Bareilly ger Delhi yn ngogledd India, ond yn ddeg mlwydd oed symudodd hi a’i theulu i Lundain er mwyn addysg y plant, a bu ‘Dorf’ yn astudio yn y Dulwich High School for Girls, cyn dewis astudio Ffrangeg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth yn 1912. Enillodd gadair Eisteddfod y coleg yn 1914 gydag awdl delynegol i Owain Lawgoch (milwr Cymreig o’r 14eg ganrif) o dan y ffugenw ‘Shita’. Yn 19 oed, Dorothy Bonarjee oedd y fenyw gyntaf, a’r fyfyrwraig dramor gyntaf, i ddod yn fuddugol yng nghystadleuaeth Cadair Eisteddfod y Coleg ger y Lli.
Cadwodd gasgliad o’i phenillion mewn llyfr nodiadau du a adawodd mewn ewyllys i’w nith Sheila Bonerjee, a’r llyfr yma yw sail cyhoeddi ei chasgliad o farddoniaeth eleni. Mae’r cyhoeddiad diweddar gan wasg Honno yn rhoi cyfle i ni ddarllen rhai o’i cherddi am y tro cyntaf. Gweler The Hindu Bard: The poetry of Dorothy ‘Dorf’ Bonarjee wedi’i olygu gyda chyflwyniadau gan Mohini Gupta ac Andrew Whitehead (Welsh Women’s Classics – Honno, 2023). Gallwch darllen mwy amdani mewn erthygl newydd yn Y Bywgraffiadur Cymreig ar-lein.
Mae’r archif ddaeth gyda’r llawysgrif yn taflu goleuni newydd ar ei bywyd, ac yn ogystal â’r llyfr du barddoniaeth mae’n cynnwys ffotograffau, papurau teuluol, a llythyrau. Braint i’r Llyfrgell yw cael diogelu Papurau Dorothy Bonarjee ymysg ein trysorau cenedlaethol.
Fel rhan o waith Prosiect Gwrth-hiliaeth y Llyfrgell a noddwyd gan Lywodraeth Cymru dan y Cynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol, comisiynwyd gweithiau celf newydd gan bedwar artist a oedd yn ymateb i gasgliadau’r Llyfrgell, ac i gyfnodau heriol yn ein hanes.
Roedd portread o’r awdur, y bardd a dramodydd Eric Ngalle Charles a grëwyd gan Joshua Donkor yn ychwanegiad gwerthfawr i’r 15,000 o eitemau yn archif portreadau’r Llyfrgell.
Seliodd Jasmine Violet ei gwaith ar luniau a mapiau yng nghasgliadau’r Llyfrgell a oedd yn portreadu planhigfeydd siwgr yn Jamaica o’r 18fed ganrif gyda chysylltiad Cymreig.
Edrychodd Mfiklea Jean Samuel ar sut mae mapiau’n dylanwadu ar ein golwg ar y byd, trwy ymateb i fap o eiddo trefedigaethol Prydeinig yng Ngorllewin Affrica yn yr 1940au hwyr. Canolbwyntio ar y cysylltiadau rhwng y Fari Lwyd a gŵyl y Jonkonnu yn Jamaica wnaeth Dr Adéọlá Dewis, gan ddefnyddio casgliadau graffeg y Llyfrgell.
Ychwaengiadau eraill at ein casgliad oedd y cerflun Blodeuwedd gan Natalia Dias a’r ffilm Sitelines gan Seán Vicary, sef enillwyr y Fedal Aur yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Ceredigion 2022. Roedd y Llyfrgell yn falch o dderbyn wahoddiad gan yr Eisteddfod a CASW (Cymdeithas Celfyddyd Gyfoes Cymru) i ddewis enillwyr gwobr flynyddol CASW a derbyn rhodd ariannol ganddynt er mwyn prynu’r gweithiau hyn ar gyfer y Casgliad Celf Cenedlaethol.
Esiamplau eraill o weithiau â ychwanegwyd i’n Casgliad Celf Genedlaethol eleni, oedd 2 waith â grëwyd gan yr artist cyfoes Bedwyr Williams yn ystod y pandemig yn 2020, portread o’r awdures ac ymgyrchydd Angharad Tomos gan Luned Rhys Parri, a chyfres o luniau pwerus yn seiliedig ar y Fari Lwyd gan Clive Hicks-Jenkins. Gwaith arall pwysig a ychwanegwyd i’n casgliadau oedd gwaith brodwaith gan Anya Painstil. Gyda’i gwreiddiau yn Ghana ac yng Nghymru mae ei gwaith yn canolbwyntio ar hil a rhywedd.
Yn ystod 2022-2023 mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi gweithio mewn cytgord gyda’i phartneriaid yn Amgueddfa Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru i sefydlu Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru. Mae’r angen am arddangos celf gyfoes Cymru, cefnogi artistiaid newydd a darparu rhaglenni addysgol a diwylliannol wedi cael ei gydnabod gan y Llyfrgell ers amser maith, ac mae’r fenter hon gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Plaid Cymru yn gam cadarnhaol a phwysig ymlaen i gyflawni’r nodau hynny. Mae sicrhau bod yr oriel yn gynhwysol ac yn hygyrch i bobl o bob cefndir a gallu yn hanfodol ac edrychwn ymlaen at weithio gyda phartneriaid ar fentrau i wneud yr oriel – yn ei gwahanol leoliadau – yn ofod croesawgar ac amrywiol.
Ymysg uchafbwyntiau deunydd print a ychwanegwyd at gasgliadau’r Llyfrgell yn 2022-2023 mae cyfrol eithriadol o brin A briefe and short instruction of the art of musike gan Elway Bevin (1631) a hefyd argraffiad 1908 o’r gerdd Ffrangeg The romonaut of the rose.
Cafodd A briefe and short instruction of the art of musicke 1631 ei phrynu gan y Llyfrgell ym mis Mai 2022. Roedd yr awdur, Elway Bevin, o dras Gymreig yn ôl yr hynafiaethydd Anthony Wood. Gwasanaethodd fel côr-feistr ac organydd yn Eglwys Gadeiriol Wells, cyn cael ei apwyntio fel aelod o gôr y Capel Brenhinol trwy ddylanwad Godfrey Goodman, Esgob Caerloyw; mae nifer o lyfrau a phapurau yn ymwneud â theulu Goodman eisoes yn y Llyfrgell. Mae’r llyfr hwn yn eithriadol o brin, gyda dim ond tri chopi arall yn hysbys mewn llyfrgelloedd yn y Deyrnas Unedig.
Daeth cyfle i ychwanegu at gasgliad y Llyfrgell o’r gerdd Ffrangeg The romaunt of the rose ym mis Tachwedd 2022. Mae’r Llyfrgell yn meddu ar 24 argraffiad o’r gerdd wedi’u cyhoeddi cyn 1550, a ddaeth ganrif yn ôl fel rhan o gasgliad Francis William Bourdillon. Mae’r ychwanegiad hwn at y casgliad yn gyfieithiad Saesneg gan Chaucer, wedi’i gyhoeddi gan y Florence Press mewn argraffiad cyfyngedig o 12 copi ar femrwn gyda lluniau lliw mewn arddull cyn-Raffaelaidd.